Sul y Mamau Hapus!
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Sul y Mamau ar 27 Mawrth mi ofynnon ni i rai o wynebau adnabyddus Cymru pam bod 'Mam' mor bwysig iddyn nhw a pha ddylanwad maen nhw wedi gael ar eu bywydau?
Alun Williams - Cyflwynydd: Wedi Tri, Sgorio, Stwnsh
"Dwi wastad wedi bod yn 'fachgen Mam!' 'Da chi weithiau yn gallu cymryd eich Mam yn ganiataol. Maen nhw wastad yna i chi, pan rych chi'n blentyn i'ch pigo chi i fyny pan 'da chi'n syrthio drosodd, i sychu'ch trwyn pan fo' gennych chi annwyd!
"Mae fy mherthynas i efo Mam wedi newid dros y blynyddoedd - dyw hi ddim angen sychu fy nhrwyn mwyach ond mae hi wastad yno, una'i i roi cyngor, i warchod y plant ac wrth gwrs, yn yrrwr tacsi!!
"Mae Mam a fi'n agos, yn agos iawn. Mae'n gefn i mi ac erbyn hyn yn un o fy ffrindiau pennaf. Mae Sul y Mamau yn ddiwrnod sbeshal ond dwi'm angen diwrnod penodol i wybod pa mor bwysig ydy Mam yn fy mywyd. Caru ti Mam."
Rebecca Harries - Actores: Con Passionate, Pobol Y Cwm, Pentre Bach, Belonging, Byw Celwydd
"Mae Mam yn gymeriad penderfynol, annibynnol a stwbwrn. Dim ond nawr dwi 'di sylweddoli pa mor annibynnol yw hi. Gollon ni Dad, Ken Harries, nôl ym 1990.
"Mae fy chwaer, Rachel, fel fy Mam o ran pryd a gwedd. Ro'n i fel fy nhad! Hoff gyngor Mam pan dwi'n dost neu'n teimlo'n isel yw, "Cer am wâc." Mae'n iawn ac yn gwybod am beth mae'n siarad, ond pidwch a gweud 'na wrthi!
"Mae'n bresenoldeb cadarn a thawel a dwi wastad yn gwybod bod hi yna. Mae'n graig o berson. Mi fydd Sul y Mamau eleni'n arbennig achos mae hi wedi bod yn dost yn ddiweddar. Mae'n gwella nawr, yn dreifo, cerdded a bwyta. Fel wedes i, person annibynnol!"
Rhian Jones - Actores: Grav, Pobol y Cwm, Teulu, Enid a Lucy, Y Gwyll
"Mae Mam yn fam hollol arbennig. Ges i blant pan o'n i ar Pobol Y Cwm. Roedd e'n gyfnod eithaf anodd, dechrau gyrfa a bod yn fam ar yr un pryd. Ro'n i'n byw yn Llanegwad a Mam a Dad yn byw yng Nghefneithin. Bydden i'n gadael y plant gyda nhw am 6:30 y bore ac yn eu pigo nhw lan ar ôl dod nôl o Gaerdydd yn y nos.
"Roedd yr un peth yn wir gyda'r ddau llai pan o'n i'n gweithio ar raglenni eraill. Dwi'n sylweddoli faint o waith yw e! Sai'n credu allen i neud beth 'naeth hi a Dad. Mi wnaeth y ddau aberthu eu rhyddid er mwyn galluogi fi i ddilyn fy ngyrfa.
"Mae gen i gymaint o barch tuag ati, a Dad. Gollon ni Beiron nôl yn 2019. Un o'r pethau mwyaf pwerus mae Mam wedi dweud wrtha i yw, "Ta be' ti'n neud, gwna di'n siŵr dy fod ti'n neud yr un peth dros dy blant." Mae'n berson 'dim nonsens' ac yn trwper. Mae'n haeddu pob clod bob dydd o'r flwyddyn nid yn unig ar Sul y Mamau."
Eleri Sion - Cyflwynydd: Radio Cymru, Radio Wales, S4C
"Dwi ddim yn un sy'n lico ffỳs. Dwi erioed wedi dathlu fy mhen-blwydd mewn steil. Wi'n aml yn anghofio pen-blwydd fy ngŵr, yn anghofio ein pen-blwydd priodas a dwi erioed wedi chwilio ar ba ddyddiad mae Sul y Mamau'n disgyn. Yn anffodus, gollon ni Mam nôl ym 1989 pan oedd hi ond yn 46.
"Roedd e'n gyfnod creulon i golli Mam. Roedd ein perthynas yn blodeuo ac yn cryfhau fel mam a merch. Llai o wrthdaro a chwympo mas a mwy o gyfeillgarwch a chwerthin. Nes i wir hiraethu amdani pan nes i ddod yn fam fy hun. Dwi'n gwybod y bydde hi wedi bod yn fam-gu arbennig achos roedd hi'n fam arbennig. Nath hi aberthu cymaint fel fy mod i'n cael pob cyfle posib a'r hyn sy'n drist, ni chafodd hi weld ffrwyth yr aberth.
"Roedd Mam yn llawn sbort ac roedd hi'n dwli ar ddwli. Yn joio treulio amser gyda'i ffrindie, ac yn real feistres y Rayburn. Roedd ei bara brith a'i Welsh cakes hi'n top notch ond fy ffefryn i oedd y lemon meringue. Dwi erioed wedi blasu un gwell.
"Doedd hi byth yn gofyn am ddim. Bydden i'n gofyn iddi bob Dolig, pen-blwydd a Sul y Mamau, "Pwy fath o bresant chi mo'yn, Mam?" Yr un ateb fydden i'n cael bob tro, "Ww! Dewch a bach o lonydd i fi 'leni." Erbyn hyn dwi'n deall yn iawn beth roedd hi'n ei feddwl."
Ryland Teifi - Actor, cerddor, cyflwynydd
"Mi fydd eleni yn Sul y Mamau gwahanol iawn gan i mi golli fy chwaer, Tres, chwe mis yn ôl. Roedd yn ergyd drom arnom fel teulu yn enwedig i'w phlant, Cerys ac Aron. Roedd hi hefyd yn ergyd ysgytwol i fy Mam, Linda. Roedd hi eisoes wedi colli ei gŵr, Garnon, saith mis ynghynt a dyma hi'n sydyn yn darganfod ei hun yn y tŷ ar ei phen ei hun.
"Rwyf innau bellach yn byw yn Iwerddon ac roeddwn yn un o ddau. Mae meddwl am Mam mewn tŷ tawel yn galed ond dwi'n gwybod hefyd ei bod hi'n gymeriad cadarn. Fel dywed fy nai, Aron, "Merch ffarm yw hi cofia." Mae'n meddu ar rinweddau stoicaidd ac agwedd didwyll tuag at sialensiau bywyd.
"Serch hynny, dydy hynny ddim yn cuddio'r galon enfawr sydd y tu fewn iddi. Hi sydd wedi cynrychioli ochr synhwyrol, gwaraidd yn ein teulu ni erioed yng ngwyneb lleisiau uchel eu cloch! Mae ganddi'r gallu dihafal o ddangos cariad, cefnogaeth a hiwmor yn y ffordd fwyaf diffwdan, di-ffws a welais i erioed. Unigolyn sydd byth angen bod yn y canol neu yn y golau.
"Ond ry'n ni gyd yn ei gweld hi. Caru ti Mam x."
Hefyd o ddiddordeb