Alun Wyn Jones yn dychwelyd, ond Biggar dal yn gapten

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones a Dan Biggar gyda thlws y Goron Driphlyg yn 2021Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones a Dan Biggar gyda thlws y Goron Driphlyg yn 2021

Bydd Alun Wyn Jones yn dychwelyd i'r tîm cenedlaethol fydd yn herio'r Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn ar ôl gwella o anaf.

Ond Dan Biggar fydd yn parhau fel capten ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae dros Gymru am y 150ed tro, a Biggar yn ennill ei 100fed cap i Gymru.

Dyma fydd y tro cyntaf i Jones chwarae ers anafu ei ysgwydd yn erbyn Seland Newydd yng ngemau'r hydref.

Ymhlith y newidiadau eraill, bydd Dewi Lake yn dechrau am y tro cyntaf fel bachwr i Gymru, bydd Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni a bydd Uilisi Halaholo yn chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf eleni fel partner i Owen Watkin yn y canol.

Dau arall sy'n dychwelyd i'r tîm yw Johnny McNicholl fel cefnwr, a Louis Rees-Zammit ar yr asgell.

Pymtheg cyffrous

Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd Wayne Pivac: "Ry'n ni wedi gwneud rhai newidiadau yr wythnos yma. Gydag yn gêm yn weddill mae yna chwaraewyr ry'n ni angen eu gweld ar y cae.

"Yn sicr ry'n ni wedi enwi pymtheg y'n ni'n credu all wneud y job. Mae cyfle i godi i fyny'r tabl, ac mae hwn yn dîm cyffrous ac yn un ry'n ni'n edrych ymlaen at ei weld.

"Mae'r Eidal yn dîm sy'n gwella... maen nhw wedi cael anlwc weithiau ond mae ganddyn nhw chwaraewyr da fel y gwelson ni yn erbyn Yr Alban.

"Mae Dan [Biggar] ac Al [Wyn Jones] yn chwaraewyr anferthol i Gymru ac wedi bod ers blynyddoedd.

"Mae'n garreg filltir anhygoel i'r ddau ac mae'n briodol iddyn nhw rannu'r diwrnod yma wrth i Dan gyrraedd 100 cap i Gymru ac Alun yn cyrraedd carreg filltir o 150 cap."

Tîm Cymru i wynebu'r Eidal - dydd Sadwrn, 19 Mawrth am 14:15

Johnny McNicholl (Scarlets); Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Owen Watkin (Gweilch), Uilisi Halaholo (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd); Dan Biggar (Northampton Saints, capten), Gareth Davies (Scarlets); Gareth Thomas (Gweilch), Dewi Lake (Gweilch), Dillon Lewis (Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Seb Davies (Caerdydd), Josh Navidi (Caerdydd), Taulupe Faletau (Caerfaddon).

Eilyddion: Bradley Roberts (Ulster), Wyn Jones (Scarlets), Leon Brown (Dreigiau), Will Rowlands (Dreigiau), Ross Moriarty (Dreigiau), Kieran Hardy (Scarlets), Callum Sheedy (Bryste), Nick Tompkins (Saracens).