Canllaw syml i etholiad cynghorau sir 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canllaw etholiad

Bydd etholwyr yng Nghymru yn pleidleisio ar 5 Mai i ddewis eu cynghorwyr lleol.

Fe fydd yr etholiad yn penderfynu pwy sy'n rheoli eich awdurdod lleol, sy'n rheoli pethau fel trafnidiaeth, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gwastraff.

Mae etholiadau'n cael eu cynnal ar draws y DU, ac fe fyddan nhw'n brawf o boblogrwydd llywodraeth Geidwadol y DU yn San Steffan, a Llywodraeth Cymru - sydd o dan reolaeth y blaid Lafur ym Mae Caerdydd.

Am y tro cyntaf, fe fydd rhai etholwyr yn cael pleidleisio'n gynnar fel rhan o arbrawf mewn rhai awdurdodau.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Beth ydy cynghorau Cymru?

Mae 22 o gynghorau yng Nghymru, gyda chyfanswm o 1,234 o seddi mewn 762 o wardiau.

Mae wardiau'n cynrychioli ardaloedd daearyddol penodol, ac mae niferoedd gwahanol o gynghorwyr yn cynrychioli ardaloedd gwahanol.

Dydy cynghorau ddim yn creu cyfreithiau, ond maen nhw'n penderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu rheoli.

Maen nhw hefyd yn pennu lefelau treth y cyngor.

Beth sy'n cael ei benderfynu?

Yn ogystal â Chymru, mae etholiadau yn Lloegr a'r Alban yn golygu y bydd y pleidleisio yn brawf o gefnogaeth i'r blaid Geidwadol, yn dilyn dechrau'r rhyfel yn Wcráin, a misoedd o straeon damniol am gynnal partïon yn Downing Street yn ystod y pandemig.

Bydd yn brawf hefyd i Mark Drakeford a Llafur Cymru, wrth i reoliadau Covid ddirwyn i ben yma yng Nghymru ar ôl dwy flynedd.

Fe fydd Plaid Cymru'n gobeithio adeiladu ar yr enillion yn yr etholiadau lleol yn 2017, ond bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio adennill tir a gollwyd.

Y tro diwethaf, enillodd y blaid Lafur 472 o seddi, ac fe gipiodd Plaid Cymru 202.

184 oedd cyfanswm y Ceidwadwyr, wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill 63 o seddi. Fe wnaeth aelodau annibynnol ennill 322 o seddi.

Ond yn y mwyafrif o gynghorau, methodd un blaid neu un grŵp o aelodau annibynnol i sicrhau rheolaeth drwy fwyafrif.

Roedd gan y blaid Lafur reolaeth o saith awdurdod, gyda Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn rheoli un yr un.

Er nad oedd rheolaeth lawn, roedd Plaid Cymru'n arwain gweinyddiaeth mewn tri awdurdod, a Llafur mewn dau gyngor.

Sut mae'r etholiad yn gweithio?

Mae pob sedd cyngor yn cael ei dewis ar yr un pryd yng Nghymru, gydag etholwyr yn cael papur pleidleisio i ddewis pwy maent am ei gefnogi.

Os oes mwy nag un sedd yn cynrychioli ward, fe fydd etholwr yn cael dewis mwy nag un ymgeisydd.

Yr enillydd fydd yr ymgeisydd neu ymgeiswyr sy'n derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau.

Etholiadau Lleol 2022

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf ar 5 Mai, ond mewn pedwar awdurdod, mae arbrawf o system o bleidleisio cynnar mewn gorsafoedd penodol.

Ar 5 Mai, fe fydd gorsafoedd ar agor rhwng 0700 a 2200.

Os nad oes mwyafrif amlwg, yna fe fydd cynghorwyr yn penderfynu ymysg ei gilydd pwy fydd yn arwain.

Pwy sy'n cael pleidleisio?

Mae 2.3 miliwn o etholwyr yng Nghymru.

Mae unrhyw berson dros 16 oed yn cael pleidleisio, gan gynnwys pobl o dramor.

Mae'n rhaid bod unigolyn yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru i bleidleisio.

Rhaid cofrestru i bleidleisio erbyn 14 Ebrill, ac mae modd gwneud hynny yma, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i bob cyngor gyfri'r pleidleisiau ar y diwrnod canlynol, yn hytrach na thros nos eleni

Sut mae pleidleisio'n gynnar neu drwy'r post?

Mae pleidleisio cynnar yn cael ei dreialu mewn pedwar awdurdod - Blaenau Gwent, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen.

Bydd canolfannau yng Nglyn Ebwy, Ystrad Mynach, Pen-y-bont a Phont-y-pŵl yn agor yn y dyddiau cyn yr etholiad er mwyn pleidleisio'n gynnar. Mae mwy o fanylion ar wefannau'r cynghorau.

Mae modd dewis i bleidleisio drwy'r post. Rhaid gwneud cais gyda'ch cyngor erbyn 19 Ebrill.

Pryd gawn ni'r canlyniadau?

Mae pob cyngor yng Nghymru yn cyfri'r pleidleisiau ddydd Gwener 6 Mai, yn hytrach na thros nos.

Mae'n golygu na fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi tan y prynhawn ar y cynharaf.

Fe fydd yr holl ganlyniadau i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.