Mwangi: Llanc 14 oed yn canu am ddyrnu plant
- Cyhoeddwyd
Clywodd rheithgor bod llanc 14 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio bachgen pump oed, wedi canu am ddyrnu plant yn eu pennau.
Cafodd corff Logan Mwangi ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 31 Gorffennaf y llynedd, gyda 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol.
Hefyd ddydd Mercher, clywodd Llys y Goron Caerdydd dystiolaeth gan ddiffynnydd arall, John Cole, pan ddywedodd ei fod wedi symud corff Logan, ond nad oedd yn gwybod sut y bu farw.
Mae mam Logan, Angharad Williamson, ei phartner hi, John Cole, a bachgen 14 oed, na ellir ei enwi, oll yn gwadu llofruddiaeth.
'Taflu' Logan ar y gwely
Darllenwyd cyfweliad rhwng John Cole a'r Ditectif Gwnstabl Dylan Neal yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd, lle dywedodd y diffynnydd: "Dwi'n sicr nad oedd yr un ohonom isio brifo Logan, nid fel hyn."
Roedd Logan yn "drwsgl", meddai, ac o hyd yn "neidio oddi ar bethau".
Dywedodd ei fod ef ac Angharad Williamson wedi taro Logan yn y gorffennol, clywodd y llys.
Siaradodd am y diwrnod cyn i gorff Logan gael ei ddarganfod, pan oedd Logan yn hunan-ynysu ar ôl cael Covid.
Dywedodd fod y bachgen "yn cael ei weindio lan mwy a mwy", a'i fod yn neidio oddi ar y droriau.
"Fedren ni ddim risgio cael Covid gan Logan," meddai.
"Roedd rhaid i mi ei godi o dan ei freichiau, a'i gario i'w lofft a'i daflu ar y gwely. Fedra i ddim dweud sut y glaniodd."
Yn ddiweddarach dywedodd Mr Cole wrth yr heddlu bod Logan wedi "llithro a glanio yn y bath".
Roedd Logan yn dal i gadw sŵn pan aeth Mr Cole i gysgu, ac aeth Angharad Williamson i'w weld.
Dywedodd John Cole ei fod wedi deffro i glywed Angharad Williamson yn sgrechian "mae o wedi marw, mae Logan wedi marw".
Dywedodd ei fod wedi ceisio adfer Logan trwy roi CPR iddo.
Roedd Ms Williamson yn orffwyll, meddai, ac yn anadlu'n gyflym gan weiddi "mae o wedi marw, mae o wedi marw, does 'na ddim byd allwn ni wneud!"
"Hoffwn wneud yn glir nad wyf yn gwybod beth ddigwyddodd, os rhywbeth, ar ôl iddo fynd i gysgu."
"Dwi'n sicr nad oedd yr un ohonom isio brifo Logan, nid fel hyn," meddai wrth yr heddlu.
Dywedodd John Cole ei fod yn cofio rhywun yn dweud "ewch ag e allan".
"Mi wnes i ei gario at yr afon a'i roi ar y lan yn y tywyllwch", meddai Mr Cole.
Roedd Angharad Williamson wedi rhwygo top pyjamas Logan wrth ei daflu ar ei wely yn gynharach, meddai.
Roedd John Cole ac Angharad Williamson ill dau wedi dweud celwydd wrth yr heddlu, meddai Mr Cole.
"Roedd y ddau ohonom wedi bod yn rough gydag e," meddai.
Ar ddiwedd ei gyfweliad cyntaf gyda'r heddlu, dywedodd ei fod yn teimlo "mewn trallod, wedi fferru, yn alarus, yn euog".
"Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd, beth a'i laddodd.
"Dwi'n caru Logan - wnes i ddim ei lofruddio, mi geisiais ei achub."
'Canu gydag arddeliad'
Yn gynharach, clywodd y rheithgor dystiolaeth gan weithiwr cefnogol bod y bachgen 14 oed, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio Logan, wedi dweud: "Ble mae'r plant, dwi isio lladd y plant i gyd."
Darllenwyd nifer o ddatganiadau yn ymwneud â'r diffynnydd ifanc.
Roedd gweithiwr cefnogol arall wedi ei glywed yn canu: "I love to punch kids in the head, it's orgasmic".
Roedd yn canu'r llinell ar dop ei lais "gydag arddeliad", meddai.
Ond clywodd y rheithgor bod y bachgen wedi dweud wrth ei weithiwr cymdeithasol nad oedd wedi brifo Logan.
'Dwi ddim yn fwystfil'
Clywodd y llys hefyd bod Angharad Williamson wedi ysgrifennu llythyr o'r carchar at ei rhieni yn gwadu bod ganddi unrhyw beth i'w wneud â llofruddiaeth ei mab, gan ddweud "dwi ddim yn fwystfil fel maen nhw dweud yn y cyfryngau".
"Dwi wedi colli fy mab ac mae fy nghyn-bartner wedi cyfaddef i frifo Plentyn L a symud ei gorff," meddai yn ei llythyr.
"Fel fy rhieni dwi'n gobeithio eich bod yn gwybod nad oes gen i unrhyw beth i'w wneud â marwolaeth Plentyn L. Mae fy myd yn cwympo'n deilchion o'm cwmpas i.
"Oedolyn J wnaeth frifo Plentyn L," meddai.
Darllenwyd trawsgrifiad o alwad ffôn rhwng Angharad Williamson a'i mam o'r carchar, lle'r oedd y diffynnydd yn holi: "Sut mae o [John Cole] yn gallu pledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder?
"Sut fedr o bledio'n ddieuog i lofruddiaeth? Beth ddigwyddodd? Dwi angen gwybod."
Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.
Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu. John Cole yw'r unig un o'r tri sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022