Cewynnau yn rhoi wyneb newydd ar ffyrdd y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Ail wynebu'r A487Ffynhonnell y llun, Pura
Disgrifiad o’r llun,

Mae un ffordd yng Ngheredigion yn derbyn wyneb newydd diolch i hen gewynnau wedi'u hailgylchu

Mae hen gewynnau wedi cael eu defnyddio i roi wyneb newydd ar ddarn o ffordd ar yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Mae'r gwaith yn Llanarth, Ceredigion, yn rhan o beilot a allai olygu bod llai o glytiau yn cael eu taflu i domenni sbwriel.

Ar hyn o bryd, mae 140 miliwn o gewynnau yn cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru.

Y gred yw mai dyma'r ffordd gyntaf yn y byd i gael rhannau o glytiau yn rhan ohoni a chwmni o Rydaman, Nappicycle, sydd wedi datblygu'r dechnoleg newydd gyda chwmni Pura.

"Pryd ma'r nappies yn teithio trwy'r broses, maen nhw'n mynd trwyddo shredders sy'n torri'r nappies lawr," meddai Craig Masters o Nappicycle.

"Wedyn maen nhw'n mynd mewn i'r cycle sy'n golchi nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Craig Masters o Nappicycle gyda rhai o'r cewynnau newydd eu casglu

"Maen nhw'n cyrraedd wedyn y broses, ni'n galw'r back-end process. Dyna lle ni'n paratoi'r fibres i ddatblygu nhw."

Yn lân, heb ddrewdod, mae'r pelenni bach o ffeibr y cewynnau yn cael eu hychwanegu at y bitwmen sy'n gludo arwynebau ffyrdd.

107,000 o gewynnau sydd wedi mynd at y darn o ffordd yn Llanarth, mewn menter sydd wedi'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a gyfrannodd £180,000 at y cynllun peilot hwn.

Ffordd ddyfeisgar o leihau gwastraff

Yn ôl un arbenigwr, mae'n bwysig meddwl am ffyrdd dyfeisgar o leihau ein gwastraff.

"Mae'n crucial achos ar hyn o bryd 'mond 8% o'r plastig sydd erioed wedi cael ei greu sydd wedi cael ei ailgylchu," meddai Gwion Williams, technegydd ensymau ym Mhrifysgol Bangor.

Ffynhonnell y llun, Pura
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'i malurio a'u golchi, mae'r deunydd yn cael ei dorri lawr i ffurf pelets.

"Felly 'da ni angen solutions newydd, 'da ni angen meddwl mewn ffyrdd newydd. Mae o'n bwysig ofnadwy se ni'n dweud. Mae pethau fel 'ma yn fy ngwneud i'n optimistig."

Ar hyn o bryd wyth o'r 22 o gynghorau sir yng Nghymru sy'n anfon eu clytiau i gael eu hailgylchu yn Rhydaman - Rhondda Cynon Taf, Gwynedd, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent a Chaerdydd.

Gobaith Nappicycle yw ehangu'r cynllun i arbed mwy o wastraff rhag y domen sbwriel.

Pynciau cysylltiedig