Insiwleiddio gan gyngor wedi 'difetha' cartrefi Maesteg
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl sy'n byw mewn cartrefi a gafodd eu "difetha" gan insiwleiddio diffygiol dderbyn iawndal, medd cynghorydd.
Cafodd arian cyhoeddus ei wario i wneud cartrefi yng Nghaerau ger Maesteg yn gynhesach ac yn rhatach i'w gwresogi.
Ond mae rhai pobl wedi gorfod gwario arian eu hunain ar ddelio â lleithder sydd, yn ôl honiadau, wedi deillio o ganlyniad i'r gwaith insiwleiddio.
Dywed Keith Edwards, sy'n gynghorydd annibynnol, bod yn rhaid i'r bobl sydd wedi gorfod gwario gael yr arian yna'n ôl.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud y byddant yn talu am waith atgyweirio.
Nod y gwaith oedd gostwng biliau ynni a sicrhau bod y cartrefi yn gynhesach, ond dywedodd Rhiannon Goodall bod y gwaith insiwleiddio wedi "dinistrio'n llwyr" y cartref mae hi'n ei rannu gyda'i gŵr Wayne a'u merch Lili-May.
"Mae'r plastr yn cwympo i ffwrdd," meddai wrth raglen Politics Wales y BBC.
"Mae fy nhŷ i'n teimlo fel ei fod yn cwympo oherwydd y lleithder y mae'r cyfan wedi'i achosi.
"Mae'r insiwleiddio ar y tu fas wedi achosi i ddŵr lifo ar y waliau y tu mewn."
'Difetha'n llwyr'
Dywedodd Richie Humphreys bod ei gartref ef a'i wraig Rosaline wedi'i "ddifetha'n llwyr" gan insiwleiddio ar flaen a chefn y tŷ teras.
"Byddai'n well gen i gael fy nhŷ yn ôl i fel yr oedd e," meddai Mr Humphreys, 78 oed.
Mae'r trafferthion a achoswyd gan y gwaith wedi bod yn "ofid mawr" iddo fe a'i wraig, meddai.
Cafodd 25 o gartrefi yng Nghaerau eu hinswleiddio fel rhan o gytundeb gwerth £315,000 a roddwyd gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gwmni o'r enw Green Renewable Wales (GRW).
Daeth y rhan fwyaf o'r arian o gynllun Arbed Llywodraeth Cymru - cynllun i wneud cartrefi'n fwy effeithlon yn ardaloedd tlotaf Cymru.
Defnyddiwyd cyllid pellach, yn rhannol gan gwmnïau ynni, i dalu am waith ar 79 o gartrefi eraill.
Roedd un cynghorydd Llafur lleol, Phil White, yn gyfarwyddwr GRW. Nid yw'r cwmni'n bodoli bellach a bu farw Mr White y llynedd.
Yn ddiweddar fe wnaeth adroddiad archwilio mewnol gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ganfod bod "nifer o bryderon sylweddol" am gynllun Arbed.
Nodwyd nad oedd proses gaffael wedi ei dilyn ac nad oedd "gwiriadau diwydrwydd dyladwy" (due diligence) wedi eu cynnal ar gyfer y cwmnïau dan sylw.
"Doedd dim tystiolaeth glir o sut, pryd na phwy wnaeth benderfyniadau am y cynllun hwn," meddai'r adroddiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig talu £2.65m am waith ar bob un o'r 104 cartref.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cael ei arwain gan y Blaid Lafur, yn gorfod paratoi achos busnes erbyn diwedd mis Chwefror. Mae'n ystyried cyfrannu £850,000 at y gwaith.
Dywedodd y cynghorydd annibynnol Keith Edwards bod pobl yn haeddu iawndal.
"I'r bobl hynny sydd wedi gorfod gwario arian eu hunain mae angen iddynt gael yr arian yn ôl," meddai.
"Bydd y tai yn cael eu hatgyweirio a'n lle ni fel cynghorwyr lleol yw sicrhau bod y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn safonol."
Beth ydy ymateb y cyngor?
Dywedodd Cyngor Pen-y-bont bod amrywiol sefydliadau wedi bod yn gyfrifol am y gwaith insiwleiddio rhwng 2012-2013.
Dywedodd llefarydd hefyd bod y cyngor wedi "gweinyddu cyllid ar gyfer 25 o'r 104 eiddo a bod adroddiad mewnol wedi dangos bod diffyg arweiniad ar y pryd - rhywbeth y mae'r awdurdod yn ymddiheuro amdano".
"Fe wnaeth yr archwilwyr edrych ar nifer o gynlluniau eraill fel rhan o'r ymchwiliad a dod i'r casgliad mai digwyddiad un tro oedd cynllun Arbed.
"Gan fod camau ar waith i atal hyn rhag digwydd eto a gan bod yr Ombwdsmon, Archwilio Cymru a Heddlu'r De wedi cadarnhau nad oes angen gweithredu pellach, mae'r cyngor yn canolbwyntio ar unioni'r sefyllfa a sicrhau bod y cartrefi'n iawn."
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni a'r awdurdod lleol wedi cytuno i ariannu y gwaith sydd ei angen i wella'r sefyllfa ac wedi gofyn i Gyngor Sir Pen-y-bont i gyflwyno cynllun manwl fel bod modd i'r awdurdod lleol ddechrau ar y gwaith yn syth.
"Mae effeithlonrwydd ynni domestig wedi gwella ers i'r gwaith ddod i ben.
"Os yw'n cael ei osod yn iawn gall insiwleiddio waliau mewnol ac allanol wneud cyfraniad sylweddol i ostwng allyriadau carbon. Mae biliau ynni yn is ac mae'r tai yn fwy cyfforddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021