Arestio aelod staff ysgol ar amheuaeth o fod â delweddau anweddus
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o staff ysgol uwchradd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn 45 oed yn dod o'r Barri, a'i fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod eu hymchwiliad yn parhau.
Mae'r dyn wedi ei wahardd o'i waith yn Ysgol Stanwell, Penarth.
Dywedodd Trevor Brown, prifathro'r ysgol: "Yn unol â gweithdrefnau diogelu cadarn yr ysgol, cafodd yr aelod o staff ei wahardd yn syth ac nid yw'n gweithio yn yr ysgol.
"Hoffwn gadarnhau i gymuned yr ysgol nad oes unrhyw bryderon diogelu gydag unrhyw aelod arall o staff mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn, ac nad yw disgyblion Stanwell o dan unrhyw risg.
"Mae gan ein hysgol rwydweithiau gofal bugeiliol hynod o gryf. Drwy'r rhain, bydd disgyblion yn gallu cael mynediad, fel arfer, i unrhyw gefnogaeth sydd ei angen arnynt."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Bro Morgannwg bod eu tîm diogelu yn cefnogi'r heddlu gyda'u hymchwiliad.