Artistiaid Cymraeg yn cynnal gig ar gyfer ffoaduriaid Wcráin
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn cymryd rhan mewn gig ar gyfer Wcráin ym mis Ebrill.
Ymhlith y perfformwyr fydd yn chwarae ar faes sioe Môn bydd Alffa, Bryn Fôn a'r Band, Elin Fflur, a Bwncath.
Bydd holl elw'r digwyddiad yn mynd tuag at gefnogi ffoaduriaid o Wcráin.
"Mae beth sy'n digwydd yn Wcráin wedi cyffwrdd pawb," meddai Bryn Fôn, trefnydd y gig, wrth BBC Cymru Fyw.
Cae Sioe Mona ger Gwalchmai ar Ynys Môn fydd yn gartref i'r digwyddiad ar 9 Ebrill, gyda Dewi Pws, Rhys Mwyn a Tudur Owen yn cyflwyno.
Bydd yr holl artistiaid yn perfformio am ddim, ac fe fydd gwestai arbennig â chysylltiad gydag Wcráin yn ymddangos ar y noson.
John Williams, sydd yn chwarae'r allweddellau i Bryn Fôn a'r Band, awgrymodd drefnu gig at yr achos, ac felly fe aeth Bryn Fôn ati i gynllunio.
Dywed un arall o drefnwyr y gig, Arwel Hughes o gwmni MAD, ei fod yn awyddus i wneud "rywbeth i helpu" ffoaduriaid o'r wlad.
"Mae beth mae Putin 'di 'neud i nhw yn erchyll," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Fydd 'na far, stondinau bwyd, bandiau ar y llwyfan, ac awê."
Fe wnaeth Pwyllgor Sioe Môn gynnig y lleoliad am ddim i'r trefnwyr, a Ffermwyr Ifanc Môn fydd yn rhedeg y bar.
Ymysg y noddwyr mae cynghorau Ynys Môn a Gwynedd, busnesau lleol, ac Undeb Amaethwyr Cymru.
Fe fydd tocynnau ar werth o 18 Mawrth ar wefan www.cymru-wcráin.cymru ac mewn siopau llyfrau Cymraeg Ynys Môn a Gwynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022