Teyrnged i wraig 'annwyl, ofalgar a chariadus'

  • Cyhoeddwyd
Judith Ann PenningtonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Judith Ann Pennington ar ei ffordd adref i'w chartref yn Llannerch-y-medd pan fu mewn gwrthdrawiad

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn.

Roedd Judith Ann Pennington yn 65 oed ac yn byw yn Llannerch-y-medd.

Bu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar y B5111 rhwng Llannerch-y-medd a Choedana yn hwyr prynhawn Gwener.

Dywedodd gŵr Mrs Pennington, Richard, ei bod yn wraig "annwyl, ofalgar, cariadus" a'i bod "ar ei ffordd adref" pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B5111 rhwng Coedana a Llannerch-y-medd

"Rydw i wedi fy llorio, mewn sioc lwyr a ni allaf ddeall na dychmygu bywyd heb Judith," dywedodd.

"Bydd pawb oedd yn nabod Judith yn cofio gymaint oedd ei hawch am fywyd, anturiaethau a chymdeithasu, er gwaethaf yr heriau iechyd y wynebodd yn dilyn strôc yn 2000."

Gan fynegi diolch i'r holl wasanaethau brys "a wnaeth popeth posib i geisio achub Judith", fe ychwanegodd: "Fe wela'i di'n fuan, fy angel."

Mae'r heddlu'n parhau i ofyn am wybodaeth ynghylch y gwrthdrawiad.

Roedd Mrs Pennington yn gyrru car Peugeot 208 llwyd i gyfeiriad Llangefni. Bu mewn gwrthdrawiad â Nissan Navara gwyn â threlar oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y Nissan Navara'n teithio rhwng Llanrhuddlad a Choedana a all gynnig lluniau dash cam o fudd i'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig