Cymru'n paratoi at etholiadau lleol 'hanesyddol'
- Cyhoeddwyd
Ar y cyfan dyw etholiadau lleol ddim yn denu llawer o sylw nac yn achosi llawer o gyffro, ond mewn mwy nac un ystyr mae etholiadau eleni yn rhai hanesyddol.
Yn gyntaf, fe fydd mwy o bobl â'r hawl i bleidleisio nac mewn unrhyw etholiad yn ein hanes. Mae hynny oherwydd penderfyniad Senedd Cymru i ganiatáu i bawb dros 16 oed bleidleisio beth bynnag yw eu dinasyddiaeth.
Yn ail, mae'n debyg mai'r rhain fydd yr etholiadau lleol olaf i'w cynnal trwy ddefnyddio cyfundrefn bleidleisio cyntaf i'r felin yn unig.
Pan gynhelir yr etholiadau nesaf ymhen pum mlynedd, fe fydd gan gynghorau'r hawl i ddefnyddio cyfundrefn gyfrannol ac mae llawer, mwyafrif efallai, yn debyg o wneud hynny.
Fe fydd yn rhaid aros i'r enwebiadau gau cyn i ni wybod union siâp y frwydr ond, o farnu o etholiadau blaenorol, dim ond yn ninasoedd y de ac ambell i gyngor arall, megis Mynwy a Wrecsam, y bydd y prif bleidiau yn enwebu unrhyw beth yn agos at slât lawn o ymgeiswyr.
Yng nghymoedd y de fe fydd Llafur yn cael ei herio gan Blaid Cymru, ambell i Geidwadwr ac ymgeiswyr annibynnol o bob lliw a llun.
Dyw gafael Llafur ar y rhanbarth hwn ddim mor gadarn ag a buodd.
Bum mlynedd yn ôl, er enghraifft, llithrodd Merthyr a Blaenau Gwent o afael y blaid. Fe fydd Llafur yn torri eu boliau i geisio cael y rheiny'n ôl.
Tra bod ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn cynyddu eu dylanwad yn y Gymru ôl-ddiwydiannol dros y degawdau diwethaf, y gwrthwyneb sy'n wir yn y Gymru wledig.
Mae Plaid Cymru wedi ennill tir yn gyson ar draul aelodau annibynnol yn siroedd y gorllewin tra bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi efelychu'r gamp yn y siroedd dwyreiniol.
Ar drothwy'r etholiad mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru yn cael eu rhedeg gan glymbleidiau o wahanol fathau. Dim ond naw cyngor sydd ag un blaid mewn grym - gyda saith o'r rheiny ym meddiant Llafur, a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn meddu ar un yr un.
Etholiadau Lleol 2022
Ar drothwy'r ymgyrch felly beth yw gobeithion y gwahanol bleidiau?
Ar ôl etholiad Senedd Cymru lwyddiannus y llynedd a chyda'r arolygon barn yn addawol fe fydd Llafur yn gobeithio tynhau ei gafael ar y dinasoedd mawrion ac adennill y cynghorau a gollwyd pum mlynedd yn ôl. Fe fyddai methu gwneud hynny yn siom ddifrifol i'r blaid.
O safbwynt Plaid Cymru sicrhau mwyafrifoedd ar gynghorau y mae hi eisoes yn arwain fydd y targed cyntaf.
Mae hi eisoes o fewn trwch blwyn i fwyafrifoedd yng Ngheredigion, Môn a Sir Gâr ac fe fydd y blaid yn chwysu chwartiau i fynd â'r maen i'r mur.
Brwydr amddiffynnol sy'n wynebu'r Ceidwadwyr gyda chadw mwyafrif ar Gyngor Sir Fynwy, yr unig gyngor mae'r blaid yn rhedeg y tu fas i Loegr, ar frig yr agenda.
Fe fydd hi hefyd yn ddiddorol gweld faint o ymdrech y bydd y Ceidwadwyr yn buddsoddi mewn ardaloedd ble mae ganddi gynrychiolaeth seneddol ond nemor ddim presenoldeb mewn llywodraeth leol. Ynys Môn yw'r enghraifft amlwg.
Ym myd llywodraeth leol mae 'na un blaid arall sydd werth ei chrybwyll.
Yn y siambrau cyngor y mae caer fechan olaf Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Os oes 'na ddyfodol o gwbl i fod i'r blaid honno mae angen llwyddiannau arni ym mis Mai.
Mae 'na ddigon o frwydr o'n blaenau felly ond mae'n werth cofio taw etholiadau lleol yw'r rhain ac mae'r gair lleol yna yn golygu rhywbeth.
Dyw'r canlyniadau ddim o reidrwydd yn unffurf a gallasai polisi amhoblogaidd neu sgandal yn lleol arwain at ganlyniad annisgwyl mewn ambell i fan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022