'Angen rheoli triniaethau ychwanegol clinigau IVF'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hawys Barrett: ''Roedd ca'l cynnig y driniaeth ychwanegol yn confusing'

Mae angen rheoli "y triniaethau ychwanegol" sy'n cael eu cynnig gan rai clinigau IVF yn well, medd Aelod Seneddol o Gymru.

Dywed Alex Davies-Jones, AS Pontypridd, bod angen mwy o reoliadau gan fod clinigau sy'n cynnig triniaethau o'r fath yn gallu "manteisio ar bobl fregus".

Mae'r triniaethau ychwanegol yn ddrud ac yn gallu cael eu cynnig yn ystod triniaeth IVF ond mae eu llwyddiant yn amrywio.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Alex Davies-Jones, ei gŵr Andrew a Sullivan a gafodd ei eni wedi triniaeth IVF

Mae Alex Davies-Jones newydd gael triniaeth IVF ei hun mewn clinig preifat ar gost o dros £10,000 ac er na chafodd hi'r triniaethau ychwanegol, mae'n poeni bod rhai clinigau yn manteisio ar bobl fregus sydd eisoes wedi gwario arian mawr i gael plentyn.

Mae triniaethau fel glud i'r embryo, crafiad endometriaidd a phrofion imiwnoleg ymhlith y triniaethau ychwanegol sy'n cael eu cynnig.

Yn ôl yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol, y corff sy'n rheoli triniaethau ffrwythlondeb ar draws y Deyrnas Unedig (HFEA), does dim digon o dystiolaeth wyddonol i brofi bod rhai triniaethau ychwanegol yn llwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn "hollol annerbyniol" i glinigau ffrwythloni fanteisio ar fenywod bregus.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd Alex Davies-Jones driniaethau ychwanegol, ond mae'n poeni bod rhai clinigau preifat yn manteisio ar bobl fregus sy'n dyheu am blentyn

"O'n i wastad yn gwybod pan y bydden i eisiau dechrau teulu fy hun y byddai'n rhaid i mi gael cymorth ychwanegol, fel IVF," meddai Ms Davies-Jones.

"Ro'dd y Gwasanaeth Iechyd wedi gwrthod rhoi IVF i fi gan fod gan fy mhartner blant yn barod o berthynas flaenorol. Fe aethon ni i gael triniaeth breifat ac yn lwcus iawn fe wnaeth y driniaeth weithio ar ôl y rownd gyntaf.

"Ond yn anffodus nid dyna sefyllfa pawb. Mae sawl un na sydd wedi cael cynnig triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn mynd i glinigau preifat sy'n camwerthu triniaethau ychwanegol - triniaethau, yn ôl honiadau, fydd yn helpu beichiogi.

"Mae'n greulon iawn ac mae'r clinigau yn targedu pobl pan maen nhw'n fregus iawn. Rhaid i'r sector gael ei reoli," meddai.

Mae Alex Davies-Jones wedi ceisio dod â'r mater i sylw'r Senedd am dros chwe mis ond mae'n dweud nad yw'n bwnc sy'n cael sylw a'i fod i raddau yn destun tabŵ.

Yn ôl yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol mae dros 70% o'r rhai sydd wedi cael triniaeth IVF wedi derbyn triniaethau ychwanegol.

Yn ddibynnol ar y clinig fe allai'r triniaethau ychwanegol fod yn rhan o'r driniaeth IVF neu fe allai'r triniaethau gostio miloedd o bunnoedd yn ychwanegol.

Mae Hawys Barrett, 36, yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr Ian a'i mab, Mabon sy'n 17 mis oed.

Roedd y daith i ddod yn fam am y tro cyntaf yn un anodd. Fe gafodd Hawys feichiogrwydd ectopig annisgwyl yn 2017 ac fe wnaeth hi golli ei babi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hawys ac Ian a'u mab Mabon sydd bellach yn 17 mis oed

Ar ôl hynny fe dalodd Hawys ac Ian am ymgynghoriad mewn clinig preifat i weld beth oedd eu dewisiadau. Fe gafon nhw gynnig triniaeth laparoscopy lle mae camera bach yn cael ei osod yn y pelfis i weld beth yw'r ffordd orau i drin y claf.

"Byddai'r broses wedi costio bron i £5,000 i ni. Fe wnaeth e anfon ni adre a dweud wrthon ni i ystyried e. Roedd lot o oblygiadau - os bydden nhw'n ffeindio bod fy fallopian tubes i wedi difrodi'n ofnadwy ar ôl i fi gael beichiogrwydd ectopig, yna bydden nhw wedi tynnu'r tiwbiau 'na," meddai Ms Barrett.

"Felly o ran cael babi yn naturiol bydden ni ddim yn gallu 'neud 'na o gwbl a bydden nhw'n gorfod 'neud y penderfyniad 'na yn ystod y llawdriniaeth heb ofyn i fi neu oedd e'n broses le bydden nhw'n gallu 'neud yn siŵr bod y tiwbs yn oce - yn y gobaith wedyn y gallwn i gael babi yn naturiol.

"O'n ni ddim yn siŵr beth i'w wneud.

"Roedd ca'l cynnig y driniaeth ychwanegol yn confusing. Roedd e'n benderfyniad mawr ac o'n ni ddim yn gwybod beth i wneud am y gorau."

Ar ôl trafod eu sefyllfa gyda'u teuluoedd, fe benderfynodd Hawys ac Ian aros a chael cyngor gan arbenigwr yn y gwasanaeth iechyd.

"Yn y diwedd IVF oedd hi i ni. Roedd ddim rhaid i fi gael unrhyw lawdriniaeth. Wnaethon ni gael y cyngor i fynd am yr IVF drwy'r NHS. Wnaeth e ddim gweithio y tro cyntaf gydag embryo fresh ond roedd Mabon yn embryo oedd wedi cael ei rewi yr ail dro ac fe wnaeth hynny weithio i ni'n berffaith.

"I fi yn bersonol roedd IVF yn rhywbeth oedd yn rhoi lot o bwysau arno chi'n feddyliol ac mewn rhai ffyrdd mae'n cymryd drosto eich bywyd yn y cyfnod yna.

"O'n i'n lwcus ro'n ni ddim yn gorfod talu am y broses o gwbl. Allai ddim dychmygu beth mae'r pwysau 'na fel os chi 'di gwario savings chi neu wedi benthyg arian i gael y broses yna.

"Chi'n cyrraedd man le chi'n desperate a fi'n credu, os yw clinics private yn cymryd mantais ar y ffaith bod cyplau yn vulnerable ofnadwy ac yn desperate i gael babi, bod hwnna'n rhywbeth yn sicr mae angen dod â rheolau mewn i wneud yn siŵr bod neb yn gallu gwneud hynna i rywun."

'Ddim wedi cael y plant heb driniaethau ychwanegol'

Mae Sara Powell-Davies o Gaerffili yn fam i ddau o blant drwy IVF.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Sara nifer o driniaethau ychwanegol wrth geisio beichiogi

Yn ôl Sara fyddai hi ddim wedi gallu cael Tirion a Cadel oni bai am y triniaethau ychwanegol.

"Chi'n sôn yn fan hyn am ddweud wrth bobl eich bod yn cymryd eu siawns o gael plant i ffwrdd ohonyn nhw. Pwy sydd â'r hawl i gymryd y siawns yna i ffwrdd?"

Dyw taith IVF Sara a'i gŵr Peter ddim wedi bod yn un hawdd. Yn dilyn 11 rownd o IVF a thriniaethau ychwanegol fel gliw i'r embryo, crafu endometriaidd a chyfuniad o gyffuriau arbenigol fe gafodd eu merch gyntaf Tirion ei geni yn 2016.

Fe gafon nhw ddwy rownd arall o IVF i gael Cadel ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae'r teulu wedi penderfynu peidio cyfrif cost yr holl driniaethau gan mai cael Tirion a Cadel sydd bwysicaf iddyn nhw.

Er bod Sara yn difaru ei bod wedi ymddiried yn yr arbenigwyr a chymryd yr holl driniaethau ychwanegol heb ddigon o dystiolaeth wyddonol i brofi eu llwyddiant, mae hi'n ddiolchgar am hyder a meddwl agored un ymgynghorydd i drio rhywbeth gwahanol.

Mae gan Sara gyflwr lle mae ei system imiwnedd yn gorweithio. Fe feichiogodd hi am y tro cyntaf wedi i'r ymgynghorydd gynnig tabledi steroid rhad sy'n cael eu defnyddio yn aml gan feddygon teulu.

"Dwi'n credu dylai'r clinigau preifat gael gwneud mwy o ymchwil a chynnig triniaethau ychwanegol," medd Ms Powell-Davies.

"Allwch chi ddim gwneud treialon ac arbrofion arferol ym maes ffrwythlondeb - dyw e ddim yn foesol.

"Felly mae'n rhaid edrych ar ffyrdd eraill o wneud pethe, a dydw i ddim yn credu bod yr hyder yna i fod yn feddwl agored.

"Mae'r dystiolaeth yna, os ydych chi eisiau edrych amdani ac os ydych chi eisiau trafod gyda'r bobl gywir."

'Eisiau'r hawl i ddirwyo'

Mae'r corff sy'n rheoli triniaethau ffrwythlondeb ar draws y Deyrnas Unedig, HFEA, yn galw am fwy o bwerau i allu rhoi dirwyon i'r clinigau sy'n cynnig y triniaethau ychwanegol yn ddiangen.

Mae gan y corff y pŵer i orfodi'r clinigau i gau ond does dim ganddyn nhw'r pŵer i roi dirwyon.

Fe ddywedodd Peter Thompson, prif weithredwr yr HFEA: "Ni'n poeni am driniaethau ychwanegol, ac wedi bod yn poeni am nifer o flynyddoedd. Maen nhw'n cael eu cynnig yn amlach ar draws y wlad.

"Mae menywod yn gallu bod yn fregus iawn wrth gael triniaeth IVF ac wrth iddynt ddyheu am blentyn mae'r cynnig o driniaethau ychwanegol yn atyniadol iawn ond does dim tystiolaeth am eu llwyddiant."

Mae gwefan y corff yn dangos system golau traffig er mwyn awgrymu pa mor debygol yw hi y bydd amrywiol driniaethau yn gweithio. Does 'na'r un o'r triniaethau yn cael golau gwyrdd sef arwydd bod y driniaeth yn effeithiol ac yn fwy tebygol nag eraill o lwyddo.

"Os yw clinigau preifat yn mynd i gynnig triniaethau ychwanegol, yna mae angen iddynt eu cynnig mewn modd cyfrifol gan eu seilio ar anghenion yr unigolyn," medd Mr Thompson.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru taw Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n penderfynu os oes angen pwerau ychwanegol ar HFEA i reoli'r sector.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn "hollol annerbyniol i glinigau ffrwythloni gymryd mantais o fenywod bregus", a bod gan yr HFEA yr hawl i ddileu trwydded unrhyw glinig na sy'n dilyn y canllawiau.