Syndrom ofari polysystig: 'Hunllef cyn tabledi gwrth-iselder'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Angharad Lewis: 'O'dd e'n hunllef... o'n i ddim yn sylwi pa mor wael o'dd fy iechyd meddwl i ar y pryd'

Mae angen gwella'r gefnogaeth iechyd meddwl i fenywod sy'n byw â syndrom ofarïau polysystig (PCOS).

Dyna alwad elusen ac un arbenigwr o Brifysgol Caerdydd a ddywedodd wrth BBC Cymru Fyw nad yw'r cysylltiad rhwng y cyflwr a'r effaith mae'n gallu cael ar iechyd meddwl "yn cael ei gydnabod ddigon".

Yn ôl Angharad Lewis, 41, o Lanybydder sy'n byw â'r cyflwr, roedd ei symptomau mor wael fel "nad oedd hi eisiau byw".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod iechyd menywod yn "flaenoriaeth" iddyn nhw ac y bydd cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Disgrifiad o’r llun,

Croen blewog, acne, mislif trwm a thrafferthion wrth geisio beichiogi yw rhai o'r symptomau corfforol sy'n effeithio ar Angharad

Cafodd Angharad ddiagnosis o gyflwr PCOS 20 mlynedd yn ôl.

Roedd hi'n cael y symptomau arferol oedd yn gysylltiedig â'r cyflwr, ond heb yn wybod iddi ar y pryd, fe ddechreuodd gael effaith ar ei hiechyd meddwl.

"Ro'n i'n cael mislif trwm iawn, o'n i mewn poen ofnadwy am wythnos gyfan o bob mis, tyfu gwallt ar fy wyneb, gorbryder, poeni gymaint am fynd allan oherwydd y mislif trwm fel bod e bron yn embarrassing.

"O'dd e'n hunllef... o'n i ddim yn sylwi pa mor wael o'dd fy iechyd meddwl i ar y pryd".

'Ddim eisiau byw rhagor'

Penderfynodd Angharad yn 2006 ei bod hi a'i gŵr, Andrew, eisiau dechrau teulu.

Er mwyn dechrau ar driniaeth IVF, bu'n rhaid iddi ddod oddi ar ei meddyginiaeth atal cenhedlu oedd yn helpu lleddfu symptomau'r PCOS.

Fe waethygodd cyflwr meddyliol Angharad yn ddifrifol.

Ffynhonnell y llun, Angharad Medi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Fe geisiodd Angharad feichiogi trwy bum rownd o IVF - ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw lwyddo

"O'n i ar fy nglinie. O'dd e'n rheoli bywyd fi gyment.

"Cyn mynd i weld y doctor o'n i wedi cyrraedd y pwynt le o'n i ddim ishe byw rhagor.

"O'dd fy wyneb i 'di mynd yn flewog iawn, y poenau, jyst functiono o ddydd i ddydd jyst wedi cario arna i yn llwyr."

Cafodd Angharad feddyginiaeth gwrth-iselder yn 2019 a chafodd gyngor i roi ei hiechyd meddwl yn gyntaf.

Roedd hynny'n golygu stopio'r driniaeth IVF ac ail-ddechrau'r feddyginiaeth i reoli'r PCOS.

"Ma hi [y nyrs] wedi newid bywyd fi. Y cwbl na'th hi o'dd rhoi fi ar anti-depressant, Prozac, am chwe mis a rhoi fi ar y mini pill.

"Y geirie' gore glywes i gan y nyrs 'na o'dd 'anghofia am drio am fabi ar hyn o bryd. Ma'n rhaid iti edrych ar ôl dy hunan'."

Disgrifiad o’r llun,

Ers cael cefnogaeth gyda'i hiechyd meddwl, mae byd Angharad a'i gŵr "wedi newid yn llwyr", a'r ddau yn rhedeg Clwb Rygbi Llanybydder erbyn hyn

Mae Angharad yn galw nawr am fwy o gefnogaeth i gleifion PCOS.

"Fi ddim yn mo'yn gweld merched ifanc yn stryglo fel nes i. Ma' angen atebion ar fenywod... a mwy o gefnogaeth".

Beth yw PCOS?

Cyflwr sy'n cael ei achosi gan lefelau hormon abnormal yw PCOS sy'n aml yn achosi'r ofarïau i fynd yn systig.

Mae'r symptomau corfforol yn aml yn golygu anawsterau wrth golli pwysau, ceisio beichiogi a bod mwy o flew yn tyfu dros y corff a'r wyneb oherwydd lefelau uwch o hormon testosteron, sy'n uwch mewn dynion yn gyffredinol.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod menywod sy'n byw â PCOS â "risg llawer yn uwch o ddioddef o orbryder ac iselder" - a hynny oherwydd symptomau a sgil effeithiau'r cyflwr.

Ond maen nhw'n pwysleisio bod y symptomau'n amrywio o berson i berson.

'Bwlch yn y sgyrsiau gyda'r meddyg'

Yn ôl yr Athro Aled Rees o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigo mewn endocrinoleg, dyw'r cyflwr PCOS ddim yn cael ei gydnabod ddigon - yn enwedig yr effeithiau ar iechyd meddwl.

"Ma' PCOS yn gyffredin iawn," dywedodd. "Ma 'na ryw 8-13% o fenywod ifanc yn y DU yn dioddef o'r cyflwr ac mae'n glwstwr o broblemau'n sy'n dod at ei gilydd.

"Ma' cleifion yn aml yn dod atom ni i'r clinig ac mae'n amlwg o'r symptomau ma' nhw'n disgrifio ei fod yn mynd i gael effaith ar iechyd meddwl, a ni 'di gweld bod 'na ddim astudiaeth mawr wedi bod yn y gorffennol i edrych mewn i'r cysylltiad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rees yn athro ac ymgynghorydd ym maes endocrinoleg - mae'n dweud bod angen mwy o gefnogaeth iechyd meddwl ar gleifion PCOS

Dywedodd fod pethau'n dechrau gwella ond mae'n galw am fwy o bwyslais ar yr effaith ar iechyd meddwl mewn sgyrsiau gyda chleifion PCOS.

"Dw i'n credu, i ddechre, bod y linc [rhwng y symptomau corfforol a meddyliol] ddim wedi cael digon o sylw.

"[Mae angen] rhoi pwyslais i gleifion a doctoriaid bod unrhyw consultation neu sgwrs ma' rhywun yn ca'l gyda'r doctor yn cynnwys trafodaeth am iechyd meddwl achos ma' 'na driniaeth effeithiol ar gael."

'Ar ei hôl hi'

Mae elusen Triniaeth Deg i Ferched yng Nghymru yn galw am roi cyflyrau iechyd menywod ar frig agenda'r Llywodraeth - gan ddadlau bod y sgil-effeithiau meddyliol yn mynd yn angof yn aml.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Julie Richards o elusen Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru, mae Cymru "ar ei hôl hi" mewn sawl maes o ran iechyd menywod

Dywedodd Julie Richards, sy'n ymddiriedolwr gyda'r elusen: "Dyw'r cysylltiadau rhwng salwch, yn benodol i ferched, ddim yn cael ei ymchwilio'n ddigon trylwyr.

"Ni ar ei hôl hi, yn ofnadwy ar ei hôl hi. Mae angen clinigau arbenigol arnom ni yng Nghymru ac o ran iechyd ehangach menywod ni ar ei hôl hi ymhob un maes.

"Felly dim ond un o'r cyflyrau yw PCOS sy'n effeithio ar fenywod ac sydd ddim yn cael ei ddelio â yn y ffordd gywir."

'Cyhoeddi cynlluniau yn fuan'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles menywod yn flaenoriaeth i ni.

"Byddwn ni'n cyhoeddi yn fuan ein cynlluniau a fydd yn amlinellu sut ry'n ni'n disgwyl i'r GIG yng Nghymru gefnogi menywod i gael mynediad i'r gwasanaethau iechyd sydd angen arnyn nhw."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig