Teyrngedau i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn 61 oed
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrnged i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn 61 oed.
Roedd Mr Dafis yn ddarlledwr cyson ar Radio Cymru - yn un o gyfranwyr 'Munud i Feddwl' ac yn sylwebydd ar faterion yr Eglwys yng Nghymru ar raglen Bwrw Golwg.
Bu hefyd yn golofnydd i'r cylchgrawn Barn ac yn olygydd cylchgrawn Y Llan - wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru.
Roedd Mr Dafis yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro ac yn yr ardal honno y cafodd ei addysg gynnar cyn dod i Brifysgol Aberystwyth a graddio yn y Gymraeg.
Wedi hynny aeth i weithio i wasanaeth llyfrgell gyhoeddus Morgannwg Ganol a gwasanaeth llyfrgell Dyfed cyn ymuno â staff y Llyfrgell Genedlaethol am chwarter canrif.
"Fe wnaeth Lyn waith arloesol iawn ym maes digido pan oedd o'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol," meddai Richard Owen, cyfaill agos iddo.
"Roedd o'n un o'r rhai a fu'n gyfrifol am ddigido nifer o gasgliadau, megis ffotograffau John Thomas, Lerpwl a chasgliad Geoff Charles, ac wedyn fe aed ymlaen i ddigido cyfnodolion Cymraeg.
"Roedd yn genedlaetholwr pybyr ond fe fydda i yn ei gofio yn bennaf fel dyn amryddawn a hynod alluog. Roedd o'n medru gafael mewn pwnc, deall ei hanfodion a'i feistroli'n sydyn.
"Roedd ganddo hefyd ddawn gyhoeddus ac roedd yn berfformiwr ffraeth a gwreiddiol - fe allai arwain cyfarfod neu lansiad llyfrau yn hwylus iawn ac roedd o'n dda iawn efo pobl."
Mewn neges ar gyfrif Twitter dywedodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd, bod Lyn Lewis Dafis wedi bod "yn aelod ffyddlon, galluog a gwerthfawr o weithlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Cyfaill i bawb'
Yn 2014 fe aeth Lyn Lewis Dafis am flwyddyn i goleg San Mihangel yn Llandaf ac wedi cwblhau ei gwrs fe fu'n gweinidogaethu yn eglwysi ardal Bro Padarn gan wasanaethu yn bennaf eglwysi Penrhyn-coch a Bont-goch.
Brynhawn Mercher wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y Parchedig Ganon Andrew Loat o Eglwys Sant Padarn Aberystwyth bod colli Lyn Lewis Dafis yn golled fawr iawn i'r plwyf.
"Roedd e'n gyfaill i bawb, yn ofalus iawn am y plwyfolion beth bynnag eu ffydd neu eu diffyg ffydd.
"Roedd e'n ŵr hynod o ddeallus ac fe fyddai i'n enwedig yn ei gofio am ei hiwmor - roedd pawb yn hoff iawn ohono. Bydd colled ar ei ôl."
"Fe fyddai i'n ei gofio fel un sydd wedi gwneud diwrnod da o waith," meddai'r Parchedig Enid Morgan o Aberystwyth.
"Roedd ei gyfraniad fel darllenydd lleyg yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth yn un clodiwiw ac fe weithiodd yn galed yn ystod y cyfnod clo gan feistroli'r dechnoleg ar ein rhan ni gyd - cyfraniad amhrisiadwy.
"Roedd Lyn yn fodlon bwrw ati - anghofia i fyth ohono yn cynhyrchu fersiwn canadwy o'r salmau. Roedd modd i ni wedyn lafarganu y salmau - roedd e'n glamp o waith. Welodd y fersiwn ddim golau dydd ond fues i'n defnyddio llawer ohonyn nhw.
"Mae colli Lyn yn ergyd fawr i'r Eglwys yng Nghymru a'r ardal."