O leiaf 20 mlynedd o garchar i ddyn, 71, am lofruddio'i wraig

  • Cyhoeddwyd
Linda MaggsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dioddefodd Linda Maggs o leiaf 15 o anafiadau trywanu i'w gwddf, ei brest a'i dwylo

Mae cyn-gyfrifydd a drywanodd ei wraig i farwolaeth wrth iddi orwedd yn ei gwely wedi ei garcharu am oes.

Cafodd Linda Maggs, 74, ei thrywanu o leiaf 15 gwaith yn ei gwddf, ei brest a'i dwylo yn ei chartref yn Sebastopol ger Pont-y-Pŵl ym mis Chwefror y llynedd.

Wedi hynny, dywedodd David Maggs, 71, wrth weithredwr 999: "Fi newydd ladd y wraig."

Roedd wedi cyfaddef dynladdiad ei wraig ar sail nad oedd yn ei iawn bwyll, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor fis diwethaf.

Dywedodd Mike Jones QC ar ran yr erlyniad mai llofruddiaeth Mrs Maggs oedd yr enghraifft eithaf "o drais yn y cartref".

Yn ystod y ddedfryd ddydd Iau yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd y barnwr Michael Fitton QC wrth Maggs ei fod yn "ddyn anghynnes".

"Roeddech chi'n chwerw ac yn flin gyda bywyd ac fe wnaethoch chi dynnu'r dicter mewnol hwnnw allan ar Linda ar y diwrnod y gwnaethoch chi ei lladd," meddai.

Bydd Maggs yn treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe ffoniodd David Maggs yr heddlu ar ôl trywanu ei wraig 15 o weithiau

Clywodd yr achos llys fod y ddau wedi bod yn gwpl ers diwedd yr 1980au, cyn priodi yn 2002.

Roedden nhw wedi teithio'r byd, ond roedd arian yn achos dadlau yn aml iawn ac fe ddirywiodd y berthynas dros amser.

Yn ystod haf 2020 dywedodd Linda wrth David ei bod hi eisiau ysgariad.

Roedd y cyfnodau clo wedi bod yn straen ychwanegol ac er i'r ddau barhau i fyw yn yr un tŷ, roedd David yn byw lawr grisiau a Linda i fyny'r grisiau.

Yn y misoedd cyn marwolaeth Mrs Maggs, honnodd ei gŵr wrth dri o wahanol bobl ei fod am ei lladd.

Roedd un o'r tri mor bryderus fel y dywedodd wrth yr heddlu. Aeth swyddogion i'r tŷ a siarad â'r cwpl ar wahân.

Disgrifiad o’r llun,

David Maggs yn gadael Llys y Goron Caerdydd yn ystod yr achos

Ar fore'r llofruddiaeth, cymerodd David ddwy gyllell gegin i fyny'r grisiau a cherdded i mewn i'w hystafell wely.

Dywedodd Maggs wrth swyddogion ei fod am siarad â hi am yr ysgariad.

Mae'n honni na all gofio beth ddigwyddodd nesaf.

Ar ôl trywanu Linda droeon, daeth David Maggs i lawr y grisiau a ffonio 999.

Yn yr alwad, mae'n swnio'n ddryslyd ac yn fyr ei wynt wrth iddo geisio egluro beth oedd wedi digwydd.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu'r tŷ fe ddaethon nhw o hyd iddo yn eistedd mewn cadair - roedd gwaed sych ar ei freichiau a'i gorff.

Roedd y ddwy gyllell wedi eu gosod ar waelod y grisiau.

'Wedi cael digon'

Mae camerâu corff yr heddlu yn ei recordio yn dweud wrth swyddogion: "Dwi jest wedi cael digon. Fe geisiodd hi ddwyn dau dŷ oddi arnaf, dau dŷ."

Roedd y fideo hefyd yn dangos dau blismon, PC Matthew Roach a meddyg yr heddlu PC Heidi Williams yn mynd i fyny'r grisiau, cyn dod o hyd i Linda yn gorwedd yn y gwely o dan y gorchudd.

Am 17 munud fe geisiodd y ddau swyddog ddadebru Linda, ond roedd ei hanafiadau yn rhy ddifrifol.

Cofnododd yr archwiliad post-mortem friwiau i'w dwylo a'i bysedd, arwydd ei bod wedi ceisio amddiffyn ei hun rhag ymosodiad ei gŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd David Maggs ei amser yn eistedd yn yr ystafell fyw, yn ysmygu, yn chwarae cardiau a gwylio ffilmiau, clywodd y llys

Ni fynegodd David Maggs edifeirwch am yr hyn a wnaeth yn ystod cyfweliadau â'r heddlu.

Dywedodd yr erlynydd Mike Jones QC wrth y rheithgor: "Yn syth o'r alwad 999 gyntaf, mae'r emosiwn cyson a ddangoswyd gan y diffynnydd hwn yn un o elyniaeth a dicter tuag at Linda, yna hunan-dosturi."

Yn y llys, fe gyfaddefodd David Maggs ddynladdiad ar sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Dywedodd ei fargyfreithiwr Sarah Jones QC y byddai iselder ac afiechyd ei chleient wedi amharu ar ei farn, a'i fod wedi dweud wrthi: "Hoffwn i na fyddai hyn erioed wedi digwydd."

'Dwi ddim yn eich credu chi'

Mewn datganiad effaith dioddefwr emosiynol yn y llys, dywedodd mab Mrs Maggs, Andrew Minahan, wrth David Maggs: "Rydych chi'n honni na allwch chi gofio dim byd - dwi ddim yn eich credu chi.

"Fe wnaethoch chi gymryd ein mam a mam-gu ein plant. Roedden nhw'n ei charu hi, roedd hi'n eu caru nhw.

"Yn eich priodas fe wnaethon ni eich croesawu chi i'n teulu. Hoffwn i pe na bawn i erioed wedi dweud y geiriau hynny.

"Fe wnaethoch chi addewid na fyddech chi byth yn gosod pen eich bys ar ein mam."

Dywedodd Mr Minahan mai'r enw ar garreg fedd Linda oedd Linda Minahan, nid Maggs.

Pynciau cysylltiedig