Dim ymchwiliad heddlu i ddifrod insiwleiddio gan gyngor

  • Cyhoeddwyd
Tamprwydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau na fydd yn ymchwilio i waith insiwleiddio gan gyngor a wnaeth ddifrod i gartrefi yn ardal Maesteg.

Dywedodd y llu bod "adolygiad llawn" wedi dod i'r casgliad na chafodd unrhyw drosedd ei gyflawni fel rhan o raglen Arbed yng Nghaerau, Maesteg.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wedi addo £3.5m i wneud gwaith adnewyddu ar 104 o gartrefi.

Cafodd yr inswleiddio ei osod trwy gyllid llywodraethau Cymru a'r DU, ond mae perchnogion tai wedi cwyno am waith o safon gwael a "difrod" i'w cartrefi.

Mae'r adolygiad - a gafodd ei gwblhau yn 2019 ond ei gyhoeddi ym mis Ionawr - yn dweud bod yr heddlu "wedi penderfynu nad yw'n addas iddyn nhw weithredu".

Dros yr wythnosau diwethaf mae rhai cynghorwyr wedi gofyn i'r heddlu ailystyried y penderfyniad hwnnw.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad yw'r amgylchiadau wedi newid ers i'r asesiad gwreiddiol - a ddaeth i'r casgliad nad oedd trosedd wedi'i gyflawni - gael ei gwblhau yn 2019.

'Ddim yn ddigon da'

Dywedodd cynghorydd yr wrthblaid Ross Penhale-Thomas y dylai'r heddlu esbonio "sut ddaethon nhw i'r casgliad hwnnw".

"Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n ddigon da i ddweud eu bod wedi adolygu'r dystiolaeth ac nad oes unrhyw beth i'w gario 'mlaen," dywedodd.

Phil White, y cynghorydd Llafur lleol, oedd cyfarwyddwr y prif gontractwyr, Green Renewable Wales (GRW). Bu farw Mr White y llynedd.

Pynciau cysylltiedig