'Mwy o bwysau' ar ambiwlansys ers codi cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn derbyn galwadau sy'n gysylltiedig ag alcohol bob awr o'r dydd ers llacio cyfyngiadau Covid-19.
Mae'r galw ar y gwasanaeth wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth iddyn nhw dderbyn dros 100 o alwadau bob dydd ble mae bywyd yn y fantol.
Ond mae'r pwysau wedi cynyddu ymhellach wrth i natur y galwadau ddychwelyd i'w lefelau cyn y pandemig, yn ôl un parafeddyg.
"Nawr mae'r tafarndai wedi ailagor, ni'n mynd 'nôl i'r syrthio, y baglu a'r dadleuon, yr ymladd a hyd yn oed y domestics sy'n gysylltiedig ag alcohol," medd Steve Bennett o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Mae'n rhoi llawer o bwysau ar ein hadnoddau. Yn bendant, rydyn ni'n ymateb i fwy o alwadau bob dydd.
"Ry'n ni'n ceisio ymdopi â hynny, ond dim ond hyn a hyn o gerbydau y gallwn ni eu gyrru allan yna."
Ambiwlans ar feic
Nid cerbydau yw'r unig adnoddau y mae'r gwasanaeth yn eu defnyddio.
Pan fydd digwyddiadau mawr fel rygbi'r Chwe Gwlad, cyngherddau, neu hyd yn oed siopa Nadolig yn achosi i'r ardal i gerddwyr yng nghanol Caerdydd brysuro, mae'n fwy anodd i ambiwlans traddodiadol gyrraedd claf, gan arafu eu hamser ymateb.
Roedd Mr Bennett yn un o'r rhai sefydlodd yr Uned Ymateb Beiciau ar ddiwedd 2016 - gan osod cynnwys ambiwlans ar feiciau - ac mae'n parhau i weithio shifftiau gyda nhw, yn ogystal â'i brif swydd gyda'r gwasanaeth.
"Pan 'da chi'n ceisio cael ambiwlans pum tunnell a hanner i mewn drwy'r torfeydd, yn enwedig 70,000 o bobl, dydych chi ddim yn mynd i unman," meddai.
"Ond mae'r beiciau'n gyflym, maen nhw'n chwim, ac eto maen nhw'n cario'r un offer â Cherbyd Ymateb Sydyn neu ambiwlans. Yr unig beth na allwn ei wneud ydy symud cleifion."
Mae'n golygu bod y beiciau'n pwyso 57kg ac mae'r staff wedi'u hyfforddi i fynd yn araf drwy dorfeydd.
'O ddamwain ffordd i eni babi'
Ddydd Sadwrn treulion ni'r diwrnod yn dilyn Mr Bennett a'i gydweithiwr Terry Bowsher, sy'n dechnegydd meddygol brys, wrth i ddegau o filoedd o bobl gyrraedd y brifddinas ar gyfer diwedd y Chwe Gwlad.
Roedd rhan olaf y shifft yn gymysgedd disgwyliedig o achosion yn ymwneud ag alcohol.
Cafodd un claf a oedd wedi syrthio ei drin a'i ryddhau, ac fe gafodd un arall ei drin a'i roi mewn tacsi tuag at yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys - y ddau yn osgoi'r angen am ambiwlans.
Ond fe wnaeth dau alwad yn y prynhawn danlinellu'r rôl y mae sefydliadau allweddol a gweithwyr brys yn eu chwarae ar ddiwrnodau prysur yng nghanol y ddinas.
Am 15:27 daeth galwad yn dweud bod menyw wedi baglu yng Ngorsaf Caerdydd Canolog - funud yn ddiweddarach, roedd Mr Bennett a Mr Bowsher yno.
Roedd Michelle Gregory, 62, a'i ffrind wedi gobeithio osgoi'r ciwiau ar gyfer y trên adref i Devizes yn Lloegr a gadael y gêm yn gynnar - ond fe wnaeth Ms Gregory faglu a chwympo, gan adael y nyrs gyda'i hysgwydd o bosib wedi'i datgymalu.
Neilltuodd staff yr orsaf ardal iddi gael ei thrin, i ffwrdd o'r miloedd o deithwyr oedd yn cael eu tywys i'w platfform.
Rhoddodd Mr Bennett a Mr Bowsher feddyginiaeth i Ms Gregory i leddfu ei phoen nes i'r ambiwlans gyrraedd am 16:24 - er y byddai'n saith awr arall nes i'w cydweithwyr allu trosglwyddo Ms Gregory i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, gymaint oedd y galw ar wasanaethau'r ysbyty.
Am 17:52 daeth ail alwad o Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP), yn dweud bod dyn wedi syrthio rhwng trên ac ymyl platfform.
O fewn pedair munud roedd Mr Bennett a Mr Bowsher yno.
Rhoddodd swyddogion BTP gymorth i ostwng Mr Bennett i'r claf, tra bod Mr Bowsher yn rhoi'r cyflenwadau angenrheidiol iddo o'r platfform.
Yn ystod yr awr nesaf, fe wnaeth eu cydweithwyr o gerbyd ymateb sydyn, ambiwlans, yr ambiwlans awyr a'r gwasanaeth tân ymuno â nhw.
Cafodd y claf ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ble mae'n cael ei drin yn yr uned gofal dwys ar ôl dioddef anafiadau fydd yn newid ei fywyd.
"Mae pob awr o bob dydd yn wahanol," meddai Mr Bennett.
"Gallwn ddechrau'r shifft yn y bore a mynd i ddamwain ffordd, a'r galwad olaf o'r dydd fydd geni babi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021