Cadarnhad y bydd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 yn digwydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo am y tro cyntaf.Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

A fydd golygfeydd fel rhain o 2019 yn dychwelyd flwyddyn nesaf?

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst 2022.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol wrth Cymru Fyw mai'r her bellach yw perswadio Eisteddfodwyr "i deimlo'n saff".

Bu'n rhaid gohirio'r ŵyl yno ddwywaith oherwydd y pandemig coronafeirws.

Cafodd ei gohirio am yr eildro ym mis Ionawr yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ym mis Gorffennaf - ar drothwy fersiwn rithiol o'r brifwyl - dywedodd y prif weithredwr y byddai'r trefnwyr yn gwneud "popeth yn eu gallu" i ddychwelyd i faes traddodiadol yn 2022.

'Awchu i fynd yn ôl i gae'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Elin Jones, fod "her o'n blaenau ni dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ysbrydoli a sbarduno trigolion y sir i ymuno â ni yn ein paratoadau".

"Ar y cychwyn, bydd y gweithgareddau paratoi'n fach wrth i ni ddod i arfer gyda chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith eto," meddai.

"Byddwn yn dilyn canllawiau'r Eisteddfod ei hun a holl gyngor Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu pawb."

Daeth cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru i ben bron yn llwyr ar 7 Awst.

Ers 11 Hydref mae'n orfodol i ddangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr neu glybiau yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Betsan Moses y bydd modd cynnal yr ŵyl o dan y cyfyngiadau Covid presennol

Dywedodd y prif weithredwr Betsan Moses fod y trefnwyr, ar hyn o bryd, yn "edrych ar y Maes ac ar y cynnwys artistig".

"Ar ôl dwy flynedd o beidio cynnal yr ŵyl ma' pobl yn awchu i fynd yn ôl i gae," meddai ar Dros Frecwast Radio Cymru.

"Byw gyda Covid fyddwn ni felly mae 'na ganllawiau ac ry'n ni'n cydweithio gyda'r llywodraeth yn barhaus ac yn diweddaru ac yn edrych ar y goblygiadau o gynnal gŵyl.

250 ymholiad maes carafanau

"Mae'r bwrdd yn edrych ar beth fydd y mesurau ychwanegol fydd yn eu lle fel gorsafoedd hylifo, edrych ar awyru digonol mewn stondinau, mesurau CO2 ac ati.

"Felly bydd yn rhaid diwygio diwyg yr ŵyl ond mae'n rhaid cynllunio gyda beth yw'r canllawiau ar hyn o bryd - os yw rheiny'n llacio, gore' oll, ond mi fydd modd cynnal yr ŵyl o dan y cyfyngiadau presennol."

Ychwanegodd: "Ry'n ni hefyd wedi derbyn dros 250 o ymholiadau ychwanegol am le ar y maes carafanau, ac mae pawb wedi'u gosod ar restr aros ar hyn o bryd, ac ry'n ni'n gobeithio gallu cysylltu â phawb dros yr wythnosau nesaf i ddweud a oes lle ar eu cyfer."

Ffynhonnell y llun, Elin Jones/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones a Phwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron yn paratoi yn 2019

Dywedodd y cynghorydd sir Catherine Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Tregaron: "Mae'n newydd da o lawenydd mawr. Mae'n flynyddoedd maith ers dechre' ar y daith."

Ychwanegodd fod pwyllgor tref Tregaron wedi codi £33,000 ar gyfer yr ŵyl - bron i ddwbl y targed a osodwyd - a bod yr ymdrech ar draws y sir wedi bod yn "ffantastig".

Ond gyda'r arian wedi'i gasglu, mae'r sylw nawr, meddai, yn troi at argyhoeddi pobl sy'n fwy petrusgar ers y pandemig ei bod hi'n saff i ymweld.

'Dysgu byw gyda hwn'

"Mae'n rhaid i ni sylweddoli bod pobl yn mynd i fod yn fwy ofnus mynd i ddigwyddiadau mawr erbyn hyn," meddai.

"Mae ffigyrau dyddiol [Covid-19] Ceredigion yn uwch na'r pandemig 'gwreiddiol' ar y funud. Mae'n mynd i fod yn anodd rhagweld, ar hyn o bryd, sut y bydd corau yn cyfarfod ac ati, er enghraifft.

"Ond gobeithio nawr fod y gwaetha' wedi bod - bydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda hwn.

"Mae'n rhaid i ni nawr wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud i bobl deimlo'n saff i ddod - mae e mas yn yr awyr agored, ac fe fydd pawb yn gwneud popeth allen nhw i 'neud e'n ddiogel."

Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi'i symud i Awst 2023 a'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.