Penodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd comisiynydd i gynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru'n cael ei benodi eleni, yn ôl Llywodraeth y DU.
Mae eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon y fath gomisiynwyr, sydd yn cynrychioli cyn-aelodau o'r lluoedd arfog.
Fe wnaeth y canghellor addo i ariannu'r rôl fis Hydref diwethaf, ac mae ymgyrchwyr wedi pwyso ar weinidogion Cymru a'r DU i gydweithio er mwyn cyflymu'r broses.
Gweinidogion y DU sydd yn gyfrifol am y lluoedd arfog, ond mae nifer o benderfyniadau polisi sy'n ymwneud â chyn-filwyr yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd.
Mae'r rhain yn cynnwys gweinyddiad y GIG a thai, sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
'Fedrwn ni ddim dibynnu ar elusen'
Mae tua 140,000 o gyn-filwyr yng Nghymru, ac mae unigolion blaenllaw fel Simon Weston wedi galw am "un llais" i'w cynrychioli.
Yn ymateb i'r cyhoeddiad fore Mercher, dywedodd Mr Weston y byddai hyn yn golygu na fydd angen i filwyr "ddibynnu ar elusen gymaint".
"Mae yna gymaint o broblemau cymhleth yn ymwneud â phobl sydd wedi gwasanaethu," meddai wrth y BBC.
"Ar y cyfan, mae'n rhaid i gyn-filwyr a chyn-gymuned y lluoedd arfog fynd at elusennau i gael y problemau hyn wedi'u datrys, oherwydd does neb yn delio gyda'r peth yn uniongyrchol."
Bydd hi'n gyfrifoldeb ar y comisiynydd i ddod i'r afael â'r problemau hyn, fel tai a phensiynau, mewn cyd-destun Cymreig, yn ôl Mr Weston.
"Mae gennym ni'r awdurdod pensiynau yn Blackpool - ond yn y bôn ni fydd y problemau ynghylch arian pobl yng Nghymru bob tro'r un peth ag y maen nhw yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan fod gan bobl gwahanol flaenoriaethau."
'Problem Brydeinig'
Cyn-filwr arall sydd wedi croesawu'r cyhoeddiad yw Martin Topps, cyn-sarjant fu'n gwasanaethu yn yr hen Iwgoslafia ac yn Afghanistan gyda'r Gwarchodlu Cymreig.
Gobaith Mr Topps yw i'r comisiynydd sicrhau mwy o gymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl a chorfforol cyn-filwyr.
"Dwi'n dioddef yn ofnadwy efo pen-glin drwg ar hyn o bryd, i gyd lawr i'r service dwi di rhoi i'r fyddin ers 24 mlynedd."
Ychwanegodd iddo dderbyn triniaeth "arbennig" ar gyfer PTSD trwy'r GIG a Veterans Wales.
Dywed Mr Topps na ddylai fod comisiynydd arbennig i Gymru, ond un ar gyfer y DU i gyd.
"British Army oddan ni, ddim Welsh army - so British problem 'dio."
'Cynyddu a chydlynu cymorth'
Yn 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi mwy na £500,000 i barhau i ariannu saith swyddog cyswllt lluoedd arfog a gwasanaethau arbenigol eraill.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart y gallai'r comisiynydd newydd helpu i sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth o wasanaethau drwy Gymru.
"Mae gan y lluoedd arfog hanes hir a phwysig yng Nghymru, ac rydyn ni'n andros o falch o'n cyn-filwyr Cymreig," meddai.
"Mae'n cyn-filwyr ni a'u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cymorth a pharch trwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.
"Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru'n cynyddu a chydlynu'r cymorth sydd ar gael, ac yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru groesawu'r penderfyniad hefyd.
Dywedodd Hannah Blythyn, dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol: "Fe fydd hyn yn ychwanegu gwerth i'r cyfoeth o gymorth a gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru.
"O'n gwasanaeth Cyn-Filwyr GIG Cymru unigryw, sydd yn cefnogi cyn-filwyr gyda phroblemau iechyd meddwl, i'n swyddogion ymgysylltu lluoedd arfog, yn cynnig cymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd gyda gwybodaeth ar gymorth lleol sydd ar gael mewn meysydd allweddol fel gofal iechyd a thai, cefnogi elusennau i ddod i'r afael ag unigrwydd, ac adnoddau i gefnogi sefydliadau i gyflogi cyn-filwyr.
"Fel llywodraeth rydyn ni'n parhau'n ymroddgar i ddarparu gwasanaethau a chymorth i'n cyn-filwyr yng Nghymru, ac mae cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2021