Clydach: Heddlu'n chwilio am ddyn ar ôl ymosodiad difrifol

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 68 oed yng Nghlydach, Abertawe.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 17:30 ddydd Sadwrn 12 Mawrth.

Mae'r dyn 68 oed yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i'w wyneb - mae ei gyflwr yn sefydlog.

Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am ddyn 37 oed wnaeth ddianc cyn i swyddogion gyrraedd.

Yn ôl yr heddlu, mae'r dyn 37 oed tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra. Mae lle i gredu ei fod yn gwisgo crys siec gwyn, trowsus llwydfelyn neu wyrdd a bŵts.

Mae heddlu wedi rhybuddio'r cyhoedd i beidio â mynd yn agos at y dyn os yw pobl yn ei weld - a'r cyngor yw i gysylltu â'r heddlu yn syth.

Pynciau cysylltiedig