Dau wedi'u cyhuddo o ddynladdiad merch 16 ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
![Heddlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FF90/production/_89142456_27bb2f99-87c3-4476-9b0e-c48d4c4d93da.jpg)
Mae dau wedi cael eu cyhuddo o ddynladdiad merch o Bowys drwy esgeuluster difrifol.
Cafwyd hyd i Kaylea Titford, 16, yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod Alun Titford, 44, a Sarah Lloyd-Jones, 39, wedi eu cyhuddo o ddynladdiad drwy esgeuluster difrifol ac achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn neu berson bregus.
Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth cyn ymddangos ger bron Llys Ynadon Y Trallwng ar 22 Mawrth.