Ateb y Galw: Yr artist Manon Awst
- Cyhoeddwyd
Yr artist Manon Awst sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Mari George yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Fôn, Manon oedd enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol 2004. Wedi hynny, symudodd i ddinas Berlin i weithio gyda'r artist Almaeneg Benjamin Walther ar gasgliad o waith Awst & Walther. Cafodd y casgliad ei arddangos ar draws Ewrop gyda cwpl o ddarnau parhaol i'w gweld yn Nant Gwrtheyrn a Berlin.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Y teils terracotta yng nghegin ein hen dŷ yn Llanfaelog. Roeddan nhw'n oer, oer dan draed ac yn galed ofnadwy pan oeddach chi'n llithro a taro'ch pen! Dwi di gosod rhai tebyg iawn yn ein gardd ni rwan, gafodd ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod clo.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Barclodiad y Gawres a thraeth Porth Nobla. Mae 'na hanes a golygfeydd anhygoel yma, ac mae'r lleoliad yn cynrychioli fy mhlentyndod a dechrau fy siwrne fel artist. Dwi'n cael chwa o nerth bob tro dwi'n mynd nôl. Dyma oedd y lleoliad gwreiddiol ar gyfer fy ngherflun 'Tu Hwnt' sydd rwan yn Nant Gwrtheyrn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Tra'n astudio yng Nghaergrawnt, roeddwn i a fy ffrindiau'n gweithio fel diddanwyr yn y May Balls ar ddiwedd blwyddyn academaidd - gwisgo i fyny'n wirion a gwneud portreadau o westeion yn bennaf. Ond mewn gwirionedd, ffordd oedd hyn i gael fewn i'r partïon moethus heb orfod talu ffortiwn am docyn!
Roedd punts (cychod) llawn poteli siampên, gwledda, dawnsio, ac mi fysan ni wastad yn neidio i'r afon ar ddiwedd y noson. Daeth fy ffrind Catrin ata i un flwyddyn o Aber i ymuno yn yr hwyl - mae'r noson honno ymhlith y goreuon!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Byr, gwalltgoch, penderfynol.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ar fy niwrnod cynta'n Ysgol Uwchradd Bodedern, daeth bws double decker melyn llawn plant Aberffraw i fy nghasglu reit tu allan i ddrws y tŷ. Doeddwn i'n nabod neb ar y bws, ac ar ôl camu arno ac edrych ar yr holl wynebau yn syllu arna i, heglais i fyny'r grisia i'r ail lawr.
Ond fanno oedd y plant drwg i gyd yn eistedd (wrth gwrs) felly dyma fi'n stryffaglo nôl lawr i'r gwaelod - dim yn ddechrau cŵl! Ond mi ddes i'n ffrindia efo criw Berffro mewn dim o dro.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gesh i bâr newydd o DM's yn ddiweddar, a maen nhw'n cymryd sbel i'w 'gwisgo fewn'. Roedd y blisters yn boenus iawn, iawn!
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta gormod o grisps ac yfed gormod o win.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Un o fy hoff lyfrau, a sicr yr un sy'n cael y mwyaf o ddefnydd, yw 'Gwynedd' gan yr archeolegydd Frances Lynch - llyfr sy'n eich tywys drwy safleoedd hynafol yr ardal o'r cyfnod Neolithig hyd at y canol oesoedd. Cadw gyhoeddodd y llyfr yn 1995 a dwi'm yn meddwl bod 'na fersiwn Gymraeg, na diweddariad ers hynny - hen bryd gwneud dwi'n meddwl!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n un dda am goginio bwyd Eidalaidd, ac wedi dod i'r arfer o wneud pasta cartref ers dechrau'r cyfnod clo. Rhai o fy hoff brydau i'w paratoi yw caponata efo wyslys (aubergine) a ravioli efo caws ricotta a saets o'r ardd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dathlu bywyd efo'r teulu a chael y tattoo dwi wastad 'di bod eisiau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dwi wrth fy modd efo'r llun yma o Macsen yn y garreg, wrth osod arddangosfa yn Nürnberg yn 2014. Mae'n cynrychioli'r sialens ddyddiol o fod yn artist ac yn fam, ond yn fy atgoffa bod y ddau yn gorfod ac yn gallu cyd-fynd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Angela Merkel, wedi ei hymddeoliad! Dwi'n ei hedmygu hi'n fawr, ac mi ddaeth hi'n ganghellor yr Almaen y flwyddyn symudais i Berlin ar ôl astudio. Mi fyswn i wrth fy modd yn cael cipolwg ar sut berson ydi hi go iawn - be' sy'n mynd drwy ei meddwl hi, sut mae hi'n teimlo am Ewrop a gweddill y byd ar ôl bod yn y swydd am 16 mlynedd.
Mi fyswn i'n trefnu diwrnod i'r brenin i fi fy hun, yn cynnwys siopa yn KaDeWe a swper yn Borchardts. A falla rhoi galwad ffôn sydyn i Boris er mwyn cael dweud be' dwi'n feddwl ohono go iawn!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Judith Musker Turner