Caerdydd 'wedi cefnu' ar Sala cyn ei hediad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo cytundeb i symud o Nantes i Glwb Pêl-droed Caerdydd

Roedd y cyn-asiant pêl-droed, Willie McKay, yn "benderfynol" o helpu Emiliano Sala deithio i Gaerdydd, gan "nad oedd y clwb wedi gwneud digon", clywodd cwest yn Bournemouth.

Roedd Sala newydd arwyddo cytundeb i symud o Nantes i Glwb Pêl-droed Caerdydd, ond roedd eisiau dychwelyd i Ffrainc er mwyn ffarwelio â'i gyd-chwaraewyr.

Mr McKay drefnodd yr hediad rhwng Nantes a Chaerdydd ar 21 Ionawr 2019.

Bu farw'r Archentwr 28 oed pan blymiodd yr awyren Piper Malibu i Fôr Udd ger Guernsey.

Cafwyd hyd i'w gorff yn gynnar ym mis Chwefror 2019, ond nid yw corff y peilot, David Ibbotson, 59, erioed wedi'i ganfod.

Dywedodd Mr McKay ei fod o wedi gorfod trefnu'r awyren gan nad oedd hi'n ymddangos bod yr Adar Gleision am wneud hynny.

"Ceisio helpu bachgen oeddwn i, gan fod y clwb oedd newydd ei brynu am £15m, wedi cefnu arno fo," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Willie McKay ei fod yn "helpu ei fab" trwy drefnu'r hediad i gludo Sala o Nantes i Gaerdydd

Roedd wedi trefnu'r awyren drwy David Henderson - peilot profiadol oedd wedi ei hedfan o a nifer o chwaraewyr enwog eraill "ar sawl achlysur".

Nid yw Mr McKay yn asiant cofrestredig gan ei fod wedi mynd yn fethdalwr yn 2015.

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi ymwneud â throsglwyddiad Sala i Gaerdydd, fe atebodd ei fod yn "helpu ei fab".

Ei fab, Mark McKay, oedd wedi bod yn cynnal trafodaethau rhwng Nantes a Chaerdydd ynglŷn â chytundeb Sala.

Dywedodd Mark McKay wrth y cwest mai ei dad oedd yn gyfrifol am drefnu unrhyw hediadau ar ei ran.

"Os oedd o angen mynd i rywle ar frys, mi fyddai'n cysylltu â'r boi yma - Henderson," meddai Mark McKay.

Disgrifiad o’r llun,

Mark McKay oedd wedi bod yn cynnal trafodaethau rhwng Nantes a Chaerdydd ynglŷn â chytundeb Sala

Clywodd y rheithgor nad oedd Mr Henderson yn gallu hedfan yr awyren ei hun, ond bod Willie McKay yn "benderfynol" bod modd datrys y broblem.

O fewn hanner awr, roedd Mr Henderson wedi trefnu i ddefnyddio awyren arall gyda David Ibbotson yn beilot.

Cafwyd Henderson, sy'n 67 oed yn euog y llynedd o beryglu diogelwch awyren, a'i garcharu am 18 mis.

Clywodd y cwest ddydd Mercher nad oedd yr awyren yn cael ei defnyddio am gyfnod rhwng diwedd 2017 a mis Ionawr 2018.

Roedd yn rhaid gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw "sylweddol" arni, a gostiodd tua £20,000.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Henderson ei garcharu am 18 mis y llynedd am beryglu diogelwch awyren

Fe welodd y rheithgor gofnodion ffôn Willie McKay, oedd yn dangos 23 o negeseuon a galwadau ffôn gyda David Henderson a David Ibbotson rhwng 19 a 21 Ionawr.

Dywedodd Mr McKay nad oedd yn cofio natur y galwadau ond fe wadodd bod cwestiynau wedi codi ynglŷn â chyflwr yr awyren.

"Beth oedd yr holl alwadau?" gofynnodd y crwner, Rachael Griffin.

"Does gen i ddim syniad," meddai Willie McKay.

Ychwanegodd: "Pan rydych yn ffonio am dacsi, dydych chi ddim yn gofyn i'r gyrrwr os oes ganddo drwydded."

Dywedodd y crwner wrtho: "Gyda pharch, Mr McKay, mae gyrru tacsi yn wahanol iawn i hedfan awyren."

"Ydy. Ond hei ho," oedd ei ateb.

Mae'r cwest yn parhau.