10 rhaglen S4C sy'n haeddu eu lle yn y Llyfrgell Gen

  • Cyhoeddwyd
Rhaglenni S4CFfynhonnell y llun, S4C

Pa raglenni S4C fydd yn siŵr o gael eu hastudio yn y dyfodol i ddysgu am dwf darlledu Cymraeg, hanes cymdeithasol Cymru a datblygiad yr iaith?

Mae cyfresi a ffilmiau'r sianel yn cael eu trosglwyddo i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'w cadw ochr yn ochr â ffynonellau hanesyddol eraill. Felly dyma ddewis o 10 rhaglen sy'n cynrychioli cynnyrch S4C ers ei lansiad yn 1982 sy'n sicr werth eu cadw.

Cefn Gwlad

Y rhaglen gyntaf i haeddu ei lle ar silffoedd y Llyfrgell Genedlaethol i nifer o bobl gan mai dyma un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C ers pedwar degawd.

Ond mae'r gyfres hefyd yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar ôl dogfennu ffordd o fyw sydd wedi diflannu erbyn hyn, a rhoi cymeriadau fel John Parry Moch, Don Garreg Ddu a Mary Jones Pantafon ar gof a chadw am byth.

Mae Cefn Gwlad hefyd yn gofnod o rhan o yrfa un o sêr y byd darlledu Cymraeg - Dai Jones Llanilar, y cyflwynydd o'r rhaglen gyntaf un yn 1982 tan ei ymddeoliad diweddar.

Disgrifiad,

Dai Jones yn cyflwyno Cefn Gwlad o Batagonia

SuperTed

"Nid tedi cyffredin mohono..." gan fod SuperTed wedi cael ei wylio gan blant mewn gwledydd ar draws y byd ers cael ei darlledu gyntaf ar S4C yn yr 1980au.

Creadigaeth Mike Young o'r tedi gyda phwerau hud ydi un o brif lwyddiannau'r sianel a dyma'r sioe gyntaf a ddarlledwyd ar S4C ar ddiwrnod cyntaf ei darllediad ym mis Tachwedd 1982.

Cafodd SuperTed ei darlledu mewn 128 o wahanol wledydd a'i drosleisio i 32 o wahanol ieithoedd cyn y bennod olaf yn 1986. Yn 1984, SuperTed oedd y gyfres cartŵn gyntaf o Brydain i gael ei darlledu ar The Disney Channel yn yr Unol Daleithiau.

Disgrifiad,

Smotyn a SuperTed ar antur arall - daw'r clip yma o'r gyfres gyntaf

Dechrau Canu Dechrau Canmol

Fyddai dydd Sul ddim yn ddydd Sul heb Dechrau Canu, a does ryfedd gan ei bod yn un o'r rhaglenni teledu hynaf ym Mhrydain.

Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 1961 ar BBC Cymru cyn cael ei dangos ar S4C pan ddechreuodd y sianel yn 1982 - ac mae'n dal i fynd heddiw.

Mae'n archif enfawr o emynau yn cael eu canu mewn capeli ar hyd a lled Cymru.

Disgrifiad,

Daw'r clip yma o 1994

C'mon Midffîld!

Byddai Arthur Picton yn sgwario o wybod10 rhaglen S4C sy'n haeddu eu lle yn y Llyfrgell Gen ei fod wedi ennill ei le yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dros bedair cyfres a dwy ffilm, roedd anturiaethau tîm pêl-droed Bryncoch yn gwneud i'r Cymry chwerthin - ac mae'r rhaglenni yn dal i gael eu gwylio a'u dyfynnu heddiw.

Mae cymeriadau fel Wali Tomos, Tecs, George a Sandra yn rhan o hanes poblogaidd y Cymry Cymraeg ac wedi cyflwyno ymadroddion newydd ar lawr gwlad fel 'trafod tictacs', 'Harry paid â chwarae efo hwnna', 'penci' ac 'asiffeta'. Anygoel ai!

Disgrifiad,

Yr olygfa gyntaf un o C'mon Midffîld - a Wali Tomos yn cael trafferth

Bacha Hi O 'Ma

Disgrifiad,

Alwyn Siôn oedd cyflwynydd y rhaglen

Enghraifft o raglen stiwdio boblogaidd, gyda Alwyn Siôn yn ceisio helpu'r Cymry ddod o hyd i gariad.

Mae'r set yn adlewyrchu steil darlledu'r cyfnod, a'r dillad yn gofnod o'r ffasiwn ar y pryd.

Hedd Wyn

Ffilm hanesyddol wnaeth hanes ei hun - Hedd Wyn (1992) oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar.

Mae'r ffilm am y bardd o Drawsfynydd laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf erbyn hyn yn cael ei astudio fel rhan o gwrs Lefel A Cymraeg.

Disgrifiad,

Huw Garmon, fel Hedd Wyn, a Sue Roderick fel ei gariad Lizzie Roberts

Rownd a Rownd

Un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C sydd yn apelio at bob oed, er bod y ddrama sebon wedi ei hanelu at gynulleidfa ifanc pan ddechreuodd nôl yn 1995.

Mae cymeriadau Glanrafon, sydd i'w gweld ddwywaith yr wythnos, wedi delio gyda nifer o bynciau llosg dros y blynyddoedd.

Disgrifiad,

Clip o raglen gyntaf Rownd a Rownd - o 1995

Tair Chwaer

Drama lwyddiannus wnaeth dorri tir newydd i'r sianel gan ddelio gyda materion fel rhyw, iechyd meddwl a gorddibyniaeth ar alcohol.

Yng ngwobrau Bafta Cymru 1999 cafodd Tair Chwaer, y ddrama gyntaf i Siwan Jones ei hysgrifennu i S4C, ei henwebu am 11 Bafta Cymru gan ennill chwech.

Disgrifiad,

Y dair chwaer: Lyn (Ruth Lloyd), Sharon (Donna) a Janet (Llio Millward)

Sgorio

Cyn bod 'na sianeli lloeren di-ri yn dangos pêl-droed o bob gwlad yn y byd roedd gwylwyr S4C yn gallu gweld y goreuon o wledydd fel Sbaen, yr Eidal a'r Almaen ar Sgorio.

Mae'r rhaglen, gafodd ei darlledu gyntaf yn 1988, wedi gorfod addasu ers y dyddiau cynnar oherwydd y gystadleuaeth gan sianeli eraill ac erbyn hyn mae'n dangos prif gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Disgrifiad,

Roedd uchafbwyntiau rhai o gemau gorau Ewrop ar Sgorio

Y Gwyll

Mae'r ddrama ditectif sy'n dilyn hynt a helynt DCI Tom Mathias yn haeddu ei lle am safon y cyfresi, ond mae hefyd yn nodedig am gael ei ffilmio gefn wrth gefn yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynyddu'r cyllid.

Fe gafodd fersiwn Gymraeg y gyfres gyntaf ei darlledu ar S4C fis Hydref 2013 a'r fersiwn Saesneg Hinterland ar BBC Wales a BBC Four yn 2014.

Disgrifiad,

Roedd golygfeydd Ceredigion yn rhan bwysig o gyfres Y Gwyll - dyma glip o'r bennod gyntaf un

Pynciau cysylltiedig