Gwasanaethau tân drwy Gymru wedi eu 'boddi' gan alwadau
- Cyhoeddwyd

Cafodd tanau, gan gynnwys y tân hwn yn Abertawe, eu hadrodd mewn sawl rhan o Gymru
Mae gwasanaethau tân drwy Gymru wedi dweud iddyn nhw gael eu "boddi" gan alwadau yn sgil nifer o danau glaswellt a thanau ar fynyddoedd ar hyd a lled y wlad.
Roedd yna adroddiadau o danau yn Sir Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Powys, Castell-nedd Port Talbot a Gwynedd ddydd Mawrth.
Fe wnaeth tân ar Fynydd Cilfái yn Abertawe sbarduno 160 o alwadau brys, gydag un criw yn ymateb i'r fflamau.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi cymryd galwadau o'r de yn sgil y nifer sylweddol o adroddiadau.

Roedd yna 160 o alwadau brys yn sgil y tân yma yn Abertawe
Roedd yna adroddiadau o danau gwyllt yn Aberllechau yn Rhondda Cynon Taf, Crughywel ym Mhowys, Croeserw yng Nghastell-nedd Port Talbot, a Chwm Dulyn ger Llanllyfni yng Ngwynedd.
Daw hyn wedi cyfnod o dywydd cynnes a sych.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022