Iawndal am ddifrod insiwleiddio yn 'annhebygol'

  • Cyhoeddwyd
Pibell wedi torri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhai cartrefi eu "difetha" gan insiwleiddio diffygiol yn ôl perchnogion

Mae'n annhebygol y bydd perchnogion tai a dalodd i drwsio difrod a achoswyd gan gynllun insiwleiddio dadleuol yn derbyn iawndal, yn ôl arweinydd cyngor.

Mae cynllun gwerth £3.5m i drwsio inswleiddio mewn hyd at 104 o gartrefi yng Nghaerau, ger Maesteg, yn cael ei baratoi ar ôl i rai pobl ddweud bod gwaith gwael wedi difetha eu tai.

Cafodd y tai eu hinsiwleiddio fel rhan o gynlluniau cyhoeddus i wneud cartrefi'n gynhesach a thorri biliau gwresogi.

Mae arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, wedi ymddiheuro gan ddweud bod y broses o wirio cytundebau wedi "methu".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tamprwydd gwael ei ddarganfod ar rai o waliau'r cartrefi

Fe wnaeth archwiliad mewnol gan ei gyngor - a gomisiynwyd yn 2019, ond a gyhoeddwyd fis diwethaf - ddarganfod nad oedd "unrhyw broses gaffael" a bod y cyngor wedi methu gwirio'r cwmnïau wnaeth dderbyn arian.

Rhoddwyd cytundeb gwerth £315,000 i gwmni yr oedd un o gynghorwyr cabinet Mr David, Phil White, yn gyfarwyddwr ag ef. Bu farw Mr White y llynedd.

Daeth y cyllid hwnnw, a dalodd am inswleiddio 25 o gartrefi, o raglen Arbed Llywodraeth Cymru. Talwyd am waith ar gartrefi eraill gan gynlluniau Prydeinig a ariannwyd gan gwmnïau ynni.

Mae'n rhaid i'r cyngor gyflwyno cynllun busnes i Lywodraeth Cymru i drwsio pob un o'r tai erbyn diwedd y mis.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd cyngor Pen-y-bont, Huw David, ei bod hi'n annhebygol y bydd perchnogion y tai yn derbyn iawndal

Pan ofynnwyd a fyddai pobl sydd eisoes wedi gwario eu harian eu hunain ar atgyweiriadau yn cael iawndal, dywedodd Mr David nad oedd gan y cyngor "unrhyw rôl o gwbl yn y rhan fwyaf o'r eiddo".

"Felly mae'n annhebygol y bydd y cyngor yn gallu digolledu pobl am waith sydd wedi'i wneud gan gwmnïau nad ydynt yn ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr," meddai.

"Byddwn wrth gwrs yn archwilio hynny gyda Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU a gyda Ofgem.

"Ond byddai'n anodd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddigolledu trigolion ac yn sicr trigolion lle nad oedd y gwaith yn ymwneud a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

"Mae'n ddrwg iawn gennym wrth gwrs am yr hyn sydd wedi digwydd. Ein blaenoriaeth nawr yw sicrhau bod y gwaith yn cael ei gywiro."

Pynciau cysylltiedig