Logan Mwangi: Rheithgor yn gweld fideo o ganfod ei gorff
- Cyhoeddwyd
Mae fideo yn dangos y foment y cafodd bachgen pum mlwydd oed ei ganfod yn farw mewn afon wedi cael ei ddangos i reithgor.
Cafodd corff Logan Mwangi ei ganfod yn Afon Ogwr yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr toc wedi 06:00 ar 31 Gorffennaf 2021.
Clywodd achos yn Llys y Goron Caerdydd fod yr heddlu wedi mynd yno ar ôl cael galwad 999 gan fam Logan, Angharad Williamson.
Mae Ms Williamson, 30, llystad Logan, John Cole, 40 - y ddau o Sarn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - a bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu ei lofruddio.
'Wedi suddo o dan y dŵr'
Cafodd y fideo ei ffilmio ar gamera corff y Cwnstabl Lauren Keen o Heddlu De Cymru.
Mae'n ei dangos yn rhedeg tuag at gorff Logan yn yr afon ym Mharc Pandy yn Sarn.
Clywodd y llys yr wythnos ddiwethaf fod Logan wedi'i ganfod yn gwisgo pyjamas, ac wedi dioddef dros 56 o anafiadau "catastroffig" i'w ben a'i gorff.
Dywedodd y Cwnstabl Keen wrth y rheithgor fod Logan yn "gorwedd ar ei ochr dde" a'i fod "wedi suddo o dan y dŵr".
Ychwanegodd ei bod wedi ei godi o'r afon a sylweddoli fod ganddo "anaf i ochr chwith ei ben".
"Roedd ei lygaid yn llydan agored, roedd ei gorff yn stiff a'i wefusau yn las. Roeddwn i o'r farn fod Logan wedi marw," meddai.
Er ei bod o'r farn fod Logan wedi marw, dywedodd PC Keen nad ei phenderfyniad hi i'w wneud oedd hynny, ac felly ei bod hi a'i phartner PSCO Chris Freeth wedi perfformio CPR arno nes i barafeddygon gyrraedd.
Fe wnaeth Ms Williamson ddechrau llefain yn uchel wrth i'r fideo gael ei ddangos i'r llys.
Dywedodd PCSO Freeth ei fod yn cofio bod Logan yn gwisgo "trowsus pyjamas dinosoriaid, a thop Spiderman".
Mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud hysbysiad ffug i'r heddlu bod person ar goll.
Mae Mr Cole wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022