Fforestfach: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad yn ardal Fforestfach, Abertawe ddydd Sul.
Mae Steven Thomas (Rice), o Abertawe, hefyd yn wynebu nifer o gyhuddiadau am droseddau moduro.
Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau, lle cafodd yr achos ei draddodi i Lys y Goron y ddinas.
Mae dyn 26 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Fforestfach, tua 15:00 brynhawn Sul, yn ymwneud a char Ford Ecosport llwyd a beic trydan.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Kingdom: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad dros y diwrnod neu ddau diwethaf.
"Ar hyn o bryd rydym yn gofyn yn garedig i bobl leol barhau i aros yn dawel ac i barchu'r broses gyfreithiol."