Heddwas yn euog o gyhuddiadau ffug am fyfyrwraig
- Cyhoeddwyd

Cafwyd PC Abubakar Masum yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder a mynediad heb awdurdod i gyfrifiadur yr heddlu
Mae heddwas wedi'i ganfod yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl gwneud cyfres o adroddiadau ffug am fyfyrwraig 23 oed.
Gwnaeth PC Abubakar Masum, o Abertawe, gyfres o alwadau i Daclo'r Taclau (Crimestoppers) rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020.
Roedd y galwadau yn cyhuddo'r fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe o werthu cyffuriau, cadw gwn a llofruddio 'gangster' o Albania cyn gwaredu â'i gorff yn y môr.
Wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth Masum gyfaddef gwneud y galwadau, ond dywedodd eu bod yn "ddidwyll" yn seiliedig ar bostiadau ar ei chyfrif Snapchat.
Ond clywodd y llys ei fod wedi datblygu "obsesiwn" ar ôl i'r ddau gyfarfod mewn clwb nos.
Gwastraffu 200 awr o amser yr heddlu
Arweiniodd yr awgrymiadau ffug at heddlu arfog i gynnal cyrch ar gartref y fyfyrwraig ac fe gafodd ei holi ynglŷn â'r llofruddiaeth arfaethedig - yn ogystal â'r ddynes yn cael ei harestio tra'r oedd yn gweithio yn Tesco yn Abertawe.
Amcangyfrifir fod yr adroddiadau i Daclo'r Taclau wedi gwastraffu tua 200 awr o amser yr heddlu.
Ond ni ddaeth Heddlu De Cymru o hyd i unrhyw dystiolaeth ei bod yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau troseddol.
Roedd Masum wedi gwadu dau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac un cyhuddiad o fynediad heb awdurdod i gyfrifiadur yr heddlu - ond fe'i gafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd.

Cynhaliwyd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd
Pan ofynnwyd iddo gan yr amddiffyniad a oedd ganddo obsesiwn â'r fyfyrwraig, dywedodd Masum: "Dim o gwbl.
"Am fenyw rydw i ond wedi'i chyfarfod tair gwaith, tydw i ddim yn meddwl fod hi'n bosib yn gorfforol i fod ag obsesiwn."
Bydd PC Masum yn cael ei ddedfrydu wedi i adroddiadau angenrheidiol gael eu paratoi.
Gofynnodd y barnwr hefyd am osod gorchymyn atal ar Masum i'w rwystro rhag cysylltu â'r fyfyrwraig.