John Toshack allan o ofal dwys yn yr ysbyty ar ôl cael Covid-19

  • Cyhoeddwyd
John Toshack ym mis Mawrth 2009Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Toshack wedi byw yn Sbaen ers blynyddoedd

Mae cyn-reolwr Cymru, John Toshack, allan o ofal dwys yn yr ysbyty wedi iddo ddal Covid-19.

Yn ôl adroddiadau o Sbaen roedd cyn-reolwr Real Madrid yn dioddef o niwmonia a achoswyd gan coronafeirws.

Dywedwyd fis diwethaf ei fod mewn cyflwr difrifol iawn a'i fod angen peiriant anadlu.

Ond bellach nid yw'n derbyn gofal dwys ac mae'n gallu anadlu heb gymorth.

Mae Toshack, 72, hefyd wedi gallu siarad gydag aelodau o'i deulu.

Fel ymosodwr fe sgoriodd 13 gôl mewn 40 ymddangosiad i Gymru.

Bu'n rheolwr y tîm cenedlaethol ar ddau achlysur - gan helpu i ddatblygu gyrfaoedd Gareth Bale ac Aaron Ramsey ymysg eraill.

Yn ystod gyrfa anrhydeddus roedd yn rheolwr ar dros ddwsin o glybiau, gan arwain Abertawe o'r hen Bedwaredd Adran i'r Adran Gyntaf cyn ennill pencampwriaeth La Liga gyda Real Madrid a'r Copa del Ray gyda Real Sociedad.