Mam Logan Mwangi: 'Fy job i yw ei amddiffyn a rwy' wedi ei siomi'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi gweld lluniau fideo o fam Logan Mwangi'n crio ac yn syrthio mewn llewyg wedi i'r heddlu ddweud wrthi ei fod wedi marw.
Yn y lluniau mae Angharad Williamson, oedd wedi cysylltu â'r gwasanaethau brys yn dweud bod y bachgen pum mlwydd oed ar goll, yn dweud wrth yr heddlu ei bod wedi "siomi" ei mab gan fod cyfrifoldeb arni i'w warchod.
Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr toc wedi 06:00 ar 31 Gorffennaf 2021.
Mae Ms Williamson, 30, llystad Logan, John Cole, 40 - y ddau o Sarn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - a bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu ei lofruddio.
Mae lluniau camerâu corff yr heddlu, sy'n awr o hyd, yn dangos Ms Williamson yn cwympo ar wely yn wylofain.
Yn gynharach roedd hi wedi mynnu gwybod beth oedd wedi digwydd i Logan gan ddweud: "Fy mabi yw e. Fy mab yw e... fy job i yw i'w warchod a rwy' wedi ei siomi."
'Lle mae fy mab?'
Ar ddechrau'r lluniau, mae Ms Williamson yn cael ffit ac yn rholio ar y llawr. Wrth ddod at ei hun, mae'n gofyn: "Lle mae fy mab?"
Mewn trallod, mae hi'n mynnu ei weld, cyn dweud: "Mae epilepsi difrifol arna'i. Dydw i ddim yn teimlo gant y cant ar y foment. Rwy' angen awyr iach."
Mae swyddogion heddlu'n ceisio ei llonyddu, ynghyd â Mr Cole sy'n ei chynghori na allai "risgio cael ffit arall".
Dywedodd Ms Williamson wrth y Cwnstabl Matthew Davies: "Rwy' wedi gwylio digon o raglenni a dogfennau heddlu i wybod bod rhywbeth yn mynd ymlaen. Rhaid i chi ddweud y cyfan wrtha'i. Dydw i ddim yn dwp."
Atebodd y Cwnstabl Davies: "Dydw i ddim yn meddwl eich bod yn dwp, ond mae'r wybodaeth yn gyfyng ar hyn o bryd a ni allwch chi fynd yna ar hyn o bryd."
Drwy'r cyfnod mae Ms Williamson yn wylo ac yn cael trafferth anadlu ar un pwynt.
'Rwy' angen mynd â blanced iddo'
Mae'r lluniau'n dangos ffrind yn cyrraedd i gysuro'r diffynnydd, sy'n parhau i fynnu cael gweld Logan.
Mae'n bosib wedyn i'w chlywed yn dweud: "Fy mab i yw e... rwy' angen gwybod beth sydd wedi digwydd. Fy job i yw ei amddiffyn a rwy' wedi ei siomi."
Mae hi'n crio eto, gan feio'i hun am fethu â thrwsio drws cefn y tŷ na dysgu Logan i nofio.
Dywedodd wrth ei chyfaill: "Bydd hypothermia arno. Rwy'n angen mynd â blanced iddo, doedd e ddim yn gwisgo sgidiau na chot."
Wedi hynny mae Ms Williamson yn cerdded i lawr llwybr o'i fflat i'r afon gyda swyddog heddlu ac mae hi'n cwestiynu pam bod tâp heddlu wedi ei osod.
Mae hi'n rhedeg yn ôl i'r tŷ gan ddweud wrth ei ffrind a'i chymar: "Mae'n edrych fel rhywbeth o ffilm lawr 'na. Rwy' dal ddim yn gwybod ble mae Logan. S'neb yn dweud dim wrtha'i."
Ar ddiwedd y lluniau, mae swyddog heddlu'n dychwelyd i ystafell wely Logan ac yn dweud wrth Ms Williamson a Mr Cole bod Logan wedi marw. Mae Ms Williamson yn torri lawr ac yn cwympo ar y gwely tra bod Mr Cole yn ceisio'i chofleidio.
Clywodd Llys Y Goron Caerdydd yn gynharach dystiolaeth gan y Sarjant Richard Lea, a gafodd alwad ffôn gan y Cwnstabl Lauren Keen. Yn yr alwad dywedodd hithau ei bod wedi tynnu plentyn o'r afon ac yn credu bod ei gyflwr yn un statws 'cod glas' ble mae perygl i fywyd.
Aeth Sarjant Lea yno a gweld parafeddygon a swyddogion heddlu'n ceisio adfywio Logan. Aeth i'r fflat wedyn ble roedd Ms Williamson "yn llawn emosiwn ac yn gweiddi 'ble mae fy mab?'".
Dywedodd bod Mr Cole yn chwysu, allan o wynt ac yn loncian ar hyd y stryd. "Roedd golwg ofidus arno ac eithaf cynhyrfus," meddai. "Ni allaf gofio iddo ddweud llawer ond roedd yn ceisio ei llonyddu, oedd yn anodd."
Fe welodd Ms Williamson yn cael "rhyw fath o ffit" gan gwympo a rholio ar y llawr, ac fe ddywedodd Mr Cole ei bod yn epileptig. Roedd yntau ar y llawr gyda hi ac yn ceisio gwarchod ei phen.
Pan ddaeth at ei hun, gofynnodd iddo am gael gweld Logan. Dywedodd Sarjant Lee wrth y llys: "Roedd yn amhosib. Dywedais wrthi ei fod yn anymwybodol a bod parafeddygon a chydweithiwr imi'n rhoi CPR iddo.
"Estynnais fy mraich i'w hatal rhag gadael y fflat. Dywedodd wrtha'i i beidio rhoi fy mraich o'i blaen."
'Staen ar y gwely'
Clywodd y llys hefyd gan y Cwnstabl Russell Hibbs oedd wedi cyrraedd y fflat am 06:00. Roedd Ms Williams ar ei gliniau yn crio ac yn dweud "mae rhywun wedi cymryd fy mabi".
Fe wnaeth ef a Chwnstabl Matthews archwilio'r fflat, rhag ofn bod y bachgen rywle yn y tŷ, gan edrych o dan welyau, soffas a bocsys.
Dywedodd bod duvet gwely Logan "wedi crychu, doedd dim cynfas, roedd y llenni ar agor, roedd yna staen ar y gwely. Ni wyddwn beth oedd y staen, ac roedd y ffenestr fodfedd neu ddwy ar agor."
Mae lluniau camera corff y Cwnstabl Hibbs hefyd yn dangos archwiliad o'r gegin ac mae sŵn peiriant golchi dillad neu beiriant sychu dillad i'w glywed yn y cefndir.
Mae'n amau taw peiriant sychu dillad oedd ymlaen gan nad oedd cyflenwad dŵr yn agos, ac fe welodd fasged golchi wrth ei ymyl.
Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth, ac mae'r ddau oedolyn yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud hysbysiad ffug i'r heddlu bod person ar goll.
Mae Mr Cole wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Wedi cinio cafodd y rheithgor wybod nad oedd Ms Williams yn teimlo'n dda ac na fyddai felly yn ymddangos yn y llys brynhawn Mawrth.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022