Cofio gyrfa ddisglair Dai Jones, Llanilar

  • Cyhoeddwyd
dai jonesFfynhonnell y llun, S4C

Ffermwr, cyflwynydd 'Siôn a Siân', 'Noson Lawen', 'Rasus', 'Ar eich Cais', 'Y Sioe Fawr' a 'Cefn Gwlad' ac enillydd y Rhuban Glas - dim ond rhai o uchafbwyntiau gyrfa Dai Jones, Llanilar.

A'r hyn arweiniodd at ei yrfa lewyrchus yn y byd teledu yn ôl y cyflwynydd ei hun, fu farw yn ddiweddar yn 78 oed, oedd ei lwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod pan yn ddyn ifanc.

Ac yntau ddim ond yn 26 oed, fe gipiodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970. Roedd ef a Stuart Burrows ymhlith yr ieuengaf i ennill y wobr.

Ddwy flynedd yn ôl bu Dai yn hel atgofion o'r dydd Sadwrn hwnnw yn Awst 1970 gan ddweud fod yr anrhydedd wedi agor cymaint o ddrysau eraill iddo mewn bywyd a'i fod yn brofiad y bydd yn ei drysori am byth.

"Roedden i wedi ennill yr unawd tenor ddydd Gwener, mynd adre amser cinio a mynd lawr wedyn ddydd Sadwrn ar ôl godro i gystadlu am y Rhuban Glas," meddai yn 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn 1970

Y Diethryn ac Aria Lesnki allan o Eugene Oengin oedd darnau Dai ar gyfer yr unawd tenor a'r Adelaide gan Beethoven oedd un o'i ddarnau dewisol ar gyfer y Rhuban Glas.

"Dwi wrth fy modd gydag Adelaide," meddai yn llawn emosiwn, "a 'nai fyth ei hanghofio.

"Ond cofiwch er bo' fi'n gallu canu, dwi ddim yn gerddor o gwbl - dwi ddim yn gallu darllen cerddoriaeth ond mae gen i glust dda ac mae geiriau caneuon yn bwysig iawn i fi.

"Pan ro'n yn cael gwersi - o nhw'n arfer gweud wrthai pan o'dd ff ar y copi - Dai mae'n rhaid i ti agor ma's nawr!"

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

'Fy ngeni yn Gocni'

Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ond fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon.

"Roedd gan fy rhieni, y ddau yn enedigol o Sir Aberteifi, wâc laeth yn ardal Holloway - roedd y ddau yn codi am 4.30 ac roedd siop 'da nhw hefyd oedd yn agor am saith y bore tan saith yr hwyr.

"Ond do'n i ddim yn lico prysurdeb Llundain ac roeddwn wrth fy modd yn dod ar wyliau i'r wlad at Wncwl Morgan ac Anti Hannah ac un gwyliau es i ddim nôl - er bod fy rhieni yn Llundain.

"Mynd ar wyliau adre roeddwn i wedyn - ond yn dyheu o hyd i ddod nôl i Geredigion. O'ch chi ffili gweld coeden o'r gwely yn Holloway!"

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones: "Dyn y wlad ydw i er i fi gael fy ngeni yn Llundain"

Yn ei ugeiniau y dechreuodd Dai Jones ganu o ddifri - roedd e'n canu ychydig yn yr ysgol gynradd ac yn cael gwersi ffidil ond mae'n dweud nad oedd hi'n "cŵl" iawn i fynd â ffidil na bag i'r ysgol ac roedd e'n dueddol o'u gadael nhw yn y clawdd.

"Roedd fy nhad yn dipyn o ganwr," meddai. "Yn eisteddfod Tyn-y-graig ger Swyddffynnon yr enillais i gynta ac yna wedi i fi gael car fe es i gystadlu ar draws Cymru a chael gwersi canu.

"Fues i hefyd yn ffodus i gael fy newis i gymryd rhan yn rhaglen Sêr y Siroedd - fi oedd yn canu ar ran Sir Aberteifi ac un oedd yn fy erbyn yn gyson oedd y gantores Margaret Williams, o Sir Fôn.

"Ymhlith fy athrawon yr oedd Colin Jones o'r Rhos ac arferwn fynd ato bob bore Sul - gadael Berth-lwyd yn y bore wedi godro, cael gwers ac yna cael cinio dydd Sul gyda rhieni Colin cyn dod nôl."

Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966 fe gafodd Dai Jones lwyfan ar yr unawd dan 25 ond 1970 oedd y flwyddyn fawr wrth iddo ennill yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, Eisteddfod Môn, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman.

"Wedi i fi ennill yn Llangollen daeth dau o'r beirniaid draw i Lanilar a gofyn i fi fynd yn ôl gyda nhw i'r Eidal i ddysgu bod yn ganwr proffesiynol ond gwrthod wnes i - do'dd 'da fi ddim diddordeb mewn gyrfa felly."

Llanilar yn falŵns i gyd

"Yn Sioe Llanilar roeddwn i pan glywais i bod Dai wedi ennill yr unawd tenor - doedd hi ddim yn bosib i fi fynd 'dag e gan bod lot o waith i'w wneud adre ar y fferm," meddai Olwen, gwraig Dai.

"Wedi iddo ennill ro'dd Llanilar yn falŵns i gyd - pawb yn falch iawn," ychwanegodd.

"Perfformiad oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas i fi. Doeddwn i ddim yn poeni am ennill dim ond bod y perfformiad yn un da. Doeddwn i ddim yn nerfus o gwbl - dwi lot fwy nerfus pan dwi'n rhedeg ci defaid mewn treialon," meddai Dai.

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones a Jenny Ogwen - dau a fu'n rhan o'r gyfres Siôn a Siân o 1970 ymlaen

Roedd Dai yn argyhoeddedig bod ei lwyddiannau eisteddfodol wedi agor y drws i nifer o gyfleon eraill. Yn fuan wedyn daeth cyfle i gyflwyno y gyfres Siôn a Siân ac fe roddodd Dai ei stamp ei hun ar y gyfres drwy ganu ar ddiwedd pob rhaglen.

"Mi Glywaf Dyner Lais, oedd y ffefryn," meddai, "a 'nes i fwynhau yn fawr cyfarfod â phobl. Roedd e'n gam naturiol wedyn i gyflwyno rhaglenni fel Cefn Gwlad a dwi hefyd wedi mwynhau cyflwyno Rasus a darlledu o'r Sioe Fawr a chyflwyno Ar Eich Cais, wrth gwrs, ar Radio Cymru.

"Dwi wedi bod yn ffodus iawn gydol fy mywyd - wedi cael teithio llawer yn sgil fy ngwaith canu a chyflwyno ond roedd hi wastad yn braf dod adre. Dyn cartre ydw i."

Bu'n cyflwyno Siôn a Siân rhwng 1971 ac 1987, ac yn nyddiau cynnar S4C cafodd ei ddewis fel cyflwynydd Cefn Gwlad, fyddai'n ennill ei phlwyf gyda'r gwylwyr.

Drwy'r rhaglenni fe gafodd y Cymry ddod i adnabod Dai yn well a chael eu cyflwyno i nifer o gymeriadau lliwgar cefn gwlad fel John Parry Moch, Don Garreg Ddu a Mary Jones Pantafon. Bu'n cyflwyno'r gyfres tan ei ymddeoliad ddwy flynedd yn ôl.

Mae sawl un o'i raglenni yn dal i gael eu hail-ddarlledu ar adegau, fel Dai ar y Piste lle bu'n sgïo, neu'n ceisio sgïo, gyda Wil Yr Hafod ar lethrau Courmayeur, Gogledd yr Eidal.

Ar BBC Radio Cymru, bu'n lais poblogaidd am flynyddoedd ar raglen Ar eich Cais ar nosweithiau Sul gyda'i eiriau agoriadol "Fi Dai Sy' Ma'" yn deitl i hunangofiant yn 1997.

Fe ddaeth nifer o anrhydeddau iddo hefyd gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef hefyd oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.

Bu'n cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol ac yn 2004 enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.

Fe benderfynodd ymddeol o'i waith teledu ddwy flynedd yn ôl wedi cyfnod hir o salwch ac meddai ar y pryd: "Hoffwn i ddiolch i bawb am fy nghroesawu i'w cartrefi a'u bywydau dros y blynyddoedd.

"Ers hanner canrif 'dwi wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru - yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o'r safon uchaf. Dwi 'di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.

"Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi - diolch am yr hwyl, y croeso a'r llawenydd - mae wedi bod yn falm i'r enaid, a'r atgofion yn rhai fyddai'n trysori am byth."

Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma fis Rhagfyr 2020.

Hefyd o ddiddordeb: