Dim rhaid gwisgo mwgwd mewn siop o ddydd Llun ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn bwysig cadw rhai o'r rheoliadau am y tro

Ni fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb yn ôl y gyfraith mewn siopau, bysiau a threnau o ddydd Llun ymlaen - ond bydd angen eu gwisgo mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chael gwared ar ei holl gyfreithiau Covid mewn ymateb i gyfraddau cynyddol o achosion.

Bydd yn ofynnol o hyd i gwmnïau gymryd rhagofalon ac asesu risg coronafeirws ar eu heiddo.

Ond bydd rhai rheolau mawr, gan gynnwys y gyfraith hunan-ynysu, yn dod i ben fel y cynlluniwyd.

Mewn cynhadledd newyddion brynhawn Gwener, fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y penderfyniad "ar fin y gyllell" wrth i'r ystadegau ddiweddaraf awgrymu y gallai un o bob 12 o bobl Cymru fod â Covid ar hyn o bryd.

Beth sy'n newid o ddydd Llun?

  • Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus;

  • Bydd y gofyniad i hunan-ynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau;

  • Bydd taliad hunan-ynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin;

  • Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol;

  • Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.

Disgrifiad,

Dydy Lowri Jones o Siop Wyn 'ddim yn siwr' am newid rheolau mygydau siopau

Ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y byddai Llywodraeth Cymru wedi hoffi llacio mwy o'r rheolau ond nad oedd hynny'n bosib ar hyn o bryd oherwydd bod yr haint yn dal i ymledu.

Awgrymodd ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), ar gyfer yr wythnos hyd at 19 Mawrth, bod un ymhob 16 o boblogaeth Cymru â'r haint, ond erbyn hyn y gred yw y gallai'r ffigwr fod mor uchel ag un ymhob 12.

"Mae coronafeirws dal i ymledu o fewn ein cymunedau ni ac mae hynny wrth gwrs yn achos gofid i ni," meddai.

"Ond y gwahaniaeth nawr yw, achos fod gymaint o bobl wedi cael eu brechu ychydig iawn ohonyn nhw sy'n wirioneddol yn mynd yn sâl."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 1,400 o gleifion gyda Covid yn ysbytai Cymru

Dywedodd Ms Morgan fod y newid diweddaraf yn symud o ddeddfwriaeth i ganllawiau.

"Dyw hi ddim yn ofynnol rhagor i wisgo gwarchodydd wyneb mewn siop na thrafnidiaeth gyhoeddus ond y' ni dal yn dweud ei bod yn rhywbeth rhesymol i wneud."

Fe fydd hi dal yn ofynnol i bobl yng Nghymru wisgo mygydau mewn ysbytai a chartrefi gofal.

Mae tua 1,400 o bobl yn yr ysbytai yn dioddef o Covid, meddai. O'r rheiny dim ond tua 16% sy'n cael eu trin am Covid, felly mae'r gweddill yn mynd mewn am gyflwr arall.

"Beth ry'n ni'n poeni am yw bod nifer o bobl yn dal Covid yn yr ysbyty, a dyna pam y bydd hi yn parhau i fod yn ofynnol i wisgo gorchudd wyneb mewn ysbytai ac mewn cartrefi gofal."

'Methu dibynnu ar y gyfraith am byth'

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham fod rhai o'r cyfyngiadau yn parhau mewn grym, dywedodd Mr Drakeford bod y penderfyniad wedi bod "ar fin y gyllell" wrth geisio sicrhau'r cydbwysedd cywir.

"Rhaid ffeindio ffordd i fyw gyda coronafeirws, ond mae'n bwysig bod yn ofalus a derbyn y ffaith fod cynifer o bobl yn dost yn cynyddu," meddai.

"Rhaid ffeindio ffordd i fyw gyda hyn. Ni allwn ddibynnu ar rym y gyfraith am byth."

Rhybuddiodd bod y feirws "ddim jest am fod gyda ni am yr wythnosau nesaf ond am weddill eleni" ac y byddai'r brechlyn yn parhau fel prif arf yn ei erbyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r is-amrywiolyn BA2 yn trosglwyddo'n gyflymach na'r amrywiolyn Omicron gwreiddiol

Dywedodd Mr Drakeford bod hi'n debygol mai'r is-amrywiolyn Omicron BA2, sy'n trosglwyddo'n gynt nag Omicron, "sy'n gyfrifol am fwyafrif yr achosion newydd yng Nghymru bellach".

Dyna'r rheswm, meddai, dros gynnydd sylweddol yn ddiweddar yng nghyfraddau Covid-19 - 430 achos i bob 100,000 o boblogaeth Cymru erbyn hyn o'i gymharu â 160 dair wythnos yn ôl.

Ychwanegodd bod nifer y cleifion â Covid yn ysbytai Cymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers Mawrth y llynedd.

"Ar y lefel yma," meddai, "mae gwasanaethau ehangach yn cael eu heffeithio oherwydd bod cymaint o welyau yn llawn, ac yn anffodus, mae'r perygl o drosglwyddo Covid-19 o fewn ysbytai yn cynyddu."

'Byddai'n well aros mis arall'

Mae rhai o fewn y maes iechyd yn poeni fod y llywodraeth wedi llacio yn rhy gynnar.

"Mi fasa'n well gen i weld hyn yn cario 'mlaen am ryw fis arall ac ella ail edrych ar y peth adeg hynny i weld os fedran ni lacio," meddai Dr Dr Harri Pritchard ar Dros Frecwast.

"Fel y dywedodd y gweinidog mae 'na dros 1,000 yn yr ysbyty felly dydy'r ffigyrau ddim yn fach iawn chwaith, a'r mwya'n byd o bobl fregus fydd yn cael Covid, mwya'n byd o bobl fydd mynd i'r ysbytai a mwya'n byd fydd yn marw," meddai'r meddyg teulu yn Amlwch.

"Dwi'n meddwl bod gofyn i bobl wisgo masg wrth fynd i siopa, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ormod i ofyn am ryw fis arall nes bod yn rhifau'n dod i lawr yn naturiol a wedyn, galluogi ni i symud ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd angen gorchuddion wyneb yn gyfreithiol yn siopau Cymru

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau'r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.

Ni fydd profion PCR ar gyfer y cyhoedd ar gael o ddydd Llun ymlaen ychwaith, er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw profion llif unffordd am ddim i bobl â symptomau tan fis Mehefin.

Yr Alban fydd yr unig wlad yn y DU lle bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol yn gyfreithiol mewn siopau, ar ôl i weinidogion benderfynu cadw'r rheoliadau ym mis Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd profion PCR yn dod i ben yng Nghymru yr wythnos nesaf

Rheolau'n 'wrth-fusnes'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS: "Er ein bod yn croesawu bod gweinidogion wedi gwrando unwaith eto ar gynigion y Ceidwadwyr Cymreig gyda hunan-ynysu a gwisgo mygydau yn dod yn ganllaw o ddydd Llun ymlaen, mae'n siomedig bod llywodraeth Lafur yn parhau i fod yn wrth-fusnes.

"Ar adeg pan ddylai'r llywodraeth fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hybu swyddi a chynhyrchiant, a yw'n iawn i fusnesau barhau i lenwi gwaith papur heb fawr o werth?

"Mae angen inni ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn sy'n iawn i gadw eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel."

Dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Er ei bod yn newyddion da bod y llywodraeth yn ei hystyried yn ddigon diogel i ddod â chyfyngiadau pellach i ben, mae'n ffaith bod salwch gweithwyr allweddol ac absenoldeb salwch bellach yn broblem wirioneddol i lawer o wasanaethau.

"Gyda phrinder staff ar draws lleoliadau iechyd, gofal ac addysg, bydd pryderon gwirioneddol ynghylch effaith codi'r amddiffyniadau sy'n weddill, ar adeg pan fo achosion yn cynyddu.

"Rhaid i'r llywodraeth nodi'n union sut mae'n bwriadu lleddfu'r pwysau - yn enwedig ar ein gwasanaethau iechyd a gofal - pe bai achosion cynyddol yn effeithio ar lefelau gwasanaeth ymhellach."

Cyfraddau achosion yn codi

Mae arolwg swab wythnosol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd mewn heintiau yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Roedd yn awgrymu bod gan 125,400 o bobl yng Nghymru Covid yn yr wythnos yn diweddu 12 Mawrth - cynnydd ar amcangyfrif yr wythnos flaenorol o 97,900.

Mae canlyniadau PCR Covid wedi lleihau o ran pwysigrwydd yn ystod y misoedd diwethaf ond maent hefyd wedi dangos cynnydd.

Ddydd Iau roedd cyfradd achosion Cymru yn 424.2 fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod, i fyny o tua 156 ar ddiwedd mis Chwefror.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi symptomau ysgafn o BA.2.

Ychwanegodd bod disgwyl y byddai'n ysgogi cynnydd mewn achosion a derbyniadau i'r ysbyty.