Wcráin: Ymateb y DU 'ddim yn un dyngarol'

  • Cyhoeddwyd
gorsaf

Mae ymateb Llywodraeth y DU i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin wedi bod yn "arswydus", medd elusen.

Dywed Andrea Cleaver, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, nad ydy'r cynllun sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU yn "ymateb dyngarol".

Fe fydd y llywodraeth yn cynnig £350 y mis i bobl sydd yn derbyn ffoaduriaid o Wcráin i'w cartrefi, gan gynnwys pobl heb deulu yn y DU.

Yn ôl dynes o Lanelli oedd eisoes yn bwriadu derbyn ffoadur i'w chartref, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn "ddychrynllyd o araf".

Dywedodd Gweinidog Tai y DU Michael Gove wrth y BBC y gallai degau o filoedd o bobl ddod i'r DU yn sgil cynllun Cartrefi i Wcráin.

Yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod yna fwriad i dderbyn o leiaf 1,000 o ffoaduriaid o Wcráin.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd aelwydydd yn y DU yn derbyn £350 y mis am dderbyn ffoaduriaid i'w cartrefi

Yn siarad gyda'r BBC fore Llun, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru nad oedd ymateb Llywodraeth y DU i'r argyfwng yn un "dyngarol".

"Mae gwledydd yr UE yn derbyn degau o filoedd, os nad cannoedd o filoedd - tra yn y DU ar hyn o bryd, rydyn ni ond wedi derbyn 3,000 o bobl, a hynny drwy llwybr fisa, nid fel ffoaduriaid.

"Mae hynny'n arswydus, i ddweud y gwir."

'Cysur i'r cyhoedd'

Roedd Ms Cleaver yn gefnogol o gynllun Mark Drakeford i Gymru fod yn "noddwyr arbennig" i ffoaduriaid.

"Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o gamu mewn, tra bod camau'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel heb fynd yn ddigon pell, ac mae Llywodraeth Cymru wir wedi bod yn gefnogol yn eu gweledigaeth o greu cenedl nawdd."

Dros y penwythnos, dywedodd Mark Drakeford wrth y BBC ei fod yn "amhosib" rhoi ffigwr ar y nifer o ffoaduriaid y bydd Cymru'n eu derbyn.

Ond pwysleisiodd ei fod am i Gymru fod yn "noddwr arbennig," a bod cynlluniau mewn lle i dderbyn "y don gyntaf" o ffoaduriaid.

"Dwi'n credu ei fod yn beth da eu bod nhw'n dymuno gwneud eu rhan, cynnig ychydig o gysur i'r cyhoedd, ac ychydig yn fwy o gymorth," medd Ms Cleaver.

"Dwi'n credu y bydd angen hynny ar bobl, achos fe fydd yna bobl sy'n ystyried helpu, ac mae'n bosib y bydd cael cymorth Llywodraeth Cymru yn eu cymell nhw i benderfynu, 'ydw, dwi am dderbyn rhywun i'm cartref.'"

Beirniadu iaith

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Andrew RT Davies ei fod yn "ansicr" am ddefnydd y term "noddwyr arbennig"

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi beirniadu'r iaith mae Llywodraeth Cymru wedi ei defnyddio ynghylch ei chynllun i dderbyn ffoaduriaid.

Dywedodd Andrew RT Davies wrth y BBC fore Llun ei fod yn "ansicr" pam fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn defnyddio'r term "noddwyr arbennig" wrth geisio cyflymu'r broses o dderbyn ffoaduriaid.

"Dwi'n clywed yr iaith gafodd ei defnyddio dros y penwythnos gan lywodraethau Cymru a'r Alban, o alw eu hunain yn "noddwyr arbennig," ac mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at dderbyn 1,000 o ffoaduriaid.

"Os wyt ti'n mynd ar sail poblogaeth, fe fyddai Cymru i bob pwrpas yn cymryd tua 10,000 o ffoaduriaid petai 200,000 o bobl yn cyrraedd - felly, dwi ddim yn hollol sicr pam eu bod wedi defnyddio'r term "noddwyr arbennig," achos wrth gwrs dydy 1,000 ddim yn gyfystyr â 10,000."

Pwysleisiodd Mr Davies ei fod am weld cynllun "mor gyflym a hyblyg ag sy'n bosib," gan gyfeirio at y mesurau fydd Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno ddydd Llun, gan gynnwys £350 y mis i aelwydydd sy'n derbyn ffoaduriaid.

"Yr hyn hoffwn i ei weld yw cynllun sydd mor gyflym, hyblyg a thrugarog ag sy'n bosib, gan hefyd ystyried y cymorth sy'n rhaid i ni ei gynnig i'r bobl sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau yn Wcráin."

'Y DU ar ei hôl hi'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Fran Bowhay eisoes yn cynllunio i dderbyn ffoaduriaid i'w chartref

Un sydd yn bwriadu derbyn ffoadur i'w chartref yw Fran Bowhay o Lanelli - ond pwysleisiodd hi nad cynllun Llywodraeth y DU oedd y sbardun.

"Mae Llywodraeth y DU bob tro ar ei hôl hi," meddai Ms Bowhay, oedd eisoes yn dymuno derbyn ffoadur.

Dywed Ms Bowhay fod pobl eisoes wedi bod yn gwirfoddoli i dderbyn ffoaduriaid i'w cartrefi heb feddwl am unrhyw gymhelliant ariannol.

"Mae'r llywodraeth wedi bod yn ddychrynllyd o araf yn hyn".

Lleisiodd hi bryder nad oedd yr "isadeiledd na'r adnoddau" mewn lle er mwyn rhedeg y cynllun mewn modd diogel.

Ychwanegodd ei bod hi'n croesawu uchelgais Cymru i fod yn "noddwr arbennig" i ffoaduriaid, ond pwysleisiodd y byddai dal angen i ffoaduriaid fynd drwy'r broses fisa er mwyn dod yma, yn ôl rheolau Llywodraeth y DU.