Galar yn Wrecsam wedi i berthnasau farw yn Wcráin
- Cyhoeddwyd

Dau o'r gwirfoddolwyr yn cadw munud o dawelwch wedi i gydweithiwr dderbyn y newyddion gwaethaf posib am aelodau teulu yn Wcráin
Mae dynes yn Wrecsam yn galaru wedi i aelodau o'i theulu gael eu lladd yn sgil ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin.
Roedd y ddynes ymhlith criw o wirfoddolwyr oedd yn helpu casglu a didoli rhoddion mewn warws yn y dref ar gyfer ffoaduriaid pan gafodd wybod bod perthnasau wedi marw wrth i ardal ger y brifddinas, Kyiv, gael ei bomio.
Fe wnaeth gweddill y gwirfoddolwyr gynnal munud o dawelwch er parch i'r ddynes, y maen nhw wedi cydweithio â hi yn ystod yr wythnos diwethaf.
"Fe fysa wedi gallu bod yn unrhyw un ohonon ni," meddai Lisa Ashley, un o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu trefnu'r ymgyrch.

Munud o dawelwch yn y warws yn Wrecsam ble roedd tua dwsin o bobl yn helpu'r ymgyrch rhoddion
Ychwanegodd Ms Ashley: "'Dan ni gyd yn fodau dynol gyda theulu o ryw fath.
"Does dim ots o ble rydan ni'n dod, mae hawl iddi fod â theulu."
Megis dechrau yw casglu'r rhoddion, fel yr eglura un o'r gwirfoddolwyr, Leah Hughes
Mae hyd at 500 o wirfoddolwyr wedi bod yn didoli maint anferthol o eitemau.
Y nod yw trefnu "confoi" er mwyn cludo rhoddion i bobl "mewn daer angen" ar y ffin rhwng Wcráin a Gwlad Pwyl.
'Dan i gyd yn casáu Putin'

Mae Anna Buckley, Pwyles sy'n byw yn Wrecsam, yn helpu rhoi trefn ar roddion o bob rhan o'r DU
Yn ôl Anna Buckley, cyfarwyddwr Canolfan PISC (Polish Integration Support Centre) yn Wrecsam, fe gyrhaeddodd rhoddion o lefydd cyn belled â Llundain a'r Alban mewn ymateb i apêl ar Facebook.
Dywedodd bob pobl o bob math o wledydd wedi cynnig helpu trefnu rhoddion, gan gynnwys unigolion o Rwsia ac Wcráin.
"'Dwi'n credu ein bod ni gyd â'r un galon," meddai. "Mae'n dangos caredigrwydd a chariad - 'dwi mod emosiynol yn ei gylch.
"'Dan ni'n unedig. 'Dan ni gyd yn casáu Putin. Dwi'n gweld y gobaith ymhlith y bobl yn y warws yma."

Mae hwn yn un o bum warws yn Wrecsam sy'n derbyn a didoli rhoddion ar gyfer ffoaduriaid yn Wcráin
Mae'r grŵp yn gweithio gyda llywodraeth Gwlad Pwyl i gludo'r rhoddion o Gymru i'r ffin ag Wcráin - o bosib ar lorïau ac ar awyrennau.
Y gobaith, medd Ms Buckley, yw y bydd hynny'n dechrau digwydd yn y dyddiau nesaf ond mae mwy o waith eto i'w wneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022