Lluniau: Storm Eunice
- Cyhoeddwyd
Daeth Storm Eunice i Gymru gyda gwyntoedd yn hyrddio hyd at 90mya mewn rhai ardaloedd.
Cafodd dros 40,000 o dai eu gadael heb drydan, ac mae'r tywydd garw wedi effeithio ar ysgolion, busnesau a thrafnidiaeth ar draws y wlad.
Dyma rai lluniau o'r diwrnod.

Golygfeydd dramatig ar bromenâd Aberystwyth. Roedd tonnau enfawr i'w gweld yn ystod y bore

Tonnau yn codi uwchben goleudy Porthcawl. Fe wnaeth gwyntoedd cryfion gyrraedd arfordir Cymru o fore Gwener ymlaen

Roedd lefel y dŵr yn uchel yng Nghonwy. Cafodd y llun yma ei dynnu tu allan i Ysgol Aberconwy

Fe wnaeth y dŵr godi yn uchel ger Pont yr Aber yng Nghaernarfon. Cafodd agoriad swyddogol ffordd osgoi'r A487 ei ohirio oherwydd y tywydd

Adeiladau yng nghanol Y Fenai rhwng Gwynedd a Môn mewn sefyllfa ddifrifol yn sgil y llanw uchel

Tonnau uchel ar bier Penarth. Fe ddaeth rhybudd coch y Swyddfa Dywydd i ben am hanner dydd

Coeden fawr wedi dymchwel yng nghardd Terry Branton yn Abertawe

Ac mewn rhan arall o ddinas Abertawe, fe dynnodd Sophie Hannah y llun yma o sied oedd wedi chwythu mewn i'w gardd

Roedd dwy lori wedi troi drosodd ar yr M4 ym Margam, Castell-nedd Port Talbot