Cyfle i weld casgliad 'unigryw' o Feiblau Cymreig

  • Cyhoeddwyd
beiblFfynhonnell y llun, Ymddiriedolwyr Cymdeithas y Beibl

Mae cyfle prin i weld detholiad o Feiblau Cymreig sy'n gysylltiedig â Mary Jones gyda'i gilydd am y tro cyntaf.

Mae arddangosfa 'Beibl i Bawb' yn olrhain hanes cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

Fe arweiniodd hanes Mary Jones at sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804, elusen sy'n ymrwymo i gynnig y Beibl i bobl ar draws y Byd.

Bwriad yr arddangosfa yw nodi 400 mlwyddiant ers cyhoeddi'r Beibl yn y Gymraeg, sef fersiwn diwygiedig o 'Feibl William Morgan' wedi ei olygu gan Dr John Davies, Mallwyd yn 1620.

Y fersiwn diwygiedig hwnnw oedd testun safonol y Beibl yn y Gymraeg hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif.

'Unigryw'

Yr Athro E. Wyn James fu'n gyfrifol am guradu'r arddangosfa ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

"Beth sydd yn yr arddangosfa yma am y tro cyntaf erioed, a falle am y tro olaf o ran hynny, yw cael pedair eitem i ni'n gwybod oedd yn gysylltiedig â Mary Jones," meddai.

"Byddai hi wedi cyffwrdd ym mhob un copi fel petai, ond 'dyn nhw erioed wedi bod gyda'i gilydd o'r blaen a dyna'r peth unigryw am y casgliad yma."

Yn yr arddangosfa mae:

  • copi o Feibl Mary Jones gan Thomas Charles yn y Bala yn 1800, sydd ar fenthyg oddi wrth Gymdeithas y Beibl a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt;

  • copi o'r Beibl y byddai Mary Jones yn cerdded am flynyddoedd i'w ddarllen cyn iddi allu prynu ei Beibl ei hun, ar fenthyg oddi wrth Gyngor Sir Ddinbych;

  • Beibl arall a gafodd Mary Jones oddi wrth Thomas Charles yn 1800 ar gyfer perthynas iddi;

  • copi o Destament Newydd (1819) Cymdeithas y Beibl a fu'n eiddo i Mary Jones.

Mae'r arddangosfa yn olrhain hanes cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ac ymdrechion pobl fel Griffith Jones, Peter Williams a Thomas Charles o'r Bala, i gynhyrchu a lledaenu copïau ohono ac i ddysgu pobl i'w ddarllen.

Aeth cyfieithwyr Y Beibl Cymraeg Newydd (1988) mor bell â galw Beibl 1588 "yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl".

Oni bai am gyfieithiad 1588, mae'n ddigon posib na fyddai'r Gymraeg yn iaith fyw heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Owain Rhys Roberts: Y gwaith wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar y byd

Yn ôl Owain Rhys Roberts, sef dirprwy brif weithredwr a llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bod "ymwybyddiaeth" o bwysigrwydd y gweithiau er bod Cristnogaeth ar draul yng Nghymru.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dreftadaeth ar hyn gafodd ei gyflawni i'r iaith Gymraeg trwy gyfieithu'r gweithiau yma.

"Mae'r diwylliant Cristnogol yn rhywbeth sydd wedi bod ar draul ers degawdau erbyn hyn yng Nghymru a falle bod ni ddim yn sylweddoli'r arwyddocâd a'r impact mae Cymru wedi ei gael ar weddill y byd.

"Mae'r hanes am Mary Jones yn ddigwyddiad 'nath esgor ar sefydlu Cymdeithas y Beibl a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar y byd yn eang."

Mae cyfle i ymweld ag arddangosfa 'Beibl i Bawb' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nes 1 Ebrill 2022.

Pynciau cysylltiedig