Cadarnhau penodiad Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai'r Cyrnol James Phillips sydd wedi ei benodi'n Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru.
Mae comisiynwyr o'r fath eisoes yn Yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon a bu galw ers sbel am gomisiynydd yng Nghymru hefyd i gynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog.
Dywedodd y Cyrnol, sy'n byw yn Sir Benfro, y bydd yn "defnyddio fy mhrofiad a'm sefyllfa i wella bywydau pob cyn-filwr a'u teuluoedd".
Bydd yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Steve Barclay a'r Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr, Leo Docherty.
Mae'r gwaith yn cynnwys:
Craffu a chynghori ar bolisi'r llywodraeth ar gyfer cyn-filwyr;
Sicrhau bod anghenion a chyfraniadau penodol cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cynrychioli;
Helpu cyfeirio cyn-filwyr a'u teuluoedd at gymorth lleol mewn meysydd fel darpariaeth gofal iechyd ac iechyd meddwl, tai a chyflogaeth;
Chynorthwyo elusennau'r gymuned gyn-filwyr yng Nghymru.
Mae'r Cyrnol Phillips, sy'n briod ac yn dad i bedwar o blant, newydd ddychwelyd i fywyd sifil yn dilyn 33 o flynyddoedd gyda'r Fyddin.
Fe wasanaethodd yn Yr Almaen, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Afghanistan ac Iraq.
Mae wedi gorchymyn milwyr, morwyr a phersonél awyr ac wedi gweithio yn NATO yn ogystal â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a Phencadlys y Cyd a'r Fyddin.
Dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr" at fod yn Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru, gan ychwanegu: "Mae'r gymuned gyn-luoedd yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru ac mae traddodiad hir o wasanaeth ac aberth."
Dywedodd Simon Hart bod "cyn-filwyr a'u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt".
"Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cynyddu ac yn cydlynu'r cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog," meddai.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn bod Llywodraeth Cymru'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cyrnol Phillips "fel rhan o'n hymrwymiad i gyn-filwyr ledled Cymru".
Ychwanegodd: "Mae Cymru'n darparu ystod eang o gymorth i gyn-filwyr - o Gyn-filwyr GIG Cymru i'n Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog - ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi pawb sydd wedi gwasanaethu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021