Dim angen pàs Covid ar gyfer digwyddiadau dan do
- Cyhoeddwyd
![Tu allan clwb nos](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/91E1/production/_121554373_covidpassescardiff.jpg)
Mae pasys Covid wedi hollti barn
Mae'r cynllun pàs Covid ar gyfer digwyddiadau mawr, sinemâu, theatrau a chlybiau nos yng Nghymru yn dod i ben am hanner nos ddydd Gwener.
Ni fydd yn rhaid i leoliadau ofyn i ymwelwyr am y pàs, a all ddangos a yw rhywun wedi cael dau bigiad Covid, neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ddiweddar.
Dywedodd gweinidogion y byddai'n helpu busnesau i aros ar agor, ond roedd beirniaid wedi codi pryderon moesegol.
Roedd yn un o'r ychydig gyfyngiadau coronafeirws sydd ar ôl yng Nghymru.
'Dim arwydd o lwyddiant'
Mae gwrthwynebwyr wedi cwestiynu effeithiolrwydd y cynllun - mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud nad ydyn nhw "erioed wedi dangos unrhyw arwydd o lwyddiant".
Os bydd y lleoliad neu'r digwyddiad ei hun am fynnu pàs, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, meddai Llywodraeth Cymru.
Dylai teithwyr rhyngwladol edrych beth yw rheolau'r wlad y maen nhw am fynd iddi o ran y pàs Covid rhyngwladol, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.
![dyn ifanc yn y sinema](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/79B6/production/_121485113_cinema1getty.jpg)
Ni fydd angen y pàs Covid i fynd i glybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
Mae grŵp hawliau sifil yn awgrymu bod gweinidogion Cymru wedi derbyn mai effaith gyfyngedig fyddai'r pasys yn ei chael ar Covid.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru, yn ôl y grŵp rhyddid sifil Big Brother Watch, y gallai'r cynllun "wneud cyfraniad bach yn unig, ac mae'n debyg yn anfesuradwy, at leihau (neu arafu'r twf mewn) achosion difrifol o Covid-19, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau".
Fe wnaeth y sylwadau, meddai'r grŵp, mewn llythyr yn ymateb i'w camau cyfreithiol arfaethedig yn erbyn y pasys.
'Cadw busnesau'n agored'
Ond dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y pàs Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau'n agored ac i ddiogelu Cymru.
"Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a'u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni'n hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o'r diwedd ar fin dod ar fryn."
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at un astudiaeth, dolen allanol o'r Eidal, yr Almaen a Ffrainc, a gyflwynodd dystysgrifau Covid - roedd yr astudiaeth yn awgrymu bod pasys yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn, yn atal colledion economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar ofal dwys.
Beth yw'r cynllun i gael gwared ar reolau Covid Cymru?
Cael gwared ar basys Covid yw'r cam cyntaf mewn cynllun tair wythnos i lacio rheolau coronafeirws Cymru.
Ar 28 Chwefror, bydd rheoliadau mygydau wyneb yn cael eu llacio fel mai dim ond mewn siopau, gan gynnwys siopau trin gwallt a salonau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd eu hangen.
Ni fydd eu hangen mwyach mewn lleoliadau eraill - gan gynnwys amgueddfeydd a sinemâu - o'r dyddiad hwnnw.
Gallai gweinidogion Cymru gael gwared ar y rheoliadau sy'n weddill, gan gynnwys cyfyngiadau hunan-ynysu a'r rheolau mygydau, erbyn diwedd y mis nesaf.
Nid oes dyddiad penodol wedi'i bennu, er bod disgwyl i weinidogion wneud eu penderfyniad ar neu o gwmpas 3 Mawrth.
Mae rheolau mygydau eisoes wedi'u diddymu yn Lloegr a gallai cyfyngiadau hunan-ynysu ddod i ben yno y mis hwn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2022