Ateb y Galw: Geraint Jones
- Cyhoeddwyd
Geraint Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Elinor Gwynn yr wythnos diwethaf.
Mae'n byw yng Nghrymych gyda'i wraig Shan. Buodd yn gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym maes gwarchodaeth natur am 40 mlynedd cyn ymddeol yn 2020.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Brith, brith gof o fynd am dro 'da Mam ar bwys Glanteifi ar lan yr afon Teifi ym mhentref fy magwraeth, Llandudoch. We ni bownd o fod yn ifanc iawn achos 'dwi'n dal i gofio bod mewn pushchair - cyn mod i'n dair felly tua 1961. Yr haul yn llachar a Mam yn gwneud rhigwm o lythrennau enw'r pentref ar arwydd (Saesneg bryd hynny) - St. Dogmaels. S am sebon, T am trên, D am Dad - sai'n cofio'r gweddill!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cwrdd â Shan (a ddaeth yn wraig i mi) mewn gig Ail Symudiad yn Ffostrasol.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, teimladwy ac anghymedrol.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Penrhyn Bach - harbwr bach diarffordd ger traeth Poppit nepell o Landudoch. Atgofion bendigedig ohonom yn griw o fechgyn y pentref yn ymdrochi yno gydol misoedd hafau ein llencyndod.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Bod yn rhan o Sioe Ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986, 'A Wes Heddwch.' Criw mawr ohonom ni'n creu a pherfformio sioe gerdd. Neuadd Theatr y Gromlech, Crymych yn orlawn a phawb yn gynulleidfa a chriw'r sioe yn mwynhau mas draw.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ymgyrch a phleidlais datganoli 1979. 'Roeddwn yn byw ym Mhontypridd ar y pryd. 'Wedd gweld trwch fy nhyd-Gymry ar eu mwyaf taeog-Brydeinig yn codi cywilydd arnaf fy mod yn perthyn i genedl mor ddi-asgwrn-cefn.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Angladd fy nhad, Rhagfyr 1998.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wes, llwyth!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Wythnos yng Nhymru Fydd yw'r llyfr sy'n dal i'm cyffroi hyd yn oed hanner can mlynedd wedi ei ddarllen gyntaf. Yn orfoleddus a brawychus ar yr un pryd. 'Sdim diddordeb ysol 'da fi mewn ffilmiau ond yn hoff o rai sy'n ymwneud ag anghyfiawnder ac egwyddorion da a drwg fel Grapes of Wrath, Shawshank Redemption neu One Flew Over the Cuckoo's Nest. Heb weld na chlywed podlediad erioed.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Owain Glyndwr. Cymaint o gwestiynau. Cymaint o ddirgelion - ac fel gweriniaethwr o genedlaetholwr Cymreig gydol oes cael y cyfle i drafod anghyfiawnder breintiau a statws etifeddol!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Bum yn canu'r Corn Ffrengig tra yn yr ysgol (gradd 5!) ac yn rhan o Gerddorfa Ysgolion Sir Benfro am un cyngerdd (ges i ddim ail gynnig!).
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro o gwmpas penrhyn Pen Cemaes.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Shan a minnau ar ddiwrnod ein priodas. Dim angen esbonio pam.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Prop pen tyn Pontypŵl Graham Price pan oedd e yn 'i bomp yn aelod o reng flaen chwedlonol Cymru yn y saithdegau (fy arwr chwaraeon pennaf - pwy all beidio a chofio'i gais yn erbyn Ffrainc yn 1975 gan redeg hanner hyd y parc. Digynsail i brop ar y pryd!). Y diwrnod fyddai 18 Mawrth 1978. Cymru yn curo Ffrainc yng Nghaerdydd o 16 i 7 gan sicrhau y gamp lawn (mynychais yr holl gemau y flwyddyn honno a breuddwydio am fod yn y sgrym gyda gweddill y 'Pontypool Front Row' yn lle fy arwr penfelyn!).
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Fy nghyfyrder Menna Medi.