'Mae gen i ffrindiau sydd wedi'u harestio yn Rwsia'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pavel Ioasad: 'Mae gen i ffrindiau sydd wedi'u harestio yn Rwsia'

Wrth i ymosodiad Rwsia ar Wcráin ffyrnigo, mae sancsiynau a chosbau wedi eu gosod ar y wlad ac unigolion amlwg.

Ond mae 'na gosbau hefyd i bobl yn Rwsia sy'n dangos gwrthwynebiad, ac mae sianeli cyfathrebu'n cael eu cau.

Felly beth ydy teimladau Cymry sydd â chysylltiadau agos â Rwsia am y sefyllfa?

Fe ddysgodd Pavel Ioasad, sy'n wreiddiol o Rwsia, Gymraeg ar liwt ei hun dros 20 mlynedd yn ôl.

Bellach mae'n byw yn Yr Alban gyda'i deulu, ac yn ddarlithydd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin.

Mae'n adnabod rhai o'r protestwyr yn Rwsia wnaeth fentro wynebu 15 mlynedd o garchar am godi eu llais.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na filoedd wedi eu harestio am brotestio yn Rwsia

"Mae gen i ffrindiau sydd wedi bod mas yn protestio, ac mae gen i ffrindiau sydd wedi cael eu harestio, ac sy' wedi gadael y wlad," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dyw neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd gyda chyfreithiau newydd...

"Maen nhw'n galed iawn, mae'n bosib y bydd dirwyon mawr, y bydd pobl yn mynd i jail."

Cafodd cyfraith newydd ei chyflwyno yn Rwsia yr wythnos ddiwethaf, hefo'r nod o fynd i'r afael, meddai'r Kremlin, â "newyddion ffug" oedd yn cael ei rannu am fyddin Rwsia.

Drwy atal sianeli annibynnol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, mae'n anodd i bobl Rwsia wybod beth sy'n mynd ymlaen.

Mae Bethan Mair Williams o Ddolydd ger Caernarfon wedi byw a gweithio yn Rwsia a Wcráin. Mae ganddi feddwl mawr o'r ddwy wlad a'u pobl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Mair Williams wedi bod yn gyrru gwybodaeth at ei ffrind sy'n byw ym Moscow

Gofynnodd un o'i ffrindiau sy'n byw ym Moscow i Bethan anfon gwybodaeth gan nad oedd ffynonellau annibynnol bellach yno.

Ond, er trio cysylltu â hi sawl tro - dydy ei ffrind ddim wedi ei hateb ers dyddiau.

Gyda phobl yn Rwsia erbyn hyn yn ofn protestio a chyfathrebu, mae nifer wedi troi at ddefnyddio codau cuddiedig ar-lein, er mwyn trefnu i gyfarfod a phrotestio.

'Palu clwyddau ers blynyddoedd'

Un sy'n deall y trafferthion cyfathrebu ydy Gethin Jones o Gricieth. Mi fuodd o a'i deulu yn byw ym Moscow am flynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gethin ac Elena yn byw yn Rwsia am nifer o flynyddoedd

Doedd gwraig Gethin ddim eisiau trafod gan ei bod dan deimlad. Mae ei rhieni hi yn byw ar gyrion Moscow.

Mae'n cofio'r rhaglenni newyddion oedd yn cael eu darlledu i bobl Rwsia pan oedd yn byw yno.

"Ma' nhw 'di palu celwyddau ers blynyddoedd ma' arnai ofn, ar deledu yn Rwsia," meddai.

"O'n i'n ei weld o'n hun pan o'n i'n byw yna, o'n i methu watchiad rhan fwya' o newyddion Rwsieg achos bod yr holl beth mor biased...

"Dy'n nhw ond yn rhoi un o ochr, yr ochr swyddogol - Llywodraeth Rwsia."

Disgrifiad o’r llun,

Mi fuodd Gethin Jones a'i deulu yn byw ym Moscow am flynyddoedd

Mi ofynnais i Gethin a fydda ei deulu yn Rwsia yn medru anfon fideo drwy'r ffôn, yn dangos pwt o'r newyddion ar sgrin deledu er mwyn i ni yma yng Nghymru allu gweld be sy'n cael ei ddangos i'r bobl yno.

"Amhosib," meddai Gethin. "Fasa hi'n anodd danfon ffeil o'r fath. Cafodd modryb fy ngwraig drafferth wrth geisio anfon ffilm fer o'i wyres.

"Mae'r cyfryngau yn cael eu cau i lawr yn Rwsia, hyd yn oed am negeseuon hollol ddiniwed."