'Rhaid symleiddio' y broses ailgylchu plastigion meddal
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r broses o ailgylchu plastig gael ei symleiddio, meddai cyfarwyddwr siop ddi-wastraff.
Yn ôl Amy Greenfield, mae pobl "wir wedi drysu" am beth maen nhw'n gallu ei ailgylchu a beth dydyn nhw ddim.
Mae plastig meddal - fel bagiau siopa a chaeadau ffilm blastig - yn cynrychioli 15% o'r holl wastraff nad yw'n bosib ei ailgylchu mewn cyfleusterau cyngor.
Dim ond 16% o awdurdodau lleol Cymru sydd yn casglu'r math mwyaf cyffredin o ffilm blastig.
Mae'r llywodraeth am sicrhau cyfleusterau cyngor i'w hailgylchu, meddai Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Mae rhai awdurdodau lleol yn casglu plastigion meddal, ond nid eitemau sydd wedi eu creu o fwy nag un deunydd, tra bod modd cael gwared ar y plastigion hyn mewn canolfannau gwastraff mewn ardaloedd eraill.
I bobl mewn rhai rhannau o Gymru, mae hi ond yn bosib cael gwared ar blastigion meddal mewn archfarchnadoedd.
"Dwi'n credu o bosib fod yna ormod o gyfrifoldeb ar y cwsmer," meddai Ms Greenfield, "ac mae'n rhaid i'r brandiau wneud pethau'n fwy syml."
'Angen cysoni'r broses'
Mae Amy Greenfield yn gyfarwyddwr ar Awesome Wales, sydd yn rhedeg siopau di-wastraff yn y Bontfaen a'r Barri ym Mro Morgannwg.
Yn y siopau mae modd i bobl ddychwelyd eitemau plastig na ellir eu hailgylchu i'r cwmnïoedd greodd nhw trwy gynllun Terracycle.
"Mae gennym ni gymaint o flychau gwahanol ac adrannau gwahanol oherwydd mae'n rhaid i bob eitem gael ei rhoi mewn ar wahân," meddai.
Y brif her yw ceisio cael pobl i ddeall pwysigrwydd gwahanu'r eitemau, meddai, am na fydd y gwastraff yn cael ei dderbyn os yw'r eitemau wedi eu cymysgu.
Yn ôl Ms Greenfield, mae'n rhaid i'r broses o ailgylchu gael ei symleiddio gan y bobl sydd yn creu eitemau plastig.
Un ffordd o wneud hyn fyddai sicrhau bod llai o wahanol ddeunyddiau yn cael eu defnyddio i greu un pecyn, gan fod hyn yn gwneud y pecyn yn anoddach i'w ailgylchu.
"Mae angen iddo gael ei gysoni," meddai.
Ond dywedodd y byddai angen i lywodraethau lleol a chenedlaethol gydweithio i gyflawni hyn trwy ddeddfwriaeth, am na fydd cwmnïoedd "yn gwneud hyn yn wirfoddol".
Sut byddai casglu plastigion meddal?
Fe wnaeth elusen ailgylchu a gwastraff Wrap gynnal cynllun peilot 12 wythnos ar gasgliadau plastig meddal mewn sawl ardal yn y de.
Dywedodd Emma Hallett o Wrap y byddai'n "hanfodol" i bobl wahanu gwahanol fathau o blastig.
Un broblem yw nad oes gan lorïau ailgylchu sydd yn casglu gwastraff mewn blychau ar wahân flwch ar gyfer plastigion meddal.
Ac mewn ardaloedd lle mae'r ailgylchu i gyd yn cael ei gasglu mewn un bag, byddai ychwanegu plastigion meddal yn medru llygru'r eitemau eraill neu achosi problemau yn y systemau ailgylchu.
Ond nid yw hyn wedi atal llywodraethau eraill - ym mis Medi, fe wnaeth Iwerddon gyflwyno plastigion meddal i'w casgliadau domestig.
Dywedodd adran amgylchedd llywodraeth Iwerddon fod datblygiadau technolegol yn caniatáu gwahanu deunyddiau gwahanol mewn cyfleusterau ailgylchu yno.
'Ysu' i adennill plastigion
Mae yna gam mawr tuag at gynnyrch un-deunydd er mwyn gwneud ailgylchu'n haws yn barod, yn ôl Rebecca Colley-Jones, rheolwr economi gylchol Platfform Economi Gylchol Polyolefins.
Ond dywedodd Ms Colley-Jones, sydd hefyd yn aelod o gyngor Cymreig Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, fod pecynnau plastig "yno am reswm," megis gwneud i fwyd bara'n hirach.
"Os edrychwch chi ar sut mae'r pecynnau'n gwella arbedion carbon... mae'n eithaf sylweddol."
Dywedodd bod y diwydiant yn "ysu" i adennill plastigion meddal, a "dydyn nhw ddim eisiau iddynt gael eu llosgi".
Er hyn, pwysleisiodd hi fod yna le i blastig er bod yna feirniadaeth deg ohono.
"Mae'n ddeunydd gwydn, hyblyg a chyn belled ac mae'n cael ei gadw a'i ailddefnyddio, dydy o ddim yn ddeunydd gwaeth - ac mewn sawl achos mae'n well - na sawl opsiwn arall."
Cyflwyno treth ar gynhyrchwyr
Mae Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, yn cytuno y dylai'r cyfrifoldeb dros reoli plastigion meddal fod ar y cynhyrchwyr yn hytrach na'r cyhoedd.
Mae'r llywodraeth yn anelu i gyflwyno treth ar gynhyrchwyr plastigion meddal ym mis Ebrill, ac yn bwriadu "annog" cynghorau i ddechrau casglu plastigion meddal, meddai Ms James.
"Mae'n gymysgedd. Ffi newidiol, dirwy ar rhai eitemau i geisio cael gwared arnynt, ac ymgyrch newid ymddygiad ar yr un pryd."
Ychwanegodd fod sgyrsiau wedi bod yn edrych ar agor cyfleusterau ailgylchu rhanbarthol a fyddai'n caniatáu i bobl roi eu holl ailgylchu mewn un bag, a byddai'r deunyddiau'n cael eu gwahanu yn y cyfleuster.
Yn ogystal, dywedodd y byddai am weld Cymru'n cyflwyno labelu gorfodol i ddangos beth sydd yn gallu cael ei ailgylchu a beth sydd ddim, am fod "llawer o gwsmeriaid wir yn grac".
Dywedodd fod llawer o bobl yn gweld y symbol triongl ailgylchu ar becynnau ac yn cymryd bod modd ei ailgylchu.
"Ond mae rhai o'r symbolau yn golygu na ellir ei ailgylchu yn y DU, neu dim ond mewn un lle ar y ddaear."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021