Logan Mwangi wedi marw o 'anafiadau difrifol'

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, cwrtais, hardd a chlyfar" mewn teyrngedau yn dilyn ei farwolaeth

Roedd gan fachgen pump oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon "anafiadau difrifol i'w organau a'i ymennydd", mae llys wedi clywed.

Cafodd Logan Mwangi ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf y llynedd.

Mae achos llys yn erbyn ei fam, Angharad Williamson, 31, ei phartner hi John Cole, 40, a bachgen 14 oed wedi dechrau yng Nghaerdydd.

Mae'r tri yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

56 o anafiadau

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod anafiadau Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn gyson gyda disgyn o uchder neu fod mewn gwrthdrawiad ffordd difrifol.

Wrth agor yr achos ddydd Llun, dywedodd yr erlynydd Caroline Rees QC: "Achos yr erlyniad yw bod Logan wedi ei lofruddio a bod pob un o'r tri diffynnydd wedi bod â rhan wrth ladd y plentyn pump oed."

Dywedodd bod y tri wedi ceisio cuddio eu rhannau yn y digwyddiad, gan "flaenoriaethu" ei hunain "dros bopeth arall gan gynnwys anghenion Logan".

Ychwanegodd Ms Rees bod patholegydd wedi canfod 56 o anafiadau allanol, ac mai achos yr erlyniad oedd bod Logan wedi marw o ganlyniad i ymosodiad difrifol yn y cartref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn gwadu llofruddio Logan Mwangi

Clywodd y rheithgor bod Ms Williamson wedi cysylltu gyda'r gwasanaethau brys i ddweud bod ei mab ar goll am 05:45 ar 31 Gorffennaf.

Clywodd y llys ei bod wedi cyhuddo dynes yr oedd hi wedi ffraeo gyda hi o'i gipio.

Cafodd Logan ei ganfod yn yr afon ym Mharc Pandy yn gwisgo pyjamas yn fuan wedyn. Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ble cadarnhaodd meddygon ei fod wedi marw.

Dywedodd Ms Rees bod ei anafiadau yn "sylweddol", gan ddweud bod patholegydd wedi eu disgrifio fel rhai "mor eithafol" y byddent yn gyson gyda gwrthdrawiad ffordd neu ddisgyn o uchder.

Cario corff o'r tŷ

Clywodd y llys bod Mr Cole a'r bachgen 14 oed wedi eu gweld ar gamerâu CCTV yn oriau man 31 Gorffennaf yn gadael y tŷ.

Roedd Mr Cole yn cario rhywbeth, ac erbyn hyn mae wedi cadarnhau mai corff Logan oedd yn ei freichiau.

Cerddodd y ddau ar hyd llwybr i'r ardal ble cafwyd hyd i gorff Logan.

Clywodd y llys bod golau wedi ei weld yn cael ei droi ymlaen ac i ffwrdd yn ystafell Logan.

Mae'r erlyniad yn honni bod hynny'n brawf bod Ms Williamson yn effro ac yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

Clywodd y llys bod Mr Cole a'r bachgen wedi dychwelyd, cyn gadael y tŷ eto, gyda'r erlyniad yn honni bod hynny i gael gwared ar ddillad gwaedlyd Logan.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig