Gwrthod cais am ganolfan wastraff yn Aber-miwl, Powys

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr Aber-miwl
Disgrifiad o’r llun,

Bu mwy na 200 o bobl yn protestio yn erbyn y cynlluniau yn 2018

Mae cais Cyngor Powys am drwydded i sefydlu canolfan wastraff swmpus yn Aber-miwl wedi'i wrthod gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl y corff amgylcheddol, roedd pryderon ynghylch cynllun atal tân yng nghais y cyngor.

Mae Cyngor Powys wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "annisgwyl" a "hynod o rwystredig a siomedig".

Mae'r awdurdod lleol am agor y ganolfan gwerth £4m ym Mharc Busnes Aber-miwl, lle cafwyd hyd i asbestos ar y safle yn 2019.

Bu gwrthwynebiad lleol i'r ganolfan, gyda mwy na 200 o bobl yn cymryd rhan mewn protest yn erbyn y cynlluniau yn 2018.

'Ymateb yn annigonol'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod gan Wasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin bryderon atal tân hefyd.

"Cafodd pryderon ynghylch diogelwch tân eu codi drwy'r asesiad technegol ac fe rannwyd hynny gyda'r ymgeisydd," meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Cafodd ceisiadau am wybodaeth eu codi i fynd i'r afael â'r pryderon ac fe wnaeth yr ymgeisydd ymateb gyda gwybodaeth bellach ar ôl pob cais.

"Fodd bynnag, roedd sylwedd yr ymatebion yn annigonol ar ôl asesiad pellach gan swyddogion trwyddedu CNC, a ymgynghorodd â chydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Er y protestio, mae'r cyngor sir yn benderfynol o apelio yn erbyn y penderfyniad diweddaraf

Mae gan Gyngor Powys chwe mis i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac fe wnaethon nhw gadarnhau y byddan nhw'n gwneud hynny mewn datganiad.

"Mae'r penderfyniad hwn ddim yn unig yn siomedig iawn, mae'n annisgwyl iawn hefyd a dim ond y bore 'ma, heb unrhyw rybudd blaenorol, y cawsom ni wybod," meddai Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Cyngor Powys dros yr Economi a'r Amgylchedd.

"Drwy gydol y cais, rydym wedi ymateb i bob cais am ragor o wybodaeth yn ofynnol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae'n siomedig hefyd nodi nad yw CNC wedi gweithio'n adeiladol gyda Chyngor Sir Powys a'i ymgynghorwyr arbenigol cyn dod i'r penderfyniad annisgwyl."

Ychwanegodd y byddai'r cyngor nawr yn paratoi "manylion ychwanegol" i'w gynllun atal tân yn unol â'r canllawiau diweddaraf.

"Mae'r pryderon a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn gallu cael eu datrys a dydyn ni ddim yn deall rhesymeg y dull a ddefnyddiwyd gan CNC sydd... yn gwbl groes i'n dyletswydd statudol i gynyddu cyfraddau ailgylchu.

"Does dim amheuaeth gennym fod y safle yn gallu cael ei ddefnyddio i ailgylchu'n ddiogel ac yn llwyddiannus ac y bydd trwydded yn cael ei chaniatáu maes o law, fe fyddwn ni felly yn apelio [yn erbyn] y penderfyniad."

Pynciau cysylltiedig