Ras emosiynol ar Sul y Mamau i ffoadur o Wcráin
- Cyhoeddwyd
Roedd yna arwyddocâd arbennig yn achos un o'r rhedwyr sy'n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul - sef Sul y Mamau.
Un o Wcráin yw Inna Gordiienko, a wnaeth ffoi o'i mamwlad gan amau bod rhyfel ar y gorwel, ac fe ddywedodd y bydd yn meddwl am ei mam a'i nain sy'n dal yn y wlad.
Roedd dros 25,000 o redwyr yn anelu at gwblhau'r cwrs 13.1 milltir, neu 20 cilomedr, ar draws prifddinas Cymru.
Yn eu plith roedd menyw ifanc oedd methu cerdded ar ôl torri ei choesau a menyw arall sy'n disgwyl babi mewn dau fis.
Fe redodd Inna, 29, Hanner Marathon Caerdydd yn 2019 ond ni fuasai fyth wedi dychmygu dychwelyd mor fuan ac y byddai hithau'n ffoadur.
Fe adawodd ddinas Kyiv bum wythnos yn ôl gyda'i gŵr Prydeinig a'u corgi Cymreig, Cooper.
Ond mae ei mam, Oksana, o ardal ger y ffin â Moldofa, ymhlith y miliynau sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae ei nain 79 oed, Boksana, yn lloches rhag y bomio yn ninas Kharkiv.
Does gan Inna ddim syniad pa bryd y gallai ddychwelyd adref na gweld ei theulu eto.
"Mae'n anghredadwy beth sy'n digwydd yn fy ngwlad," meddai.
"Yn wreiddiol, roedden ni'n meddwl bydden ni'n gallu mynd adref ac ailgydio yn ein bywydau... ges i alwad gan fy mam am 04:00 un diwrnod yn dweud bod y Rwsiaid yn ei bomio hi yn Kharkiv.
'Rwy'n lwcus i fod ble'r ydw i'
"Nes i berswadio fy mam i adael y ddinas ond mae fy nain yn gwrthod gadael er bod y Rwsiaid wedi bomio Kharkhiv nes ei bod bron ddim yn bod... fe gollodd hanner ei fflat mewn ymgyrch fomio.
"Roedd clywed fy mam yn llawn ofn ac ansicrwydd tra 'mod inna'n ddiogel yn dorcalonnus. Mae fy nain yn dweud wrtha'i gymaint mae hi'n ofni colli ei bywyd, o bosib, mewn ffordd mor annheg.
"Mae llawer o fy ffrindiau yn treulio dyddiau dan ddaear, dim ond i geisio aros yn fyw. Rwy'n lwcus i fod ble'r ydw i ac ro'n i'n teimlo bod rhaid ceisio gwneud rhywbeth - unrhyw beth - i godi arian ac ymwybyddiaeth.
"Byddaf yn rhedeg y ras dros fy ngwlad, fy nghartref a fy anwyliaid. Byddaf yn meddwl am fy mam a fy nain bob cam o'r ffordd."
Roedd yna funud o gymeradwyaeth ar ddechrau'r ras i ddangos cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin, ac fe fydd yna gasgliad hefyd ar gyfer achosion dyngarol.
Mae sawl hanes rhyfeddol arall ynghlwm â rhai o'r bobl sy'n ymgymryd â'r her o redeg mwy na 20 cilomedr.
Roedd Hannah Barrett yn 26 oed ac yn teithio trwy Awstralia pan drodd damwain car ei bywyd wyneb i waered.
Er gwaethaf goroesi'r ddamwain a laddodd ei ffrind, cafodd Hannah ei tharo'n anymwybodol a deffro yn methu cerdded ar ôl torri ei dwy goes.
Ar ôl misoedd o adsefydlu dwys, dywedwyd wrthi mae'n debyg na fyddai byth yn gallu rhedeg eto.
Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Hannah yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul er cof am ei ffrind.
"Dydw i ddim yn hoffi cael gwybod na allaf wneud rhywbeth," meddai.
"Cefais wybod... 'peidiwch â meddwl am y peth [rhedeg] - rydych chi'n mynd i gael pengliniau arthritig. Fydd e ddim yn dda i chi'."
Dywedodd Hannah y byddai'n meddwl am ei ffrind Savannah wrth iddi groesi'r llinell derfyn.
"Mae hi gyda fi bob dydd. Roedd y ddau ohonom yn 26 pan gawsom y ddamwain.
"Daeth ei bywyd i ben yn 26 a dwi'n meddwl am yr holl bethau hyn rydw i eisiau eu gwneud gyda fy mywyd - a galla i."
Mae Hannah hefyd yn byw gyda math 1 diabetes ac yn codi arian dros yr elusen Diabetes Research and Wellness Foundation.
Dywedodd y bydd croesi'r llinell derfyn ddydd Sul yn foment fawr iddi, ac "nid yn unig ar ran elusen sy'n cefnogi cyflwr rydw i'n byw gydag e weddill fy oes...
"Dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n barod ar gyfer gymaint y mae hyn yn mynd i ddweud arna'i yn emosiynol."
Un o redwyr eraill yr hanner marathon yw Alex Jones o'r Fenni, sy'n disgwyl babi mewn dau fis.
"Mae rhai pobl yn bryderus, mae rhai'n arswydo, ac mae eraill yn meddwl bod e'n beth positif," meddai.
"Mae wedi fy helpu i aros yn eithaf ffit a chryf, a fydd yn helpu yn ystod yr enedigaeth.
"Mae'n debyg y bydd yn eithaf emosiynol i gyrraedd y diwedd, ond rwy'n gobeithio y bydd yn stori wirioneddol hyfryd i'w hadrodd i'r babi yn y dyfodol."
'Mae'n rhan o'r diwylliant Cymreig'
Dywedodd cyfarwyddwr y ras, y cyn athletwr Olympaidd Steve Brace, y bydd yn ddiwrnod gwych i'r brifddinas 903 o ddiwrnodau ers y ras ddiwethaf.
Hanner Marathon Caerdydd yw'r ail ras fwyaf o'r fath yn y DU - yn ail yn unig i'r Great North Run - ond bu'n rhaid ei gohirio ddwywaith oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Ras ddydd Sul felly yw'r digwyddiad torfol mwyaf o'r fath yng Nghymru ers cyn y pandemig.
"Mae wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd," meddai Steve Brace.
"Roedd gyda ni 27,000 o geisiadau... mae hwn yn ddechrau cyfnod newydd.
"Mae llawer o bobl wedi bod yn aros amdano… mae'n rhan o'r diwylliant Cymreig erbyn hyn. Dyma ein Marathon Llundain ni.
"Dyma ein cyfle i ddangos y ddinas a'i trwy ei holl lefydd nodedig - o'r dŵr i'r holl faestrefi, i'r llyn gan ddefnyddion ein holl lefydd eiconig.
"Bu hir ymaros amdano."
Ar ôl croesi'r linell derfyn, roedd rhedwyr yn derbyn crys-t wedi ei ddylunio'n arbennig gan yr artist o Gaerdydd Nathan Wyburn.
Mae wedi creu'r ddelwedd gan gamu a rhedeg mewn paent glas.
"Mae'n deimlad gwirioneddol rhyfeddol i wybod y bydd dros 20,000 o bobl yn gwisgo fy ngwaith," meddai, "a gyda balchder hefyd, oherwydd bydden nhw'n falch eithriadol o fod wedi cwblhau'r marathon.
"Hyd y gwn, does neb wedi dylunio crys-t hanner marathon gyda'u traed o'r blaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020