CPD Bangor yn tynnu 'nôl o gynghreiriau Cymru

  • Cyhoeddwyd
NantporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb yn mynnu y bydd yn dychwelyd y tymor nesaf ar gyfer "dechreuad newydd"

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi tynnu 'nôl o gynghrair y Cymru North, gan ddweud nad oes ganddyn nhw'r opsiwn o barhau i chwarae oherwydd diffyg chwaraewyr cymwys.

Y penwythnos diwethaf fe gafodd y clwb - pencampwyr Cymru ar dri achlysur - saith diwrnod i dalu dyledion gwerth £53,000 neu wynebu cael eu diarddel o'r gynghrair.

Roedden nhw eisoes wedi'u gwahardd o "holl weithgareddau pêl-droed" yn dilyn methiant i dalu chwaraewyr a staff.

Mae'r clwb yn mynnu y bydd yn dychwelyd y tymor nesaf ar gyfer "dechreuad newydd".

Fe gadarnhawyd fis Ionawr nad oedd y clwb wedi gwneud cais am drwydded ar gyfer tymor 2022/23, sy'n golygu na fydd modd chware ar lefel uwch na'r bedwaredd haen y tymor nesaf.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi derbyn cais y clwb i dynnu 'nôl o'r gynghrair, ond ychwanegodd y gallai gael ei gosbi ymhellach am wneud hynny.

Addewid o 'fuddsoddwyr newydd'

Dywedodd cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, Domenico Serafino mewn datganiad ddydd Gwener y bydd y clwb "yn dychwelyd i chwarae y tymor nesaf, dim ots pa haen y bydd CBDC yn gadael i'r clwb chwarae".

"Bydd hyn yn bosib diolch i chwaraewyr newydd sydd ar gael i'r clwb, y staff, cefnogwyr a gwirfoddolwyr, ond hefyd diolch i'r buddsoddwyr newydd fydd yn cefnogi a llywio'r clwb hanesyddol yma trwy'r dechreuad newydd yma," meddai.

Mae'r clwb, sy'n chwarae yn stadiwm Nantporth ar gyrion y ddinas ac yn cael ei ystyried yn draddodiadol yn un o gewri'r byd pêl-droed yng Nghymru, wedi wynebu nifer o drafferthion yn y blynyddoedd diwethaf.

Wedi colli'i le yng nghynghrair y Cymru Premier yn dilyn methiant i sicrhau trwydded ar gyfer tymor 2018/19, aeth nifer sylweddol o'r cefnogwyr ymlaen i greu clwb newydd, Bangor 1876, oherwydd pryderon ynglŷn â'r ffordd yr oedd Clwb Dinas Bangor yn cael ei redeg.