Chwaraeon Cymru: Pump i'w gwylio yn 2022
- Cyhoeddwyd
Yn draddodiadol, ar ddydd Gŵyl San Steffan, fe fyddai yna lawer o gemau ar y meysydd chwarae ond eleni mae chwaraeon yr ŵyl wedi'u llethu gan Covid.
Ond mae Cymru Fyw wedi herio Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr, i ddewis pum person ifanc ym myd y campau i'w gwylio yn 2022. Beth ydych chi'n ei feddwl o'i ddewisiadau?
Christ Tshiunza - 19 oed
Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi helpu i feithrin talentau Sam Warburton, Gareth Bale a Geraint Thomas dros y blynyddoedd.
Tybed a'i Christ Tshuinza fydd y cyn-ddisgybl nesaf i wneud ei farc ar y byd chwaraeon?
Yn gymwys i chwarae dros Ffrainc a Lloegr hefyd, mae o wedi dewis chwarae dros Gymru, ac mae o'n barod wedi ennill dau gap yn ystod Cyfres yr Hydref eleni.
Yn chwe throedfedd a chwe modfedd, mae'r gallu ganddo i chwarae yn yr ail-reng ac yn y rheng-ôl, ac mae disgwyl iddo fod yn aelod blaenllaw o'r garfan ryngwladol am flynyddoedd i ddod.
Carrie Jones - 18 oed
Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn o newid i dîm pêl-droed merched Cymru, gyda Gemma Grainger yn cymryd drosodd gan Jayne Ludlow fel rheolwr.
Yn amlwg mae gan Grainger feddwl mawr o Carrie Jones, achos mae hi wedi chwarae rhan amlwg ystod ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023.
Ar ôl ymuno ag academi Manchester United yn 2020, mae hi bellach yn aelod rheolaidd o garfan y tîm cyntaf, gan arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf gyda'r clwb ychydig fisoedd yn ôl.
Mae gen i deimlad y bydd Jones yn serennu ar lefel clwb ac ar y lefel rhyngwladol am flynyddoedd maith i ddod.
Matthew Richards - 18 oed
Am flwyddyn oedd 2021 i Matthew Richards.
Mi oedd o'n rhan o dîm Prydain enillodd y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.
Richards a Calum Jarvis (oedd hefyd yn rhan o'r tîm) ydy'r nofwyr cyntaf o Gymru i ennill medal aur yn y Gemau ers 1912.
Mae o hefyd yn nofiwr unigol gwych hefyd, yn ennill y ras 100m dull rhydd ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn 2019.
Y gobaith ydy y gwelwn ni Richards yn cynrychioli Cymru yn y pwll yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.
Isaak Davies - 20 oed
Mae system ieuenctid clwb pêl-droed Caerdydd yn gweithio'n dda ar y funud.
'Dan ni'n barod wedi gweld Rubin Colwill a Mark Harris yn chwarae dros Gymru ar ôl torri mewn i dîm cyntaf Caerdydd.
Dwi'n eithaf siŵr mai Isaak Davies fydd y chwaraewr nesaf o academi yr Adar Gleision i gael ei alw mewn i'r garfan ryngwladol.
Mae o'n gwisgo rhif 39, sef hen rif Craig Bellamy. Mae Davies hefyd yn chwaraewr tebyg iawn i Bellamy - cyflym ac yn llawn triciau.
Mae o wedi creu argraff fawr tra'n chwarae i Gaerdydd yn ddiweddar, gan fwyaf fel eilydd. Dwi'n siŵr y bydd o'n dechrau gemau yn rheolaidd erbyn diwedd y tymor.
Zoe Backstedt - 17 oed
Mae'r ferch yma'n barod wedi cyflawni cymaint yn ei gyrfa.
Ar lefel ieuenctid mae hi wedi ennill Pencampwriaeth Ras Ffordd y Byd, ac mae hi wedi ennill Pencampwriaeth Trac Ewrop ar dri achlysur.
Ond yn fwy diweddar fe enillodd ei ras broffesiynol gyntaf draw yng Ngwlad Belg, sy'n golygu fod pawb yn y byd beicio wedi dechrau cymryd sylw ohoni.
Dydi hi ddim syndod ei bod hi'n mor dalentog ar gefn beic - mae ei thad Magnus wedi ennill cymal yn y Tour de France, tra bod ei mam Megan wedi cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Mae beicio felly'n rhedeg yn y gwaed yn y teulu!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2017