Pum munud gydag un o lysgenhadon #FelMerch, Nia Fajeyisan
- Cyhoeddwyd
Mae #FelMerch yn brosiect newydd gan yr Urdd sy'n anelu i ysbrydoli a chefnogi merched ifanc i gadw'n actif ac i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Nia Fajeyisan yw un o lysgenhadon yr ymgyrch. Mae Nia'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd. Dechreuodd chwarae pêl-droed pan oedd hi'n 10 oed, ac ar hyn o bryd mae'n chwarae i CPD Wanderers Caerdydd, Ysgolion Caerdydd a thîm Merched De Ddwyrain Cymru. Mae hefyd yn hyfforddi tîm Canton Liberal.
Bu Cymru Fyw'n holi hi am ei rôl newydd.
Beth mae chwaraeon yn golygu i ti?
Mae chwaraeon yn rhywbeth i fod yn falch amdano a wastad eisiau gwneud cynnydd mewn - mae'n angerdd mawr yn fy mywyd i.
Dim ots beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol, gyda ffrindiau neu gartref, mae'n fath o ddianc a'n gwrthdyniad o bopeth. Mae'n rhywbeth i wastad edrych ymlaen ato bob nos pan mae'r ysgol yn ddiflas.
Hefyd mae chwaraeon yn arbennig ar gyfer datblygu hyder a sgiliau cymdeithasol. Gallwch greu ffrindiau newydd, gwella eich ffitrwydd a bydd hynny yn y pen draw yn gwella eich hunan ddelwedd. Mae llwyddiannau yn eich camp yn rhoi rhywbeth i chi fod yn falch ohono wastad.
Beth neu phwy sy' wedi ysbrydoli ti yn dy fywyd?
Ers i mi ymuno â'r ysgol uwchradd dwi wedi dod ymlaen gyda'r adran addysg gorfforol yn wych oherwydd fy mrwdfrydedd am bob chwaraeon a gweithgaredd ymarferol. Cefais y gefnogaeth yna syth bin i gymryd rhan ym mhopeth.
Dwi'n cofio ar ddiwrnod pontio chwaraeon gwnaeth un o'r hyfforddwyr rygbi perswadio fi i ymuno gyda'r bechgyn i chwarae rygbi contact oherwydd dywedodd bod gen i'r potensial.
Hefyd ers blwyddyn wyth rydw i wedi bod yn rhan o brosiect elusennol School of Hard Knocks gydag Elinor Snowsill fel fy mentor. Roedd cael chwaraewraig proffesiynol go iawn yn dysgu fi yn profi i mi mae'n bosib llwyddo yn y byd chwaraeon fel merch. Wrth gwrs mae fy rhieni wastad wedi fy nghefnogi i hefyd a gwneud i mi gredu galla'i lwyddo os dwi'n gweithio'n galed.
Pam mae'n bwysig i ti i ysbrydoli merched i gymryd rhan mewn chwaraeon?
Credaf nad oes gan ferched yr un disgwyliad i gymryd rhan mewn chwaraeon fel mae bechgyn. I fechgyn mae pêl-droed a rygbi yn ffyrdd cyffredin iawn iddyn nhw gymdeithasu amser cinio neu ar y penwythnos felly mae bron pob bachgen wedi eu gorfodi i chwarae yn ystod ei blentyndod.
Ar gyfer merched does dim yr un disgwyliad i bawb cael rhyw fath o allu gyda phêl neu ffyn neu beth bynnag felly mae'n bwysig i ymgyrchoedd fel #FelMerch i fodoli er mwyn rhoi'r 'wmff' ecstra yna i genod ifanc gymryd rhan mewn ffordd sydd yn hwyl ac yn achlysurol yn hytrach na'n wastad yn gystadleuol.
Sut mae chwaraeon a chyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon wedi newid dy fywyd?
Mae chwarae pêl-droed yn bendant wedi helpu fi gyda hyder a sgiliau cymdeithasol. Yn enwedig mewn chwaraeon tîm mae'r elfen o gyfathrebu yna'n hanfodol. Wrth i mi wella a chwarae gyda thimoedd gwahanol dwi wedi dysgu sut i gymdeithasu gyda phobl efallai nad ydw i'n gyfarwydd gyda, bechgyn a merched.
Fel gôlgeidwad dwi hefyd wedi datblygu sgiliau arweiniol sydd yn ddefnyddiol ar y cae ond hefyd yn yr ystafell dosbarth a bywyd pob dydd. Mae chwaraeon yn cymryd llawer o fy amser rhydd i fyny ac felly mae cymdeithasu gyda ffrindiau yn digwydd yn llai aml ond beth sy'n arbennig yw bod gen i ffrindiau gwych dwi wedi creu yn fy nhimoedd gwahanol dwi wastad yn gallu edrych ymlaen at weld.
Pam wyt ti'n teimlo fod angen ymgyrch arbennig i gael merched i ymuno mewn chwaraeon?
Mae ymgyrch sy'n targedu merched yn unig yn bwysig gan fod llawer o ferched yn fwy hyderus pan fod dim bechgyn o gwmpas. Mae'n gwneud nhw'n fwy ymlaciol heb ofn o farnu bechgyn.
I fi yn sicr mae bywyd ysgol yn effeithio'n sylweddol ar fy nghymhelliant i chwarae. Ac yn enwedig yn ystod amseroedd dwys o waith mae ymarfer yn gallu dod yn llai o flaenoriaeth. Mae straen gwaith cartref ac adolygu yn gallu gwneud i bobl deimlo'n rhy wael i chwarae hefyd.
Beth yw'r darn o gyngor fyddet ti'n rhoi i ferch ifanc?
I beidio byth cymharu eich hunain i bobl eraill. Edrych am adborth ar eich perfformiad personol yn hytrach na chanlyniad y gêm neu ras. Dyna'r ffordd gorau i wella eich hunain.