Llyfrgell gudd y gogledd ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Penarlâg yn Sir y Fflint yw cartref Llyfrgell Gladstone, llyfrgell preswyl sydd yn gartref i 200,000 o lyfrau sy'n cynnwys casgliad personol y cyn brif weinidog William Gladstone.
Daeth egin y syniad o'r llyfrgell gan Gladstone ei hun, ond yn dilyn ei farwolaeth fe gasglwyd yr arian i greu adeilad coffa parhaol iddo fyddai'n gartref i'w lyfrau hefyd.
Mae gan y llyfrgell 26 o ystafelloedd gwely, bwyty ac wrth gwrs ystafelloedd darllen.
Ond faint wyddoch chi am y llyfrgell yng ngogledd ddwyrain Cymru?
I nodi Diwrnod y Llyfr, Cymru Fyw fuodd yn sgwrsio gyda rhai o staff y llyfrgell i gael gwybod mwy.
'Dwi'm yn amau mai hon yw'n hoff swydd i mi gael erioed.'
Peter Francis yw warden a chyfarwyddwr y llyfrgell ers 25 o flynyddoedd, ac mae'n disgrifio'r llyfrgell yn aml fel: "200,000 o lyfrau ar un pen a 26 o ystafelloedd ar y pen arall a 'chydig o fwyd yn y canol. A dyna fo mewn gwirionedd. Mae pobl yn dod yma i ysgrifennu a meddwl a dyna brif bwrpas y lle mewn gwirionedd.
"Mae'r llyfrau y gwnaeth Gladstone gasglu mewn tri maes yn bennaf. Hanes a gwleidyddiaeth fel y byddai rhywun yn ddisgwyl, diwinyddiaeth a'r mwyaf oedd llenyddiaeth - clasurol a chyfoes. Ac rydyn ni dal i gasglu yn y tri maes yna.
"Mae gan y casgliad tua 20,000 o lyfrau Gladstone ei hun, gyda tua hanner rheini gyda'i nodiadau ei hun arnyn nhw, sydd yn gwneud pethau'n ddifyr i breswylwyr yma'n llyfrgell Gladstone.
"Os ydych chi angen gorffen PhD neu radd Meistr mae'n ddelfrydol gan fod dim byd i dynnu'ch sylw. Mae ganddoch chi 'stafell gyfforddus i gysgu, rydych yn cael eich bwydo, a fedar rhywun rhoi ei ben lawr a'i wneud o. Sawl un wedi dweud wrtha i eu bod yn gallu gwneud gwaith mis mewn wythnos yma."
Pan benodwyd Mr Francis i'w swydd, cafodd her gan yr ymddiriedolwyr i newid dipyn ar sut oedd y llyfrgell yn gweithio.
"Roedd hi'n arfer bod yn eithaf stuffy a moel yma a 'dan ni 'di ceisio ei gwneud hi'n llawer iawn fwy agored a hygyrch a dwi'n credu fod hynny wedi gweithio a'n bod ni wedi cael lot o hwyl yn y broses."
Bellach, gall unrhyw un ddod i'r llyfrgell i weithio. Mae gan y llyfrgell gynllun ysgrifenwyr preswyl, sydd yn aml iawn yn denu rheini "sydd yn 'sgwennu'r ail nofel anodd 'na," yn ôl Mr Francis.
Yn y gorffennol, mae ffocws llawer iawn mwy crefyddol wedi bod ar y llyfrgell, a'i fod yn ganolfan hyfforddi oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys yn Lloegr. Fe ddaeth hynny i ben ar ddechrau'r 90au. Mae crefydd yn parhau i fod yn rhan annatod o'r llyfrgell ac mae'n ofynnol i'r warden fod yn glerigwr.
"Mae'n cynnig ei hun fel encil i bobl crefyddol hefyd, mae ganddon ni gapel, ond 'does dim pwysau mawr ar y crefydd. Roedd Gladstone ei hun yn dweud ei fod fel anadl y tŷ, ac mi fedrwch ei ddefnyddio neu beidio fel y dymunwch chi."
Pan ddaeth y cyfnod o hyfforddi clerigwyr i ben, dyna pryd ddechreuodd y newidiadau sylweddol esbonia Mr Francis: "Roedd o fel petai'r llyfrgell yn chwilio am ei rôl a'i bwrpas mewn gwirionedd. Roedd y lle yn teimlo fel 'chydig o gyfrinach ar y pryd, ar gyfer y rhai oedd yn gwybod amdano'n unig.
"A dyna pryd aethon ni'n ôl i gasgliad Gladstone ei hun, a thra bod 'na bwrpas crefyddol i'r lle wrth gwrs, dim ond traean o'r stori oedd hynny mewn gwirionedd. Roedd hanes, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn rhan enfawr o'r stori."
Buodd hyn yn sbardun i greu'r cynllun ysgrifenwyr preswyl yn ogystal â gwyliau oedd yn gweld nofelwyr a sgwennwyr o bob math yn ymgynnull yn y llyfrgell. Trwy hynny credai Mr Francis fod y gair am llyfrgell Gladstone wedi lledaenu.
Fel sawl sefydliad arall, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai heriol i Llyfrgell Gladstone. Bu rhaid diswyddo aelodau o staff ac ar adegau, dim ond Mr Francis a'i wraig oedd yno i wneud y gwaith o gynnal a chadw'r adeilad. A bu'n rhaid iddyn nhw fod yn greadigol yn eu ffyrdd o gadw'r lle i fynd.
"Mae pobl yn tueddu i ddisgyn mewn cariad gyda'r lle ar ôl bod a rydyn ni'n gwybod hynny," meddai.
"Pan oedd y lle 'di cau ac roedden ni'n eitha' desperate ac yn cwestiynu os fyddai'r lle yn parhau, fe sylweddolodd fy ngwraig Helen, bod 'na tua 1000 o silffoedd yn y llyfrgell a tybed fedrwn ni gael pobl i noddi silff am £100 yr un, ac fe wnaethon ni, a llwyddo i godi £102,000 gan fod 'na bobl oedd wir eisiau gweld y lle yn goroesi."
Lle i bobl leol?
Mae bwyty'r llyfrgell wedi bod yn rhan bwysig i feithrin perthynas gyda thrigolion lleol. Bellach, mae'r bwyty yn lle poblogaidd i bobl alw draw am baned a sgon.
Un o gogyddion Llyfrgell Gladstone yw Charly James o Nercwys, ac mae hi'n falch iawn o weld y gair am y llyfrgell yn lledaenu'n fwy lleol.
"O'n i'n gweithio mewn siop fferm yn Penarlâg 'chydig o flynyddoedd yn ôl, felly o'n i'n gwybod am Gladstone's, o'n i'n mynd heibio'r adeilad ar y bws, ond do'n i'm yn gwybod beth oedd tu mewn cyn i mi ddod i'r interview am y swydd, so i fi oedd o'n sioc i weld y llyfrgell," meddai Charly.
Mae hi wrth ei bodd yn gweithio yno ac yn gwerthfawrogi pa mor unigryw yw'r profiad.
"Mae'n berffaith i mi achos dwi'n hoffi coginio a dwi'n hoffi llyfrau hefyd. Mae'n ardderchog, ac mae'n werth ei rannu efo pawb."
Hefyd o ddirddordeb: