'Pryder cynyddol' am fenyw 96 oed sydd ar goll
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu eu bod yn "gynyddol bryderus" am fenyw 96 oed sydd ar goll.
Mae Rita yn dod o Aberhonddu a chafodd ei gweld ddiwethaf am 10:20 ddydd Sadwrn.
Y gred yw ei bod yn teithio ar droed, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Fe allai fod yn gwisgo siwmper cnu (fleece) gyda chynllun dail.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn "gynyddol bryderus am ei lles", gan ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.
Bydd trigolion yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol yn nhref Aberhonddu wrth i ymholiadau a'r chwilio barhau.