Mwy ar restrau aros Cymru am y 21ain mis yn olynol

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ton Omicron yn "parhau i gael effaith ar lefelau staffio"

Mae nifer y bobl sy'n disgwyl am driniaethau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi cynyddu i'w lefel uchaf erioed am y 21ain mis yn olynol.

Roedd 688,836 o driniaethau eto i gael eu cyflawni yng Nghymru fis Ionawr, ond mae cyflymder y twf yn gostwng.

Dyna'r nifer o driniaethau sydd eto i gael eu cwblhau - mae'n bosib fod rhai cleifion yn disgwyl am fwy nag un driniaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod amrywiolyn Omicron wedi cael effaith sylweddol ar lefelau staffio'r gwasanaeth iechyd.

Roedd cynnydd hefyd yn nifer y galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod mis Chwefror, gyda dros 100 o alwadau coch - y rhai mwyaf brys - yn cael eu gwneud pob dydd ar gyfartaledd.

Mae nifer y galwadau sy'n cael eu cyrraedd o fewn y targed o wyth munud wedi gwella ychydig, ond mae'n parhau 10% yn is na'r targed o 65%.

Omicron yn tarfu ar lefelau staffio

Fe wnaeth nifer y bobl sy'n mynychu adrannau brys ysbytai gynyddu 8.7% fis Chwefror.

Mae nifer y bobl sy'n disgwyl yn hirach na'r targedau pedair a 12 awr i gael eu trin wedi gostwng hefyd.

Mis Chwefror oedd yr ail fis gwaethaf erioed o ran cleifion fu'n gorfod disgwyl dros 12 awr i gael eu trin mewn uned frys - dim ond Hydref 2021 oedd yn waeth.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Fis Chwefror roedd dros 100 o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans pob dydd ar gyfartaledd

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ton Omicron yn "parhau i gael effaith ar lefelau staffio, a oedd yn rhoi straen sylweddol ar y GIG, gyda Ionawr 2022 yn gweld y lefel uchaf o salwch staff oherwydd COVID ers mis Ebrill 2020".

"Er gwaethaf nifer yr absenoldebau staff, diolch i ymdrechion arwrol staff y GIG, ym mis Ionawr gwelwyd y cynnydd lleiaf ond un fis ar ôl mis o gyfanswm y rhestr aros ers dechrau'r pandemig," meddai llefarydd.

"Yn anffodus roedd y cyfuniad o staffio, pwysau'r gaeaf a'r don Omicron yn golygu bod rhai pobl yn parhau i aros yn hirach am driniaeth nag yr hoffem."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn "cyhoeddi cynllun manwl ar sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros" fis nesaf.

'Heriau sylweddol'

Dywedodd y llefarydd hefyd fod y cynnydd yn nifer y galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans a'r nifer sy'n mynychu unedau brys yn "creu heriau sylweddol".

"Ym mis Chwefror 2022 gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm y galwadau a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans o'i gymharu â'r mis blaenorol - a'r un mis y llynedd," meddai.

"Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed ymateb ambiwlans o wyth munud 2.5% ar Ionawr 2022.

"Mae adrannau achosion brys hefyd wedi gweld mwy o weithgarwch - gyda dros draean yn fwy o bresenoldebau na mis Chwefror 2021 - sydd wedi creu heriau sylweddol i dimau ysbytai ac mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr yn parhau'n llawer is na'r hyn y dylai fod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer y bobl sy'n mynychu adrannau brys ysbytai gynyddu 8.7% fis Chwefror

Yn ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George fod Cymru yn "haeddu cymaint gwell".

"Ry'n ni'n gwybod fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar restrau aros - nid eu bod nhw'n grêt cyn hynny wrth iddynt ddyblu yn y flwyddyn cyn y pandemig - ond bydd yr esgus yna yn un nad oes modd ei gyfiawnhau cyn hir," meddai.

"Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud y bydd byrddau iechyd yn adrodd yn ôl gyda'u cynlluniau i leihau'r rhestrau aros, ond fe ddylai'r Farwnes Morgan fod yn eu harwain at ddatrysiad, nid eistedd yn ôl a'u gwylio."

Beth yw'r sefyllfa gyda chanser?

Ym mis Ionawr 2022, roedd 53% o'r atgyfeiriadau i wasanaethau canser wedi dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.

Dyma oedd y perfformiad gwaethaf ar gofnod ers dechrau casglu data ym mis Mehefin 2019.

Er hynny roedd cynnydd yn y nifer gafodd eu gweld, yn enwedig yn nifer y cleifion gafodd wybod nad oes ganddyn nhw ganser.

Un rheswm am hyn ydy Canolfannau Diagnosis Cyflym.

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud bod hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn yr ardaloedd o Gymru ble maen nhw wedi cael eu sefydlu. 

Fe fydd y cynllun nawr yn cael ei ehangu, gyda chanolfan yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn bo hir.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Dyfan Jones fod y canolfannau canser yn "llenwi bwlch 'da ni 'di deimlo ers rhai blynyddoedd"

Mae Dr Dyfan Jones, meddyg teulu yn Ninbych, yn dweud fod y ganolfan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi helpu cleifion y feddygfa i gael diagnosis yn gynnar.

"Lle mae symptomau penodol [canser] yn bodoli, mae'r systemau yn dda," meddai.

"Ond o bryd i'w gilydd, 'da ni fel meddygon teulu yn dod ar draws claf 'da ni'n poeni amdanyn nhw yn gyffredinol.

"Mae gynnon ni rhyw amheuaeth bod 'na rywbeth mawr o'i le, ond efallai bod y cleifion yma ddim yn ffitio mewn i ryw batrwm o symptomau, sy'n ei gwneud hi'n anodd i ni eu rhoi nhw ar lwybr cyflym i gael mwy o brofion, sganiau ac yn y blaen."

"Mae'r clinig newydd yma yn pontio'r sefyllfa yna. Mae o'n llenwi bwlch 'da ni 'di deimlo fel meddygon teulu ers rhai blynyddoedd bellach."